Mae cyfres o ddigwyddiadau ar ffermydd gan Cyswllt Ffermio'r gwanwyn hwn yn canolbwyntio ar helpu i adfer priddoedd a glaswelltir ar ôl y gaeaf cynhesaf a gwlypaf a gofnodwyd.

Arweiniodd 476mm (19 modfedd) ychwanegol o law na’r arfer yng Nghymru ers mis Tachwedd at gaeau tirlawn, colli maetholion a difrod i strwythur y pridd fel cywasgu. Arweiniodd dirywiad yn nwyster y borfa at weld chwyn yn sefydlu, ac mae deunydd marw ac afiechydon yn effeithio ar gaeau silwair. Mae’r tywydd cynnes rhwng mis Hydref a Rhagfyr hefyd wedi cyfrannu at broblemau gan fod y glaswellt wedi parhau i dyfu ond heb ddigon o haul, felly mae llai o wreiddiau a’r gwreiddiau hynny yn fwy bas na’r arfer oherwydd bod y siwgr wedi ei gymryd o’r gwreiddiau.

Ar Fferm Coxlake, Robertson Wathen, Arberth, mae Tim Simons yn rhedeg buches odro o 190 o wartheg yn lloea yn y gwanwyn ar ei fferm 200 erw o laswelltir. Mae’n dweud bod y gaeaf cynnes, gwlyb wedi arwain at nifer o broblemau'r gwanwyn hwn.

“Mae’r tir llawn dŵr wedi agor y gwndwn,” dywedodd Tim. “Mae hefyd wedi golygu ein bod yn hwyrach yn troi gwartheg allan ac mae rhai rhannau o’r fferm yn wlyb, felly mae potsio yn bendant yn broblem.”

Mewn digwyddiad yn Coxlake, dywedodd yr arbenigwr priddoedd a glaswelltir Chris Duller mai pridd yw’r man cychwyn wrth ymdrin â chyflwr glaswelltir ar ôl gaeaf gwael.

“Ar ôl y gaeaf yr ydym ni wedi ei gael mae pridd yn dod yn flaenoriaeth, felly tyllwch dyllau i weld strwythur y pridd a gwirio am ddifrifoldeb a dyfnder y difrod,” dywedodd. “Chwiliwch am weithgaredd pryfed genwair, problemau cywasgu a ffyrdd o symud dŵr i lawr yn y pridd neu allan o’r cae.

“Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gall priddoedd adfer ar ôl ychydig o ddifrod, os byddant yn cael cyfle. Mae canfod problemau yn gynnar yn golygu y gellir eu cywiro yn eithaf rhad, ond os bydd arwyddion o ddifrod yn cael eu hanwybyddu rydych yn debygol o wynebu cost am ail-hadu mewn ychydig flynyddoedd.”

Dangosodd Mr Duller sut i asesu strwythur y pridd trwy ei dorri a’i sgorio yn ôl pa mor hawdd y mae’n briwsioni. Os canfyddir ei fod wedi ei gywasgu, gellir lleddfu’r difrod trwy ddefnyddio og neu ddefnyddio awyrwr pridd ar yr wyneb, neu dan y pridd neu ddefnyddio codwr tywyrch ar gyfer problemau dyfnach. Ond, rhaid i’r ddaear fod yn ddigon sych fel bod unrhyw beiriannau yn torri pridd wedi ei gywasgu ac nad yw’n peri i’r pridd ffurfio wyneb llyfn.

Pwysleisiodd Mr Duller hefyd bwysigrwydd gwirio a chynnal a chadw system ddraenio’r cae i gyflymu symudiad y dŵr.

“Mae cemeg y pridd hefyd yn bwysig, felly profwch y pridd,” ychwanegodd. “Mae priddoedd yn debygol o fod yn brin o nitrogen, sylffwr a photash efallai oherwydd potsio. Bydd yr ymateb i nitrogen yn llai, yn arbennig pan fydd ffosffad a pH y pridd yn brin.”

Dywedodd Mr Duller y bydd chwalu ychydig o nitrogen yn aml yn lleihau colledion a dywedodd y gall defnyddio peiriannau ysgafn gyda’r pwysedd cywir yn y teiars helpu i atal rhagor o ddifrod.

Mae’r strategaethau pori i hybu strwythur pridd da yn cynnwys hyblygrwydd o ran pryd y mae pa gaeau yn cael eu pori. Gellir defnyddio ffensys tu ôl i’r buchod i’w hatal rhag dychwelyd i’r ardaloedd sydd wedi eu pori a dylid asesu seilwaith y caeau, gan symud porthwyr efallai a chafnau a symud pwyntiau mynediad.

Cynhyrchodd Cyswllt Ffermio daflen ffeithiau ar ymdrin â chyflwr pridd a phorfa ar ôl gaeaf gwlyb.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y