25 Mawrth 2019

 

 

grass 1

Mae’n cael ei gydnabod mai arwynebedd y fferm yw’r ffactor ffisegol cyntaf sy’n cyfyngu ar gynnyrch posibl y busnes. Y ffactor nesaf yw gallu perchennog y busnes i reoli’r arwynebedd sydd ganddo.

Mae Cyswllt Ffermio yn gweithio gyda James Daniel, Precision Grazing, i helpu i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a hyder ffermwyr o ran eu systemau da byw seiliedig ar borfa trwy’r grwpiau Rhagori ar Bori sydd newydd eu sefydlu.

Rhoddir cyfle i ffermwyr o bob gallu wneud newidiadau i’w busnesau a all arwain at well proffidioldeb a chynaliadwyedd i’w systemau ffermio. Rhaglen fer yw Rhagori ar Bori gyda dwy lefel; gwahoddir unigolion i bennu pa lefel sydd yn gweddu orau iddyn nhw a’u busnes.

Yn gyntaf, gwahoddir yr ymgeiswyr i ystyried rhaglen lefel mynediad sydd wedi ei hanelu at ffermwyr sy’n ystyried pa newidiadau y gallent eu gwneud i’w busnesau i gynyddu proffidioldeb. Bydd bod yn rhan o’r lefel mynediad yn rhoi’r wybodaeth gefndir i unigolion am reoli porfa a systemau da byw, yr hyder a’r wybodaeth i wella eu busnes a gwybodaeth sylfaenol am gyfrifiadau a chanllawiau cyffredinol.  Bwriadwyd y lefel uwch ar gyfer ffermwyr sydd eisoes â phrofiad da o reoli glaswelltir ond sydd am ddatblygu eu gwybodaeth ymhellach eto. Bydd y rhaglen yn rhoi gwybodaeth i unigolion am Ddylunio Llwyfan Bori, mapio ffermydd a systemau padogau yn ogystal â rheoli pori a llunio cyllideb porthiant. Yn y lefel uwch hefyd rhoddir hyfforddiant rheoli porfa.

Dywedodd James Daniel, Cyfarwyddwr Precision Grazing, bod y rhaglen Rhagori ar Bori yn gyfle gwych i bobl o’r un meddylfryd ddod at ei gilydd i ddysgu rhagor am borfa a systemau da byw.

“Bydd y rhaglen Rhagori ar Bori yn rhoi’r sgiliau ymarferol a’r ddealltwriaeth i ffermwyr newid eu busnesau gan ddefnyddio’r sgiliau y maent wedi eu datblygu trwy gyfarfodydd y rhaglen.

“Mae’n gyfle i weithio ochr yn ochr â ffermwyr o’r un meddylfryd a chlywed gan siaradwyr arbenigol a fydd wrth law trwy gydol y broses,” dywedodd.

Mae Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglenni Gwledig Menter a Busnes (sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru), yn annog pob ffermwr i gymryd rhan yn y cyfle hwn ac esboniodd bod y digwyddiadau wedi cael eu trefnu er mwyn bodloni anghenion llawer iawn o ffermwyr Cymru.

“Mae pawb yn ymwybodol o'r ffaith mai porfa yw'r ffordd rhataf o fwydo ein hanifeiliaid ac mae Rhagori ar Bori yn gyfle i gael cymorth uniongyrchol ar eich fferm gan arbenigwyr profiadol er mwyn gwneud y mwyaf o'r adnodd gwerthfawr yma,” dywedodd.

Mae’r ddwy lefel ar agor i ffermwyr bîff, defaid neu laeth. Cynhelir y cyfarfodydd yn rhanbarthol o Fai i fis Medi gyda nifer gyfyngedig o leoedd ar gael.

Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a bod â Chynllun Rheoli Maetholion dilys. Er mwyn cofrestru eich diddordeb yn y rhaglen, ewch i’r dudalen Rhagori ar Bori ar ein gwefan.
 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12pm Dydd Gwener 11 Ebrill 2019.

Er mwyn cofrestru gyda Cyswllt Ffermio neu i gael rhagor o wybodaeth am y Cynlluniau Rheoli Maetholion sydd ar gael, cysylltwch â ni ar 08456 000 813. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o