29 Ionawr 2019
Dywed milfeddyg dofednod y bydd bioddiogelwch caeth ar y fferm ar y cyd â brechu yn helpu cynhyrchwyr wyau a brwyliaid i barhau’r patrwm o ostyngiad rhyfeddol yn y defnydd o wrthfiotigau.
Dywed Ian Jones, o Grŵp Milfeddygol Hafren yng Nghanolbarth Cymru, y gall cynhyrchwyr dofednod gael peth dylanwad ar ddiogelu pobl rhag gwrthedd gwrthficrobaidd trwy ddal ati i adolygu bioddiogelwch ar bob cam wrth gynhyrchu a thrwy addasu arferion rheoli afiechydon.
Roedd Mr Jones, sy’n goruchwylio iechyd 3.5 miliwn o ieir dodwy a 750,000 o frwyliaid yng Nghanolbarth Cymru, yn annerch ffermwyr dofednod yn y Trallwng yn un o gyfres o gyfarfodydd Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd ar draws Cymru i gynghori ffermwyr ar ddefnydd priodol o wrthfiotigau.
“Ddegawd yn ôl roedd popeth yn cael pigiad o hyn neu ddos o’r llall, roeddem ni i gyd yn rhy barod i edrych ar wrthfiotig fel ateb hawdd ond erbyn hyn rydym yn targedu llawer mwy wrth ddefnyddio gwrthfiotigau.
Gwnaed ymdrechion hefyd i leihau’r defnydd neu i gael gwared ar wrthfiotigau sy’n cael eu hystyried yn allweddol bwysig i iechyd pobl (CIA) yn llwyr. Ni ddefnyddiwyd cephalosporinau ail a thrydydd genhedlaeth wrth gynhyrchu dofednod o gwbl ers 2012, tynnwyd colistin yn 2016 ac mae’r defnydd o Fluoroquinolonau wedi cael ei ostwng o 91% mewn chwe blynedd.
“Rhaid i ni barhau i ddangos ein bod yn hollol gyfrifol fel ein bod yn gallu defnyddio gwrthfiotigau os bydd angen,” pwysleisiodd Mr Jones.
Er mwyn gwneud hynny, rhaid cael dull diwnïad o atal afiechydon – ni fydd strategaeth frechu ar ei phen ei hun yn diogelu dofednod os yw’r arferion hylendid yn wael, mynnodd.
Gwelwyd twf mawr yn y nifer o systemau wyau buarth yng Nghanolbarth Cymru; mae sialensiau bioddiogelwch i’r systemau yma oherwydd mae’n anos cadw safle bioddiogel pan fydd yr adar yn gallu mynd allan i fannau sy’n cael eu rhannu ag adar gwyllt.
Felly mae angen rhaglen fioddiogelwch dynnach, awgrymodd Mr Jones, sy’n cynnwys ymwelwyr i’r fferm a brechu i leihau’r sialensiau gan afiechydon.
Mewn systemau dodwy, gallai fod yn fanteisiol cael cyfnod hwy rhwng y gwahanol griwiau o ieir, awgrymodd.
“Pan ddaw hi’n fater o lanhau, nid yr hen haid sy’n bwysig ond yr un newydd. Fe fyddwn o blaid mynd am gyfnod hwy rhwng yr heidiau, mae yn gwneud gwahaniaeth anferth.
“Pan fydd y cyfnod yn fyr, mae pawb ar ras ac nid yw pethau’n cael eu gwneud.”
Mae canfod afiechydon yn gynnar yn hanfodol i ddynodi pa afiechyd sydd angen ei drin.
“Os bydd afiechyd yn ymddangos mae’n hollol allweddol i chi weithredu yn gyflym,” dywedodd Mr Jones wrth y ffermwyr.
“Os byddwch yn trin yn brydlon a chynnar nid ydych yn dueddol o gael problemau eto ond unwaith y bydd afiechyd yn cael gafael mae’n anos ei reoli.”
Ym marn Mr Jones, mae ffioedd labordy yn fuddsoddiad cymharol fach pan gaiff ei gymharu â chost triniaethau neu golledion wrth gynhyrchu os bydd yr afiechyd yn gwaethygu.
Mynnodd Mr Jones bod raid i wrthfiotigau gael lle mewn diwydiant dofednod cynaliadwy i gynnal iechyd a lles adar, rhaid peidio anelu at atal y defnydd ohonynt yn llwyr.
Trwy ddefnyddio dull “cyn lleied â phosibl, ond cymaint ag sydd ei angen”, gellir osgoi problemau gwrthedd yn y dyfodol a byddwn yn diogelu’r defnydd o wrthfiotigau i bobl a dofednod yn y dyfodol, dywedodd.
Ond rhybuddiodd y cynhyrchwyr i beidio â bod yn hunanfodlon. “Nid yw’n fater o ofyn a allwn ni leihau’r defnydd o wrthfiotigau eto, fe fydd raid i ni.”
Dywedodd Catherine Price, Swyddog Technegol Dofednod Cyswllt Ffermio, a drefnodd y cyfarfod yn y Trallwng, bod adolygu bioddiogelwch ar y fferm ac arferion rheoli afiechydon yn gyson gan sicrhau bod gwrthfiotigau yn cael eu defnyddio yn ddoeth yn ganolog i gynaliadwyedd y diwydiant dofednod yng Nghymru.
Er mwyn cyflawni hynny, rhaid i gynhyrchwyr fod yn ymwybodol o’r risgiau, a pha afiechydon y maent yn ceisio eu cadw allan, i sicrhau bod y meddyginiaethau yn addas ac wedi eu targedu, ychwanegodd.
Ariennir y prosiect gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.