guto 0
28 Mawrth 2018

 

Wrth i gynnydd mawr ym mhrisiau gwellt gynyddu costau ffermwyr defaid Cymru, gallai lloriau slatiog fod yn un ateb ond mae’n rhaid cymharu’r manteision â’r buddsoddiad cychwynnol.

Yn ystod digwyddiad dan aden Cyswllt Ffermio ar Fferm Nant Cornwal yn Llansannan, ger Dinbych, lle mae’r teulu Ellis wedi gosod llawr slatiog yn un o’r siediau defaid, dywedodd y milfeddyg Phillipa Page fod y systemau hyn yn cwtogi ar y deunydd gorwedd neu’r sarn sy’n angenrheidiol ond bod yna gostau hefyd.

“Mae yna gostau yn y buddsoddiad ar y dechrau ond mae modd rhannu’r costau hynny drwy ddefnyddio’r slatiau ar adegau eraill yn y flwyddyn hefyd, i gysgodi a phesgi ŵyn stôr,’’ meddai wrth aelodau Grŵp Trafod Pentrefoelas.

Mae’n bosibl defnyddio’r slatiau ar gyfer mamogiaid beichiog hefyd, ond dim ond os bydd gwellt ar gael hefyd i’r mamogiaid.

Ym mis Rhagfyr 2016, roedd gwellt barlys mewn byrnau sgwâr yn costio tua £45 y dunnell ond erbyn mis Ionawr 2018 roedd y pris wedi dyblu. Serch hynny, mae dewisiadau eraill ar gael o ran gwasarn ac mae’r rhain yn cael eu rhestru mewn cyhoeddiadau gan HCC, AHDB ac eraill.

“Mae deunydd gorwedd sych a glân yn hanfodol yn y mannau lle bydd mamogiaid yn bwrw eu hŵyn ac yn y corlannau lle mae’r mamogiaid a’r ŵyn newydd yn cael eu cadw yn y 24-48 awr gyntaf,’’ meddai Ms Page. 

“Dylech chi ddarparu gwellt yn y mannau hyn, a digon ohono, a’i leihau efallai mewn mannau eraill ar y buarth ac ar yr iard gymysgu.’’

Drwy stocio ar lefel is a thrwsio unrhyw dyllau lle mae’r cafnau neu’r toeon yn gollwng byddwch yn lleihau lefel y gwlybaniaeth yn y sied ac wedyn bydd angen llai o wellt, ychwanegodd Ms Page.

Mae’n hanfodol bod iechyd defaid dan do yn rhagorol ac nad oes argoel o glefydau heintus a hynny am fod cloffni, y clafr, clefydau heintus ar y llygaid, a llau yn lledu’n gyflym dan do.

Os oes yna gloffni yn y ddiadell, dylai gael ei drin yn effeithiol ar unwaith, i’w gadw rhag mynd ar led, meddai Ms Page.

“Ar slatiau, gall y defaid gael eu cadw ar lefel stocio ychydig yn uwch ac felly fe allai clefydau heintus ledu’n gyflymach byth a dylech gadw lle gwelltog i ddefaid cloff neu sâl bob amser.’’

Mewn systemau slatiog, mae angen digon o awyr o dan y slatiau, ond nid cymaint nes bod yna ddrafft chwaith.

“Mae amonia o’r baw sy’n syrthio drwy’r slatiau yn gallu crynhoi os nad oes digon o aer, gan arwain at glefyd anadlu neu llid yn y llygaid’’, rhybuddiodd Ms Page.

Dylai ffermwyr ofyn am gyngor cyn buddsoddi mewn slatiau a meddwl hefyd sut bydd y slatiau’n gweithio i’r ddiadell, ychwanegodd.

Cafodd y digwyddiad yn Nant Cornwal ei hwyluso gan Guto Owen, Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Conwy.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio