03 Mawrth 2025
Mae fferm laeth flaengar yng Nghymru yn manteisio ar gyfleoedd i gael hyfforddiant i ddatblygu’r busnes.
Mae gwella perfformiad yn hanfodol i unrhyw fusnes fferm yn y farchnad anwadal sydd ohoni heddiw, ond mae hynny’n aml yn haws dweud na gwneud, yn enwedig heb gymorth o’r tu allan.
Dyna pam mae’r teulu Gibbin a’u staff wedi bod yn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael drwy raglen Cyswllt Ffermio, o gofrestru ar gyfer cyrsiau hyfforddiant a sgiliau a chlinigau cyngor un-i-un i ymuno â grwpiau trafod wedi’u hwyluso gan arbenigwyr yn y diwydiant.
Mae Gethin ac Eleri Gibbin yn ffermio 223 hectar (ha) ar fferm Drefach, ger Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gâr, gan gynhyrchu llaeth o’r fuches o 330 o wartheg Holstein Friesian Llangan sy’n lloia yn yr hydref, yn ogystal â chadw diadell o ddefaid Charollais pur.
Mae wir yn fusnes teuluol, gyda mab ieuengaf y pâr, Lewis, sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Harper Adams, yn ffermio gyda nhw, a’r ddau blentyn arall, sef Owain, sy’n filfeddyg, ac Elen, sy’n gyfreithiwr dan hyfforddiant, hefyd yn cymryd diddordeb.
Mae tîm y fferm yn cynnwys aelod o staff llawn amser a staff godro rhan amser.
Gethin yw’r ail genhedlaeth yn y teulu i ffermio yn Nhrefach, lle bu ei rieni, Owen a Beryl, yn godro.
Bedair blynedd yn ôl, fe wnaethon nhw fuddsoddi’n helaeth mewn isadeiledd newydd, gan gynnwys parlwr rotari 50 pwynt a siediau o’r radd flaenaf.
Mae buddsoddiad diweddar yn cynnwys peiriant bwydo sy’n cael ei weithredu gan robot sy’n dileu’r angen am fewnbwn llafur gan fod y peiriant yn gwneud hyn pryd bynnag y bydd angen silwair ffres, ddydd neu nos.
Mae’n fuddsoddiad arloesol gan mai’r peiriant, a weithgynhyrchir gan y cwmni o Awstria, Hetwin, sy’n cael ei redeg ar ynni’r haul ac sy’n symud o gwmpas ar fagnetau, yw’r cyntaf yn y DU.
Mae rhannu syniadau, problemau ac atebion gyda ffermwyr o’r un anian wedi chwarae rôl bwysig yn natblygiad y busnes.
Mae Gethin ac Eleri yn aelodau o grwpiau trafod Cyswllt Ffermio – mae’r ddau grŵp y mae Gethin yn eu mynychu yn canolbwyntio ar fusnesau llaeth a glaswelltir, ac mae Eleri yn mynychu grwpiau sy’n canolbwyntio ar ddefaid.
Yn ystod blwyddyn lle mae’r tywydd wedi rhoi pwysau ar bopeth o gynhyrchiant glaswellt i gynaeafu’r india-corn, mae’r cymorth wedi bod yn hynod werthfawr.
“Roedd y glaswellt yn araf yn tyfu o ganlyniad i’r gwanwyn oer a gwlyb, felly fe wnaethom droi’r gwartheg i’r borfa ryw fis yn hwyr, gan olygu bod gennym ormodedd o laswellt, felly roedd gennym ni lawer o benderfyniadau i’w gwneud o safbwynt rheoli’r borfa,” meddai Gethin.
“Fe wnaethom ni dorri llawer o’r caeau pori i gynhyrchu silwair i geisio dychwelyd ar y trywydd iawn ar ôl troi’r gwartheg i’r borfa’n hwyrach.’’
Cynhyrchir silwair ar system aml-doriad, gan dorri pum gwaith y flwyddyn ar gyfartaledd.
“Cawsom doriad ysgafn i ddechrau, ac roedd y pedwar toriad nesaf yn sydyn iawn ar ôl ei gilydd,” meddai Gethin.
Roedd ffermwyr defaid hefyd yn teimlo effaith y gwanwyn gwlyb, ac i Eleri, roedd cyngor a chyfarwyddyd gan yr ymgynghorydd milfeddygol defaid, Phillipa Page, sy’n hwyluso’r grŵp trafod Cyswllt Ffermio y mae’n aelod ohono, yn bwysig iawn.
Mae Eleri wedi bod yn aelod o’r grŵp hwnnw ers tair blynedd.
“Rydym ni’n grŵp cymysg ac amrywiol iawn o ffermwyr defaid, o ddiadelloedd bychain, pedigri yn bennaf fel ein diadell ni i ddiadelloedd mynydd gyda miloedd o ddefaid ar y pegwn arall, mae gan bawb rywbeth i’w gynnig,’’ meddai.
“Mae pob un ohonom yn dysgu oddi wrth ein gilydd, ac mae’n grŵp gwych i fod yn rhan ohono.’’
Mae Eleri hefyd wedi dysgu gwybodaeth werthfawr o ganlyniad i fewnbwn Phillipa.
“Mae gan Phillipa gymaint o wybodaeth am ddefaid, ac mae hi’n llawn anogaeth.
“Rydym ni’n cymryd seibiant dros gyfnod ŵyna, ond rydym yn dal i ddefnyddio ein grŵp WhatsApp, ac mae hynny’n gallu bod yn dda o safbwynt cymorth emosiynol ar yr adeg honno o’r flwyddyn.’’
Mae Cyswllt Ffermio wedi darparu cymorth pellach i’r busnes drwy’r Gwasanaeth Cynghori, gan gynnwys cyngor technegol ar iechyd a lles anifeiliaid, bioddiogelwch a rheoli glaswelltir a chnydau, ynghyd â chynllunio busnes.
Mae’r teulu Gibbin hefyd wedi manteisio ar ystod o ddigwyddiadau, clinigau a chymorthfeydd Cyswllt Ffermio, o glinigau yn ymwneud â phridd ac iechyd anifeiliaid i effeithlonrwydd pesgi a chymorth gyda maeth gwartheg bîff a defaid.
“Mae’n golygu addysgu eich hunain a pheidio ag eistedd yn ôl a meddwl eich bod chi’n gwybod popeth, hyd yn oed os ydych chi wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd, gan fod datblygiadau newydd yn digwydd o hyd,’’ meddai Eleri.
Mae datblygu sgiliau yn rhywbeth arall maen nhw wedi’i groesawu, gan gymryd agwedd rhagweithiol tuag at gyfleoedd dysgu.
“Rydym ni bob amser yn rhoi cyfleoedd hyfforddiant i’n staff, ac yn gofyn iddynt beth hoffent ei wneud, oherwydd mae dilyn eu diddordebau eu hunain yn gallu bod o fudd i’r fferm yn ogystal ag iddyn nhw,’’ meddai Eleri.
Mae’r cyrsiau hyfforddiant a sgiliau wedi’u hariannu 80% gan raglen Cyswllt Ffermio.
I Gethin, rhoddodd un o’r rhain gyfle iddo gydymffurfio gyda rheoliadau’n ymwneud â meddyginiaethau milfeddygol.
“Roedd yn rhaid i un unigolyn yn y busnes gael tystysgrif, felly roedd yn braf cael y cyfle i wneud hynny, a’i fod wedi ariannu 80%.’’
Mae llawer o’r cyrsiau ar gael ar-lein ac mae hyn wedi eu gwneud yn fwy hygyrch, ychwanegodd.
“Mae amser ffermwyr yn brin, felly mae’n braf cael cyfle i gwblhau cyrsiau ar-lein ond hefyd i gael cyfarfodydd wyneb yn wyneb, gan fod cyfarfod neu drafodaeth grŵp yn ddigwyddiad cymdeithasol i rai, sy’n eu galluogi i rwydweithio ac ymgysylltu gydag eraill.’’
Mae’n annog ffermwyr i fanteisio ar yr hyn sydd ar gael drwy raglen Cyswllt Ffermio.
“Dywedodd cyn-reolwr wrtha i flynyddoedd yn ôl i beidio â gwrthod unrhyw gynnig da. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u hariannu 80% ac nid oes llawer ym maes ffermio sy’n cynnig cymorth ar y lefel honno.
“Mae cant a mil o bethau i'w gwneud ar fferm bob amser, ond mae'n bendant yn bwysig neilltuo amser ar gyfer y rhain.’’
Mae Eleri yn nodi ei fod yn enghraifft o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
“Mae Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gael mewn gyrfaoedd eraill, ac mae’r hyn y mae Cyswllt Ffermio yn ei gynnig yn galluogi hunanddatblygiad ym myd amaeth.’’
I glywed mwy am stori’r teulu Gibbin ewch i bennod ddiweddaraf FCTV