20 Ionawr 2023

 

Mae pawb a gafodd eu henwebu ar gyfer cynllun Gwobrau Lantra Cymru eleni wedi dangos eu hymrwymiad i ddysgu gydol oes a chynnal y safonau uchaf ar draws pob maes gwaith, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru. 

Mi wnaeth y Gweinidog ddiolch a llongyfarch holl enillwyr gwobrau eleni yn ogystal â’r darparwyr hyfforddiant a oedd wedi eu henwebu.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae Gwobrau Lantra Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ymrwymiad ac angerdd unigolion ledled Cymru. Da iawn i bawb gafodd eu henwebu, yr enillwyr a’r darparwyr hyfforddiant am eu holl waith caled gan gynnwys gwella effeithlonrwydd a chyflwyno syniadau arloesol pellach i’w dulliau o weithio.”

Llywydd y panel beirniaid eleni oedd yr amaethwr blaenllaw o Gymru Mr Peter Rees, cadeirydd Lantra Cymru, ac roedd aelodau eraill y panel yn cynnwys Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Dr Nerys Llewelyn Jones, sylfaenydd a Phartner Rheoli cyfreithwyr Agri Advisor a’r arbenigwr Iechyd a Diogelwch amaethyddol Brian Rees, cyn-gadeirydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru a mentor diogelwch fferm Cyswllt Ffermio.  

Dywedodd Mr Rees fod Gwobrau Lantra Cymru bob amser yn un o uchafbwyntiau’r calendr ffermio blynyddol yng Nghymru, ac ychwanegodd ei bod yn dyst i holl randdeiliaid gwledig y diwydiant, gan gynnwys colegau a darparwyr hyfforddiant, eu bod unwaith yn rhagor wedi nodi ac enwebu nifer o unigolion eithriadol, er gwaethaf yr heriau economaidd sy’n wynebu’r diwydiant ar hyn o bryd.   

“Mae cynllun Gwobrau Lantra Cymru, sydd bellach yn cael eu cynnal am y 28ain blynedd, yn gwobrwyo cyflawniadau dysgu gydol oes llawer o weithwyr sy’n defnyddio eu sgiliau a’u galluoedd niferus i gyfrannu nid yn unig at y diwydiant ffermio ond at raglen wledig ehangach Cymru, ein heconomi wledig ac at y cymunedau lle maen nhw’n byw ac yn gweithio.  

“Mae ymrwymiad clir yr holl unigolion sydd wedi cael eu henwebu i ddatblygiad proffesiynol parhaus a chyflawniadau yn y sectorau amgylcheddol a thir, yn gwneud cymaint i gynnal safonau proffesiynol, cyfredol yn ein diwydiant.

“Mae pob un ohonyn nhw’n gwneud cyfraniad sylweddol, nid yn unig yn eu maes gwaith penodol, ond i gynaliadwyedd a’r broses o foderneiddio amaethyddiaeth Cymru yn y tymor hir,” dywedodd Mr Rees. 

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig. 

 

Gwobrau Lantra 2022 – categorïau ac enillwyr

Gwobr Cyflawniad Oes – yn cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad ‘eithriadol a sylweddol’ i amaethyddiaeth yng Nghymru.

Enillydd: Julie Thomas, Ymgynghoriaeth Hyfforddiant Simply the Best, Tonypandy 

Mae’r cyn-ddarlithydd coleg Julie Thomas wedi bod yn hyfforddwr cymeradwyedig ar gyrsiau hyfforddiant achrededig Cyswllt Ffermio ers i’r rhaglen gael ei lansio yn 2001. Mae hi’n uchel iawn ei pharch nid yn unig fel hyfforddwr medrus ond fel mentor i’r holl fyfyrwyr mae hi wedi’u cefnogi. Yn ôl y panel beirniaid, diolch i ymrwymiad personol eithriadol Mrs Thomas i’w gwaith, mae unigolion o bob oedran ac o nifer o sectorau gwledig gwahanol wedi datblygu eu sgiliau ac wedi symud ymlaen yn eu gyrfaoedd yn y sectorau tir.   

Fel cyfathrebwr clir a difyr sy’n gallu meithrin hyder ei myfyrwyr, mae Mrs Thomas wedi ymroi ei bywyd proffesiynol i diwtora ar bynciau yn amrywio o fusnes amaethyddol i reolaeth ariannol, datblygiad staff, marchnata ac arallgyfeirio. Fel meddyliwr blaengar a chreadigol, mae galw mawr am ei gwaith fel siaradwr cyhoeddus hefyd ac fel beirniad cystadlaethau siarad cyhoeddus Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.  

Mae ganddi radd Meistr mewn Gweinyddiaeth Fusnes (MBA), mae hi’n hyfforddwr cofrestredig gyda’r Bwrdd Siarad Saesneg (ESB: English Speaking Board) ac mae ganddi ddiploma ESB Sgiliau Llafar mewn Rheolaeth. Mae hi’n diwtor y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Institute of Leadership & Management) hefyd, ac mae’n darparu hyfforddiant ar gyfer cyfres o gymwysterau newydd Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lantra. 

Roedd y panel yn unfrydol wrth roi gwobr Cyflawniad Oes Lantra eleni i Mrs. Thomas, gan ddweud bod ei hymrwymiad eithriadol i’r sector hyfforddiant gwledig dros yr 20 mlynedd diwethaf wedi gwneud cyfraniad mawr i broffesiynoli’r diwydiant ffermio yng Nghymru, a’i bod hi’n enillydd teilwng iawn o Wobr Cyflawniad Oes Lantra Cymru eleni.  

 

Gwobr Goffa Brynle Williams – sefydlwyd y wobr hon yn 2011 i anrhydeddu cyfraniad sylweddol y diweddar Mr Williams i amaethyddiaeth yng Nghymru fel Aelod Cynulliad a ffermwr uchel ei barch. Mae’r wobr yn cydnabod cyflawniadau ffermwr ifanc sydd wedi dod i mewn i fusnes ffermio trwy raglen Mentro Cyswllt Ffermio. 

Enillydd: Martyn Owen, Ynys Môn 

Mae’r ffermwr ifanc o Fôn, Martyn Owen (32) yn ffermwr cyfran llwyddiannus ar Ynys Môn ac mae’n dweud bod cael ei gyflwyno i’w bartner busnes newydd trwy raglen Mentro Cyswllt Ffermio ddwy flynedd yn ôl yw dechrau ‘gwireddiad breuddwyd’.  

Er nad yw’n dod o gefndir ffermio, mae Martyn (32) wedi gwneud cynnydd cyson yn y diwydiant. Yn weithiwr caled ac uchelgeisiol, o oedran cynnar mae wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygu gyrfa ym maes ffermio, ar ôl gweithio ar sawl fferm yng Ngogledd Cymru yn ogystal â threulio blwyddyn yn gweithio gyda fferm wartheg fawr yn Seland Newydd. 

Fel rhywun blaengar a dynamig sydd wedi dod i mewn i’r diwydiant, yn gynharach eleni gwireddwyd ei uchelgais hirdymor nid yn unig i ymgymryd â’r gwaith beunyddiol o redeg busnes fferm yng Nghymru ond hefyd i weld ei gyfeiriad strategol yn dwyn ffrwyth. Roedd wedi mynd i gredu na fyddai byth yn cael cyfle o’r fath, ar ôl ymgeisio’n aflwyddiannus am denantiaethau fferm am nifer o flynyddoedd, gan ddod yn ail bob amser i rywun a oedd wedi’i fagu ar fferm.   

Heddiw, gyda chymorth Martyn a chyfeiriad newydd yn canolbwyntio ar ffermio effeithlon, cynaliadwy, mae’r ffermwr William Griffiths (60) yn raddol yn ailgyflwyno tir roedd wedi’i rentu i eraill yn y gorffennol i’w fferm 130 acer ar Ynys Môn. Diolch i’r system pori cylchdro yn seiliedig ar laswellt, cost isel, a fabwysiadwyd gan Martyn, cynhaliwyd profion pridd ar yr holl gaeau, maent wedi’u haredig a’u hailhau ac mae’r porfeydd gwell yn barod ar gyfer y lefelau stocio uwch sydd wedi’u cynllunio. 

Dywedodd y panel beirniaid fod Mr Owen yn enillydd eithriadol o deilwng o wobr Goffa Brynle Williams eleni, gan ei fod yn meddu ar y sgiliau, yr uchelgais a’r natur benderfynol sydd eu hangen i oresgyn yr anfanteision o beidio â dod o gefndir ffermio, gan gyfrannu ar yr un pryd at ddatblygiad cynaliadwy fferm deuluol ar Ynys Môn. 

 

Dysgwr Ifanc Coleg Cyswllt Ffermio, o dan 20 oed

Yr ail wobr: Emma Morgan Page, Yr Ystog, Trefaldwyn

Magwyd Emma ar fferm bîff, defaid a chontractio lle’r oedd bob amser yn cynorthwyo, ac aeth ymlaen i astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg y Drenewydd. Pan gafodd ei hewythr ei daro’n wael, cynigiodd Emma roi help llaw ac mae hi bellach yn gyfrifol am ei diadell ei hun o 25 o famogiaid magu Texel. 

Mae Emma bob amser yn barod i ddysgu am ffyrdd newydd o weithio gan fusnesau fferm eraill, ac ar hyn o bryd mae hi’n ystyried gwneud cais i astudio mewn coleg amaethyddol. Fodd bynnag, mae hi’n teimlo hefyd y byddai cymryd blwyddyn allan yn fuddiol ac yn ei helpu i foderneiddio rhai o’r systemau gwaith ar y fferm deuluol lle mae hi’n credu y bydd cyflwyno rhywfaint o dechnoleg newydd heddiw o gymorth i symleiddio systemau.  

Roedd y beirniad yn llawn canmoliaeth o’r ffordd roedd Emma wedi canolbwyntio ar ddatblygiad a dysgu a’i pharodrwydd i dreialu syniadau newydd a’u rhoi ar waith ar y fferm deuluol er budd y busnes a’r amgylchedd. 

 

Dysgwr Ifanc Coleg Cyswllt Ffermio, o dan 20 oed

Enillydd: Gwenno Rowlands, Nantglyn, Dinbych

Cafodd Gwenno Rowlands ei magu ar fferm y teulu yn Nantglyn, Sir Ddinbych. Roedd yn benderfynol o brofi bod merched yr un mor abl ag unrhyw un arall i drwsio a gwasanaethu tractorau a pheirianwaith trwm, a llwyddodd Gwenno i gyfuno ei chwrs sylfaen mewn amaethyddiaeth yng Ngholeg Glynllifon â phrofiad gwaith gyda chwmni peiriannau lleol. Yn dilyn ei phrofiad gwaith cafodd gynnig swydd ran amser, a roddodd gyfle iddi gyfuno astudiaethau academaidd â phrofiad ymarferol. Cafodd gefnogaeth wych gan ei thiwtoriaid a Gwenno oedd yr unig ferch i gwblhau’r cwrs mewn cyfnod o saith mlynedd!   

Mae Gwenno yn awr yn gobeithio dod o hyd i brentisiaeth a fydd yn dysgu mwy iddi am weldio a llunio, cymwysterau ychwanegol a fydd yn ychwanegu at y sgiliau a enillodd yn y coleg, gan gynnwys cymhwysedd tractorau (gyda threlar); trin a chynnal beiciau cwad a ‘telehandlers’ yn ogystal â llifanu a weldio. Roedd uchelgais ac ymrwymiad Gwenno i lwyddo mewn sector lle mae dynion wedi bod mor flaenllaw yn draddodiadol wedi gwneud cryn argraff ar y beirniaid. Mae hi’n dal heb benderfynu a yw hi am fod yn fecanydd amaethyddol neu’n gontractwr, ond dywedodd y beirniad bod dyfodol disglair o’i blaen a’i bod hi’n esiampl wych i unrhyw unigolion sy’n poeni am weithio gyda pheiriannau trwm.  

 

Dysgwr Coleg dros 20 oed Cyswllt Ffermio 

Yr ail wobr: Matthew Brown, Caerdydd

Yn ddiweddar gwnaeth Matthew Brown ddychwelyd i addysg llawn amser ac mae’n bwriadu astudio ar gyfer HND, yn y gobaith y bydd hyn yn arwain at yrfa newydd yn y sector tir. Ei uchelgais yn y tymor hir yw dod o hyd i waith fel ceidwad parc. Mae Matthew yn awyddus i weithio mewn cymunedau gwledig a threfol ac mae’n gobeithio cael swydd lle gall ysbrydoli ac addysgu eraill i ymddiddori yn yr amgylchedd naturiol a dysgu sut i ofalu amdano.  

Mae’n cyfuno ei astudiaethau academaidd â’i waith gwirfoddol ar ran nifer o fudiadau ac mae’n dweud bod hwn yn faes a allai fod o fudd i lawer o bobl ifanc. Ei nod yw eu helpu i ddod yn fwy hyderus, i gredu ynddynt eu hunain a’u gallu i ddyfalbarhau, hyd yn oed pan na fydd yr amgylchiadau’n ffafriol ac maent yn wynebu cyfnodau anodd neu heriol.   

Dywedodd y beirniaid fod dyfalbarhad a natur benderfynol Matthew nid yn unig i ddod o hyd i yrfa newydd yn y sector tir ond i ysbrydoli eraill trwy drosglwyddo ei sgiliau a’i wybodaeth yn ei wneud yn enillydd teilwng o’r wobr hon. 

 

Dysgwr Coleg dros 20 oed Cyswllt Ffermio 

Enillydd: Kiera Jones, Llanelli, Sir Gaerfyrddin  

Astudiodd Kiera Jones ei hoff bynciau – lles ac ymddygiad anifeiliaid – yng Ngholeg Sir Gâr, yn y gobaith o gael swydd dramor ym maes cadwraeth.  

Pan fydd ymrwymiadau teuluol yn caniatáu, mae Kiera yn bwriadu ysgrifennu llyfrau a fydd yn canolbwyntio ar ffyrdd cynaliadwy ac amgylcheddol gyfeillgar o fyw yn y wlad. Mae hi hefyd wedi datblygu ac yn treialu ap newydd, gyda’r nod o annog pobl i fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy drwy fabwysiadu arferion sy’n fwy ystyriol o’r amgylchedd, fel adeiladu blychau adar o eitemau gwastraff ac annog plant i gerdded i’r ysgol. Mae hi hefyd yn y camau cynnar o sefydlu cwmni dillad newydd. Ar hyn o bryd, mae hi’n canolbwyntio ar ennill gradd dda a fydd yn ei helpu i ddod o hyd i yrfa sy’n canolbwyntio ar ‘wneud y byd yn lle gwell ac iachach’ trwy ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Dywedodd y panel beirniaid fod ymrwymiad Kiera i ddysgu yn ganmoladwy ac roeddynt yn falch iawn o glywed ei bod hi’n bwriadu defnyddio’r hyn mae hi wedi’i ddysgu i helpu eraill i fyw eu bywydau mewn ffordd fwy cynaliadwy.

 

Dysgwr Ifanc y Flwyddyn Cyswllt Ffermio 

Yr ail wobr: Owen Williams, Seven Sisters, Castell-nedd

Mae Owen yn cymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd y fferm deuluol. Mae’n cydnabod bod yr hyfforddiant mae wedi’i dderbyn gan Cyswllt Ffermio wedi’i alluogi i ganolbwyntio ar agweddau ar y busnes sy’n annog cynhyrchu bîff a defaid mewn ffordd gynaliadwy, ynghyd ag amcanion amgylcheddol. 

Mae Owen wedi rhoi gwelliannau geneteg ar waith yn y busnesau defaid a bîff gan ganolbwyntio ar wella cynhyrchedd drwy’r porthiant. Mae Owen wastad wedi bod yn awyddus i ddatblygu ei sgiliau ac mae wedi gallu dod yn llai dibynnol ar gontractwyr a chynhyrchu ei ffrwd incwm ei hun drwy ei waith contractio. 

Cafodd Owen ei longyfarch gan y beirniaid am ei allu i gydnabod pwysigrwydd rheolaeth amgylcheddol gadarnhaol law yn llaw â chynhyrchu bwyd a’i benderfyniad amlwg i gynyddu busnes y fferm yn y dyfodol drwy fabwysiadu arferion ffermio cynaliadwy.
 

 

Dysgwr Ifanc y Flwyddyn Cyswllt Ffermio 

Enillydd: Delyth Jacob, Craig Cefn Parc, Abertawe

Yn sgil marwolaeth drist aelod agos o’r teulu, roedd Delyth yn teimlo nad oedd ganddi ddewis ond ymgymryd â gwaith papur y fferm yn ychwanegol at ei rôl ddyddiol flaenorol o ofalu am yr anifeiliaid ar fferm da byw ei theulu yn yr ucheldir ger Abertawe. Gan ddangos egni, penderfyniad ac ymroddiad cadarn i ddatblygu ei sgiliau busnes, mae hi wedi dilyn nifer o gyrsiau hyfforddiant gyda Cyswllt Ffermio, gan ddysgu rhagor am agweddau ar reolaeth fusnes ac ariannol ffermydd a defnyddio’r sgiliau hynny yn ddyddiol. Mae hi’n benderfynol o sicrhau bod y busnes yn gydnerth ac mae hi wedi dysgu paratoi ar gyfer yr annisgwyl a lle bo’n bosibl, mae hi bob amser yn ceisio lleihau a rheoli risg. Dywedodd y beirniaid fod dewrder a pharodrwydd Delyth i ysgwyddo’r baich a helpu ei theulu drwy ddysgu sgiliau newydd fel cadw cyfrifon a chyfrifeg yn ystod cyfnod anodd iawn, yn ei gwneud yn enillydd teilwng iawn. 

 

Dysgwr Gydol Oes y Flwyddyn Cyswllt Ffermio 

Yr ail wobr: Tammi Owen, Llanfair Talhaearn, Abergele

Mae Tammi eisoes wedi dilyn nifer o gyrsiau busnes Cyswllt Ffermio gan gynnwys cadw llyfrau, marchnata a phynciau eraill yn ymwneud ag arallgyfeirio. Mae hi’n defnyddio’r sgiliau newydd hyn er budd y fferm a bellach mae ganddi’r hyder a’r wybodaeth i wneud cyfraniad gwerthfawr i’r mentrau arallgyfeirio newydd sy’n cael eu hystyried gan ei theulu. Mae ganddi ddealltwriaeth dda o bwysigrwydd monitro gwariant ac incwm a marchnata rhagweithiol.  

Mae hi’n benderfynol o ychwanegu at ei set sgiliau a’r pwnc nesaf ar ei rhestr yw cynllunio busnes. Roedd ymroddiad Tammi i ddysgu wedi gwneud cryn argraff ar y beirniaid, a bydd hyn yn ei galluogi i ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau wrth i fusnes y fferm ddatblygu, gan lwyddo i wneud hyn tra’n ymgymryd â’i swydd ran amser gyda GIG Cymru. 

 

Dysgwr Gydol Oes y Flwyddyn Cyswllt Ffermio 

Enillydd: Andrew Williams, Bochrwyd, Aberhonddu

Mae Andrew yn cyfuno ei waith ar y fferm deuluol ym Mhowys â swydd llawn amser yn y sector ‘amaeth-dechnoleg’. Gadawodd Andrew yr ysgol ar ôl sefyll ei arholiadau Safon Uwch, ac fel rhywun sy’n ymddiddori mewn teclynnau ac sy’n mwynhau atgyweirio ac uwchraddio offer, mae wedi defnyddio hyfforddiant Cyswllt Ffermio i ennill sgiliau rheolaeth fusnes a thechnegol sy’n ei helpu i wneud penderfyniadau ac yn gwella effeithlonrwydd ar fferm da byw cymysg ei deulu ac yn ei swydd.

Ar ôl diweddaru ei CV a gwella ei set sgiliau, mae Andrew yn amlwg yn hapus i gael mwy o gyfrifoldebau ac mae ganddo hyder yn ei allu i rannu ei wybodaeth ag eraill, gan olygu y gall fod yn diwtor ac yn fentor i gwsmeriaid sy’n ceisio cyflwyno technoleg a dulliau arloesol newydd, yn enwedig awtomeiddio, i’w busnesau ffermio.

Roedd profiad ymarferol a gwybodaeth dechnegol Andrew wedi gwneud argraff ar y beirniaid a gwnaethant ddweud fod ei ddealltwriaeth o’r prif ffactorau sy’n gyrru busnesau fferm ac yn gallu eu helpu i ddatblygu yn ei wneud yn enillydd teilwng o’r wobr hon.  

 

Gwobr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio

Cyd-enillydd yr ail wobr: Tom Ablitt, Camrose, Hwlffordd, Sir Benfro

Mae Tom Ablitt yn denant ar fferm laeth, bîff, defaid, a thir âr. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn dysgu gydol oes ac mae wedi mynd ati i ddysgu am faterion iechyd a lles anifeiliaid trwy fynychu amryw o weithdai Cyswllt Ffermio ar y pwnc pwysig hwn. Mae’r cyfuniad o wybodaeth ymarferol a gwaith theori cyfredol wedi rhoi sgiliau a thechnegau newydd iddo y gall eu defnyddio ar ei fferm.  
Ym marn Tom, roedd y gweithdai yn hygyrch ac yn ddifyr iawn, yn cynnwys digon o wybodaeth a oedd yn cael ei chyflwyno mewn ffordd hawdd ei deall. Dywedodd y beirniaid fod Tom wedi dangos ei awydd i foderneiddio a phroffesiynoli’r ffordd mae’n rhedeg ei fferm. Oherwydd ei barodrwydd i fabwysiadu dulliau o fonitro a chofnodi canlyniadau ar faterion fel cloffni, mae wedi cyflwyno newidiadau systematig sydd wedi arwain at welliannau a dywedodd y beirniaid fod ymrwymiad Tom i ddysgu a defnyddio dulliau mwy effeithlon o weithio yn ei wneud yn enillydd arbennig iawn. 

 

Gwobr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio

Cyd-enillydd yr ail wobr: Annie Peters, Crindale, Hwlffordd, Sir Benfro  

Mae Annie wedi dilyn amrywiaeth eang o gyrsiau iechyd a lles anifeiliaid Cyswllt Ffermio gan ei galluogi i ddysgu am agweddau gwahanol ar ffermio na fyddai hi’n eu gweld ar ei fferm ei hun. Er y gallai rhai ystyried bod hyn yn ddiangen, mae Annie wedi achub ar y cyfle i elwa ar yr holl hyfforddiant sydd ar gael iddi. Er ei bod hi’n brysur iawn ar y fferm ac yn ei hastudiaethau coleg, roedd y beirniaid yn llawn edmygedd o’i pharodrwydd a’i hawydd i ddysgu pynciau newydd a fydd, heb os, o fudd mawr iddi wrth ddilyn gyrfa yn y diwydiant ffermio.  

Roedd ymrwymiad amlwg Annie at ei da byw a’r diwydiant ffermio yn gyffredinol wedi gwneud cryn argraff ar y panel, ac er ei bod hi’n ifanc, dywedodd y beirniaid ei bod hi’n deilwng iawn o’r wobr hon, gan fod ganddi eisoes gyfoeth o wybodaeth, angerdd a pharodrwydd i groesawu cyfleoedd dysgu gydol oes.

 

Gwobr Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyswllt Ffermio 

Enillydd: Zoe Stanisstreet, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin

Mae Zoe Stanisstreet a’i gŵr yn cadw diadell o famogiaid mynydd De Cymru ar eu fferm ger Llanymddyfri ac mae hi hefyd yn fugail contract ar fferm leol sy’n cadw mamogiaid Suffolk croes Texel. 

Roedd Zoe yn arfer ffermio ar raddfa fwy yn ne-orllewin Lloegr ac mae hi wedi cymryd rhan mewn gweithdai iechyd a lles anifeiliaid Cyswllt Ffermio er mwyn dysgu rhagor am ddefaid Cymreig brodorol a’n hinsawdd oerach a gwlypach lle mae amodau fel llyngyr yr iau yn fwy cyffredin.   

Roedd ymrwymiad Zoe i ddysgu popeth posibl am ffermio defaid yng Nghymru a gwella ei dealltwriaeth am y gwahaniaethau rhwng defaid yr iseldir a defaid mynydd wedi gwneud argraff ar y beirniaid. A hithau eisoes yn bwriadu dysgu rhagor am faeth, dywedodd y panel ei bod hi wedi dangos gallu arbennig nid yn unig i gadw ar y blaen ag arferion gorau ym maes iechyd a lles anifeiliaid trwy ei hymrwymiad i hyfforddi, ond hefyd trwy ei pharodrwydd i gyfarfod ffermwyr profiadol eraill a dysgu ganddynt. 

 

Gwobr Arloesedd Ffermio Cyswllt Ffermio

Canmoliaeth uchel: Eurig Jones, Boncath, Sir Benfro

Mae Eurig Jones yn ffermio 200 acer ar y fferm deuluol yn Sir Benfro sy’n cael ei rhedeg ganddo ef a’i dad gyda chymorth dau weithiwr. Mae ganddynt ddiadell o 1,800 o famogiaid Cymreig sydd wedi’u gwella a buches o 80 o wartheg sugno Hereford croesryw. Mewn ymgais i leihau costau porthiant sy’n cael ei brynu i mewn, yn ddiweddar gwnaeth Eurig dreialu cnwd cynnyrch uchel o bys a ffa sydd bellach yn cael eu cynnwys gydag isgynnyrch gwellt fel rhan o ddogn cymysg llawn (TMR) y da byw. Ar ôl derbyn cyngor gan faethegydd, mae Eurig yn cynnwys y lefel gofynnol o faetholion gan gynnwys porthiant o ansawdd da gyda’r cydbwysedd gorau posib o broteinau, fitaminau a mwynau, gan wella perfformiad ei dda byw.

Fel rhywun sy’n awyddus iawn i ddysgu gan ffermwyr eraill a rhannu ei wybodaeth ag eraill, mae Eurig yn dweud bod GPS tractor wedi arwain at fuddion amgylcheddol ac ariannol. Mae’n defnyddio mapio caeau i sicrhau ei fod yn targedu ei ddefnydd o wrtaith ac mae eisoes yn ystyried opsiynau ar gyfer bwydo robotig i fynd i’r afael â phrinder staff. Dywedodd y beirniaid ei fod yn drawiadol sut mae Eurig yn ymdrechu’n barhaus i dreialu a rhoi ffyrdd blaengar a mwy effeithlon o ffermio ar waith er mwyn gwella cynnydd y fferm.  

 

Gwobr Arloesedd Ffermio Cyswllt Ffermio 

Canmoliaeth uchel: Jessica a John Goodwin, Llanandras

Mae’r ffermwyr profiadol Jessica a John Goodwin wedi bod yn gwerthu gwartheg o ansawdd uchel o’u fferm yn Llanandras i Waitrose ers sawl blwyddyn. At hyn, maent yn gwerthu cig eidion, cig oen a phorc ffres ac wedi’u rhewi yn uniongyrchol i gwsmeriaid. Maent yn tyfu eu holl borthiant, gan ddibynnu ar Werthoedd Bridio Tybiedig (EBVs) ac maent yn ymdrin ag iechyd a bridio anifeiliaid mewn dull rhagweithiol. 

Yn 2021, gwnaethant benderfynu bod eu lefelau gwerthiant cig uchel – o tua saith o wartheg, 30 o wyn a 50 o foch y flwyddyn – yn cyfiawnhau prynu peiriant gwerthu newydd. Gan fod eu sylfaen cwsmeriaid yn fodlon talu ychydig mwy am gynnyrch fferm lleol o’r ansawdd uchaf, penderfynodd y teulu Goodwin fuddsoddi mewn peiriannau gwerthu awtomedig. Mae’r peiriannau hyn, sy’n derbyn taliadau digyswllt, wedi bod yn llwyddiant mawr, gan arbed amser ac arian iddynt. 

Dywedodd y panel beirniaid fod gan y teulu Goodwin enw da iawn am gynhyrchu a gwerthu cig o’r ansawdd uchaf, a bod eu parodrwydd i ddefnyddio technoleg newydd sy’n lleihau eu dibyniaeth flaenorol ar lafur, yn drawiadol. 

 

Gwobr Arloesedd Ffermio Cyswllt Ffermio

Enillwyr: Llion a Siân Jones, Moelogan Fawr, Carmel, Llanrwst

Roedd y ffermwyr ifanc Llion a Siân yn arfer bod yng ngofal fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ond roeddynt yn awyddus iawn i achub ar y cyfle i ddychwelyd i fferm deuluol Siân yn Llanrwst er mwyn rhedeg eu fferm eu hunain. Gan ystyried datblygiad y fferm yn y dyfodol, mae eu pwyslais ar gyflwyno technoleg arloesol eisoes wedi symleiddio llawer o’r systemau mwy traddodiadol a arferai gael eu defnyddio yn Moelogan Fawr.

Heddiw, gyda thri o blant ifanc i’w hystyried, maent eisoes yn arbed amser ac arian, gan ddefnyddio meddalwedd AgriWebb ac Agrinet sydd wedi ‘chwyldroi’ systemau rheoli niferus ar draws y busnes, gan roi mynediad ar unwaith i wybodaeth hanfodol a fydd yn gwella perfformiad da byw a’r glaswelltir. Gyda buches gaeedig o wartheg Stabiliser a mamogiaid Cymreig wedi’u gwella, mae’r cwpl yn awr yn symud tuag at werthu gwartheg stôr yn hytrach na phesgi biff oherwydd y costau cynyddol o brynu porthiant i mewn ac maent hefyd yn ystyried arallgyfeirio i faes llety gwyliau. Dywedodd y panel beirniaid fod y cwpl ifanc, blaengar hwn yn gosod eisampl wych trwy ddefnyddio dulliau arloesol a thechnoleg ar fusnes fferm flaengar a chynaliadwy, gan eu gwneud yn enillwyr teilwng o’r wobr hon.  


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint