13 Tachwedd 2024

 

Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu ffermwyr a’u gweithwyr i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu eu busnesau o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd.

Fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru, a gynhelir rhwng 11-15 Tachwedd, mae Cyswllt Ffermio yn annog ffermwyr i gofrestru ar gyfer cyrsiau gyda’r nod o wella eu gwytnwch i batrymau tywydd cyfnewidiol ac i gydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol.

Dywed Philippa Gough o Lantra Cymru bod modd ymgeisio ar gyfer nifer o gyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb, gyda rhai ohonynt yn berthnasol iawn o ran yr hinsawdd, ac mae pob un ohonynt wedi’u hariannu 80% i fusnesau sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.

Gan fod Cymru’n adnabyddus am dyfu digonedd o laswellt o safon uchel, mae un o’r cyrsiau hyn yn trafod systemau glaswelltir.

Mae gan laswelltir y potensial i gynnig nifer o wasanaethau ecosystem, ac yn ogystal â chynhyrchu bwyd, mae’n gallu lleihau colledion bioamrywiaeth, ac mae’n ddalfa garbon, sy’n helpu i liniaru effaith newid yn yr hinsawdd a hybu’r trawsnewidiad i garbon sero.

Mae’r cwrs, a ddarperir ar-lein, yn dilyn themâu rheoli maetholion a diogelu’r amgylchedd, ac yn edrych ar rôl bridio a rheoli planhigion, rheoli plâu a chlefydau, defnyddio technoleg er mwyn rheoli’r borfa, ynghyd â nifer o bynciau eraill.

Mae’r cwrs, a gynigir gan IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn darparu cymhwyster Lefel 7 Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru i gyfranogwyr, ac mae’n dechrau ym mis Medi am gyfnod o 13 wythnos.

Er bod glaswelltir yn rhan hanfodol o faeth da byw yng Nghymru, ceir cwrs arall sy’n edrych ar y pwnc yn ehangach.

Mae’r cwrs Maeth Da Byw, sydd hefyd yn cael ei ddarparu gan Brifysgol Aberystwyth ar Lefel 7 Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, yn trafod gwerthuso dwysfwyd, yn ogystal ag egwyddorion metaboledd a gofynion maeth anifeiliaid, gyda’r nod o roi’r wybodaeth hon ar waith i lunio dognau.

Mae’r cwrs undydd Ymwybyddiaeth amgylcheddol, archwilio a rheoli eich busnes, yn darparu’r adnoddau i’r rhai sy’n cymryd rhan i gwblhau archwiliad amgylcheddol o’u fferm neu fusnes arall sy’n seiliedig ar y tir, gan nodi lle y gallant arbed adnoddau, defnyddio’r technegau gorau sydd ar gael a chydymffurfio gyda deddfwriaeth newydd.

Mae’r cwrs Cyflwyniad i Adfer Mawndir yn gwrs undydd arall, gyda’r nod o alluogi ffermwyr a rheolwyr tir eraill i ddeall yr opsiynau sydd ar gael iddynt i reoli mawndir yn gynaliadwy ar eu ffermydd.

Darperir y cwrs yn Llyn Efyrnwy gan RSPB Cymru, sydd wedi bod yn adfer cynefinoedd mawndir ers sawl degawd, a bydd yn cyfuno dysgu dan do gydag ymweliad safle.  

I’r ffermwyr hynny sy’n dymuno cael cyflwyniad ymarferol i gynaliadwyedd amgylcheddol, i gael y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r cymhelliant sydd eu hangen arnynt i greu effaith gynaliadwy sylweddol o fewn eu sefydliad, ceir cwrs Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol IEMA ar gyfer y Gweithlu.

Yn ogystal â’r cyrsiau sydd ar gael, mae Cyswllt Ffermio hefyd yn cynnig ystod o fodiwlau byr ar-lein.

“Gellir cwblhau’r rhain o gysur eich cartref ar amser sy’n gyfleus i chi,” meddai Philippa.

Mae rhai o’r modiwlau sy’n berthnasol i’r hinsawdd yn cynnwys Llygredd Aer Amaethyddol, Amaeth goedwigaeth, Cyflwyniad i Ffermio Cynaliadwy, Newid yn yr Hinsawdd a Rheoli Tir, Rheoli Glaswelltir, Cyfalaf Naturiol a Sero Net ac Iechyd y Pridd.

Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau hyn ac eraill, gwasgwch yma 
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu