Gallai ffermwyr yng Nghymru gynhyrchu ethanol a bioplastig o’u glaswellt yn hytrach na da byw wrth i wyddonwyr o Gymru ymchwilio i ffrydiau incwm amgen i wneud i ffermio dalu ei ffordd tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

dr joe gallagher in lab with farmers 0
Yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS) yng Ngogerddan, cafodd ffermwyr gipolwg ar sawl prosiect ymchwil a allai gynorthwyo i siapio dyfodol amaeth yng Nghymru yn dilyn Brexit.

Mae tîm o wyddonwyr dan arweiniad Dr Joe Gallagher, Pennaeth yr adran Biodechnoleg Ddiwydiannol a Chyfarwyddwr Cyfnewid Gwybodaeth a Masnacheiddio yn IBERS, yn astudio trosiant siwgr mewn glaswellt i amrywiaeth o gynhyrchion eraill gan gynnwys ethanol i’w ddefnyddio fel tanwydd neu gemegion platfform, a ddefnyddir i gynhyrchu bioplastig.

Mae modd cynhyrchu cymaint â 5,000 litr o ethanol o un hectar o laswellt.

“Nid yw anifeiliaid yn eplesu glaswellt mewn modd effeithiol iawn,” meddai. “Mae ein gwaith ymchwil yn edrych ar botensial cynhyrchu rhywbeth gwahanol o laswellt, i roi dewis arall i ffermwyr yn hytrach na chynhyrchu da byw yn unig.”

O ystyried yr amrywiaeth o gynnyrch y mae modd eu cynhyrchu o laswellt, dywed Dr Gallagher bod angen data ychwanegol a modelu economaidd cymhleth er mwyn canfod y llwybrau gorau i'r farchnad.

Gellir gwasgu glaswellt i gynhyrchu ffibr a sudd; mae'r sudd hwn yn gyfrwng eplesiad cyfoethog y mae modd ei ddefnyddio er mwyn cynhyrchu amrywiaeth o danwyddau a chemegion platfform.

Mae sawl defnydd i’r ffibr sy’n cael ei adael ar ôl wedi i’r hylif gael ei waredu, megis bwyd anifeiliaid neu ddeunydd ar gyfer treuliad anaerobig - mae hefyd wedi cael ei ddefnyddio i gynhyrchu bocsys wyau.

Ceir hefyd gwaith ymchwil yn edrych ar gnydau newydd a allai ddarparu incwm ar gyfer ffermwyr mynydd, megis cennin Pedr a dyfir er mwyn cynhyrchu galantamin a ddefnyddir i drin clefyd Alzheimer yn ystod y dyddiau cynnar.

Mae IBERS hefyd yn ymwneud â phrosiectau sydd wedi’u hanelu at wneud ffermydd yn fwy effeithlon,

dr diego moya with farmers 2 0
megis mesur effeithlonrwydd bwyd mewn defaid, dan arweiniad Dr Diego Moya, Cydymaith Rhyngddisgyblaethol mewn Gwyddorau Anifeiliaid.

Yn ogystal â dysgu mwy am yr astudiaethau hyn, cafodd ffermwyr gipolwg ar y rhaglen Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP Wales), sy'n ariannu grwpiau o ffermwyr ac eraill, megis ymchwilwyr a busnesau, i gydweithio i ddatrys problemau amaethyddol cyffredin.

Un prosiect sydd wedi derbyn cymorth ariannol yw’r astudiaeth i leihau'r defnydd o wrthfiotigau mewn systemau cynhyrchu ŵyn trwy wella maeth a hylendid, gan ddefnyddio technoleg newydd a chynaliadwy.

Mae prosiect EIP, a ddarperir ledled Cymru gan Menter a Busnes, yn darparu cyllid hyd at £40,000 yr un i 45 prosiect.

Dywedodd Owain Rowlands, Swyddog EIP, bod y prosiect yn anelu at atgyfnerthu ymchwil ac arloesedd o fewn y sector amaeth yng Nghymru, gan gau’r bwlch rhwng Gwaith ymchwil a defnydd ymarferol ar y fferm.

Mae cefnogaeth bellach ar gael ar gyfer pob grŵp trwy Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio, sy’n gydweithrediad gydag IBERS, a fydd yn cynnal gwaith ymchwil gefndirol i ganfod yr hyn a wyddwn eisoes ynglŷn â phwnc penodol.

Gall y Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth hefyd gynghori ynglŷn â sut y gellir strwythuro prosiectau er mwyn cael y gorau o'r arian a ymgeisir amdano.

Dywedodd Catherine Nakielny, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio, a hwylusodd y digwyddiad, bod amaethyddiaeth a rheolaeth tir yn datblygu’n gyson, a bod y cynnydd hwn bellach yn cyflymu.

“Mae’n bwysig bod ffermwyr yn ymwybodol o syniadau newydd a marchnadoedd posibl i atgyfnerthu eu busnesau at y dyfodol,” meddai.

“Rydym yn ddiolchgar i IBERS am roi cyfle i ffermwyr weld y gwaith a wneir ar eu rhan, a byddem yn annog y rhai sy'n dymuno dysgu mwy i gysylltu â’u swyddog datblygu Cyswllt Ffermio a fydd yn gallu trefnu ymweliadau ag IBERS ar gyfer grwpiau o ffermwyr, grwpiau trafod a myfyrwyr.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn