Mewn buches sugno fasnachol, roedd gwartheg llai yn diddyfnu lloeau a oedd yr un mor drwm â lloeau o wartheg mwy, ac wrth wneud hynny, maent wedi dangos eu bod yn fwy effeithlon o ran cynhyrchiant.

philip jones with cows 1
Mae Phil Jones, Fferm Lan Farm, Cynwyl Elfed, Sir Gâr wedi bod yn monitro pwysau’r fuwch a’r llo wrth ddiddyfnu ar draws ei fuches o 100 o wartheg dros y pum mlynedd diwethaf, ynghyd â defnyddio AI i fagu heffrod cyfnewid ar gyfer y fuches. Mae’r dewis tarw wedi canolbwyntio ar ganfod teirw Limousin du gyda gwerthoedd EBV yn y 25% uchaf ar gyfer nodweddion mamol, gan gynnwys rhwyddineb lloia mamol a rhwyddineb lloia uniongyrchol, ac yn y 10% uchaf ar gyfer tyfiant 400 diwrnod. Y nod yw cynhyrchu buwch a fydd yn magu llo gyda phwysau 200 diwrnod sy’n 50% o bwysau’r fuwch.

Mae canlyniadau’r monitro ers 2012 yn dangos y canlynol:

  • Mae pwysau gwartheg hŷn wedi cynyddu o 70kg ar gyfartaledd i 675kg
  • Mae gwartheg hŷn wedi diddyfnu lloeau’n rheolaidd ar 51.3% o bwysau’r fuwch
  • Mae’r Sgôr Cyflwr Corff ar gyfer y 10 buwch ysgafnaf yn dueddol o fod rhwng 0.4 ac 1.0 sgôr yn is nag ar gyfer y 10 buwch drymaf wrth ddiddyfnu.

Yn 2016:

  • Addaswyd i 200 diwrnod er mwyn caniatáu ar gyfer hyd y cyfnod lloia, roedd effeithlonrwydd y fuwch yn 40% ar gyfartaledd ar gyfer gwartheg hŷn a 39% ar gyfer y rhai a oedd yn geni llo am y tro cyntaf
  • O ran bandiau bwysau, y  gwartheg mwyaf effeithlon yn y fuches oedd y rhai dan 650kg a oedd yn diddyfnu lloeau a oedd yn pwyso 51% o bwysau’r fuwch
  • Roedd gwartheg a oedd yn pwyso dros 700kg yn diddyfnu lloeau oddeutu 40% o bwysau’r fuwch

Cafodd heffrod dyflwydd oed eu lloia am y tro cyntaf yn ystod Gwanwyn 2016, gan alluogi cymhariaeth uniongyrchol â’r heffrod tair blwydd oed yn lloia yn ystod yr un cyfnod:

  • Roedd heffrod dyflwydd oed yn pwyso 542kg wrth ddiddyfnu a heffrod tair blwydd oed yn pwyso 623kg
  • Nid oedd llawer o wahaniaeth o ran cynnydd pwysau hyd at ddiddyfnu ar gyfer y ddau grŵp o loeau
  • Roedd yr heffrod a oedd yn geni lloeau yn ddyflwydd oed yn dangos effeithlonrwydd o 41% a heffrod tair blwydd oed yn 36.1% wrth addasu i 200 diwrnod

Prif negeseuon:

  • Y pwysau gorau ar gyfer y fuwch sugno ar fferm Lan yw 550-650kg
  • Mae’r arbedion o ran costau cynhaliaeth rhwng cadw buwch 780kg a 500kg yn £73 y flwyddyn neu’n £600 dros oes o 8 mlynedd
  • Mae’n bosib y bydd angen i benderfyniadau bridio ganolbwyntio ar ddewis heffrod o deirw gyda ffigyrau twf canolig yn 400 diwrnod
  • Mae heffrod sydd wedi geni lloeau'n ddyflwydd oed wedi magu lloeau sy’n tyfu cystal â lloeau o heffrod sy’n geni lloeau'n 3 blwydd oed
  • Mae lloia heffrod yn ddyflwydd oed yn cynyddu allbwn y fuches drwy gynhyrchu llo ychwanegol ac mae’n bosib  gallai gynorthwyo i  gadw golwg ar y cynnydd graddol mewn maint heffrod llawn dwf
  • Mae rheolaeth yn ôl sgôr cyflwr yn ystod adeg diddyfnu yn hanfodol er mwyn sicrhau nad oes problemau ffrwythlondeb yn codi yn y dyfodol

Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y