Mae rheoli maetholion yn her i nifer o ffermwyr, â’r rheoliadau yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd mae’n gyfle da i ystyried y ffyrdd mwyaf cost effeithiol o gynyddu storfeydd slyri a chynllunio systemau a fydd yn bodloni’r gofynion yn y dyfodol.
Wrth i ffermydd ehangu ac i faint y buchesi gynyddu, yn aml iawn nid yw’r storfeydd slyri wedi eu diweddaru i gyfateb â hynny. Er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau storio Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol (SSAFO), dylai storfeydd slyri a adeiladwyd ers 1991 fod â lle i slyri pedwar mis, ac mae rheoliadau Parthau Perygl Nitradau (NVZ) yn gosod gofyn am leiafswm o le i bum mis o slyri. Er mwyn cyfrifo anghenion eich fferm o ran slyri, adiwch y tail da byw a gynhyrchir, y glawiad misol ar gyfartaledd yn eich ardal a’r glawiad i’ch storfeydd slyri neu o iardiau sy’n draenio i’r system slyri, a chyfaint unrhyw ddŵr a ddefnyddir i olchi. Tynnwch o hynny unrhyw beth a gludir oddi ar y fferm a solidau wedi eu gwahanu a lluosi hynny â phump i gael isafswm y cyfaint storio sydd ei angen am bum mis.
“Hefyd, cofiwch ganiatáu 750mm o le gwag ar gyfer lagwnau gyda banciau pridd a 300mm i storfeydd wedi eu hadeiladu o ymyl y storfa i lefel uchaf yr hyn sy’n cael ei storio ynddo. Mae hyn yn baglu pobl yn aml a dyna pam ei bod yn allweddol cael y cyfrifiadau yn iawn,” dywedodd Keith Owen, o ADAS Consulting wrth ffermwyr mewn digwyddiad ar Safle Arddangos Cyswllt Ffermio Moor Farm, Walwyn’s Castle, Hwlffordd.
Y dewisiadau mwyaf poblogaidd o ran storfeydd slyri yw lagwnau gyda banciau pridd, sy’n costio rhwng £8 a £12 y metr ciwbig; lagŵn wedi ei leinio â chlai neu ddeunydd artiffisial; tanc metel uwch ben y ddaear, sy’n costio tua £47 y metr ciwbig; neu storfa goncrid ddelltog, sy’n costio £59 y metr ciwbig.
“Un o anfanteision lagwnau yw bod eu harwyneb yn fwy ac felly eu bod yn dal mwy o law. Ond y fantais yw eich bod yn gallu eu hehangu,” ychwanegodd Mr Owen.
Cyn buddsoddi swm sylweddol mewn storfa slyri, ystyriwch newidiadau i leihau faint o ddŵr sy’n cael ei gasglu sy’n cael ei alw yn slyri. Rhwystrwch ddŵr glân a dŵr oddi ar y toeau rhag mynd i’r system slyri, gorchuddiwch y storfa slyri neu iardiau agored lle bydd anifeiliaid yn cael eu porthi a dargyfeirio deunydd ‘ychydig yn fudr’ i storfa ar wahân.
“Yn aml iawn nid slyri yw’r broblem, dŵr budr sy’n achosi’r broblem, felly ceisiwch leihau faint o ddŵr sy’n cyrraedd y system trwy newid y drefn reoli. Mae’n rhatach lleihau cyfaint y dŵr budr nac adeiladu storfa slyri i gynnwys popeth. Ac mae’r gost barhaus o’i bwmpio allan.”
Mae deunydd ychydig yn fudr yn cynnwys dŵr golchi parlwr, dŵr sy’n rhedeg oddi ar iardiau lle nad oes fawr o anifeiliaid ac sy’n cael eu crafu neu eu glanhau yn gyson, a’r dŵr sy’n rhedeg oddi wrth glampiau silwair wedi eu gorchuddio yn llwyr nad ydynt yn cynnwys elifiant. Mae angen lleiafswm o ddau ddiwrnod a hanner o le i storio ar gyfer deunydd wedi baeddu ychydig, ond gall gael ei wasgaru yn ystod cyfnodau pan fydd gwasgaru slyri wedi ei wahardd dan reoliadau NVZ.
Mae ymgynghoriad ar hyn o bryd ar ymestyn NVZ yng Nghymru o 2.4% o’r tir hyd at ardal yn cynnwys 8% o dir Cymru, neu hyd yn oed ddynodi Cymru gyfan. Yn ogystal â lleiafswm o le i storio pum mis o slyri, ni all ffermydd mewn NVZ wasgaru slyri yn ystod y cyfnod caeedig rhwng 15 Hydref a 31 Ionawr ar laswelltir a rhwng 1 Hydref a 31 Ionawr ar dir tro. Mae cyfyngiadau hefyd ar wasgaru gwrtaith nitrogen wedi ei gynhyrchu a therfyn uchaf ar y cyfanswm o nitrogen y gellir ei wasgaru ar y tir. Daw’r ymgynghoriad ar NVZ yng Nghymru i ben ar 23 Rhagfyr. Am ragor o wybodaeth ewch i https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/parthau-perygl-nitradau-…