Mae natur gyfnewidiol y sector laeth wedi cael effaith sylweddol ar fusnesau dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n edrych yn debygol y bydd hynny’n parhau wrth i farchnadoedd byd-eang ddylanwadu ar farchnad y DU. Er mwyn diogelu eich busnes rhag y natur gyfnewidiol hon, mae’n bwysig cynllunio ar gyfer y dyfodol, gweithio o fewn cyllideb ac arbed arian yn ystod adegau allweddol.

Mae gosod cyllideb ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn cynnig lefel o sicrwydd a gweledigaeth glir o gyfeiriad y busnes. Mae gosod cyllideb yn seiliedig ar bris cyfartalog llaeth dros y pum mlynedd diwethaf yn fan cychwyn da er mwyn helpu i ddiogelu rhag unrhyw ostyngiad mewn pris.

“Datblygwch fuses yn seiliedig ar ragolygon hirdymor o gyfartaledd y pum mlynedd diwethaf bob amser, sy’n 25.5c y litr. Bydd rhedeg y busnes yn seiliedig ar gyfartaledd y pum mlynedd diwethaf yn golygu ei fod yn gallu ymdopi â brig a chafn unrhyw gyfnewidioldeb,” eglurodd Tony Evans o gwmni Andersons Consulting, yn ystod digwyddiad a gynhaliwyd gan AHDB Llaeth a Cyswllt Ffermio ym Mrynbuga.

“Rydw i eisiau sicrhau busnes gwydn, ac mae’n rhaid i’r busnes hwnnw allu ymdopi â’r cyfnodau da a’r drwg. Mae gormod o bobl yn mynd drwy’r cyfnodau drwg yn aros am y cyfnod da nesaf, ond er mwyn gallu ymdopi â chyfnewidioldeb, mae’n bwysig rhoi’r arian parod yn y banc yn ystod y cyfnodau da er mwyn eich diogelu yn ystod y cyfnodau anoddach. Dylid gwneud buddsoddiad er mwyn gwneud eich busnes yn fwy gwydn, nid o reidrwydd er mwyn ehangu.”

Wrth gyllidebu, dechreuodd Mr Evans gyda phris llaeth cyfartalog o 25.5c yn ogystal â 2.5c o werth stoc, gan roi cyfanswm o 27.5c/litr. Roedd yn annog arbed 12c/litr, gan adael 15.5c ar gael ar gyfer costau cynhyrchu a threuliau eraill. Yn y DU, y tri phrif system cynhyrchu yw lloia drwy’r flwyddyn, lloia yn yr hydref a lloia yn y gwanwyn, ac mae costau cynhyrchu amrywiol yn gysylltiedig â phob un:

 

Cost cynhyrchu fesul system

 

Cyfartaledd

Chwarter Uchaf

Chwarter Isaf

Lloia drwy’r flwyddyn

29c

25c

33c

Lloia yn yr hydref

25c

21c

29c

Lloia yn y gwanwyn

21c

17c

25c

 

“Y ffactor fwyaf sy’n dylanwadu ar y naid o 8c rhwng y perfformiad uchaf a’r isaf yw’r ffermwr,” ychwanegodd Mr Evans.

Mae cadw staff cyson a sefydlog yn y busnes hefyd yn helpu i roi hwb i wytnwch y busnes, a bydd edrych ar feysydd lle gellir gwneud arbedion effeithlonrwydd, megis sawl litr sy’n cael ei werthu fesul uned llafur a chyfalaf peiriannau hefyd yn cynorthwyo i leihau costau.

“Yn olaf, er mwyn cadw gafael ar yr arian, gwnewch rywbeth proffidiol pan fo’r arian gennych.  Os oes gennych fusnes proffidiol a’i fod yn gwneud elw da, gadewch lonydd iddo a thynnwch arian ohono. Nid trosiant sy’n cyfrif, ond yr hyn sydd ar ôl,” meddai Mr Evans.

Mae cyngor cynllunio busnes cymorthdaledig ar gael trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio. Am fwy o fanylion ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd ar gael ar y wefan.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu