lesley griffiths meeting demo network

Mae’r Ysgrifennydd Cabinet newydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cael clywed drosti'i hun sut mae Cyswllt Ffermio yn cynorthwyo i hyrwyddo arfer dda ac arloesedd mewn amaethyddiaeth a choedwigaeth.

Bu Lesley Griffiths yn cwrdd ag aelodau o Rwydwaith Arddangos Cyswllt Ffermio yn Sioe Frenhinol Cymru, lle cafodd glywed am y prosiectau a’r gwaith ymchwil sy'n cael eu cynnal ar draws y rhwydwaith dair haen o safleoedd arddangos, arloesedd a ffocws.

Pwysleisiodd yr Athro Wynne Jones, cadeirydd Bwrdd Cynghori Strategol Cyswllt Ffermio, y rôl bwysig y mae'r rhwydwaith arddangos yn ei chwarae o ran rhannu syniadau a fyddai’n gallu cynorthwyo i wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb mewn amaethyddiaeth a choedwigaeth.

“Mae’r rhwydwaith yn galluogi gwaith ymchwil a datblygiad i gael ei drosi ar lefel llawr gwlad ac felly mae pethau’n digwydd o safbwynt economaidd a busnes y gall ffermwyr uniaethu a hwy," meddai'r Athro Jones. “Mae’r trosglwyddo gwybodaeth sy’n digwydd ar bob lefel yn bwysig iawn ac yn ffordd dda o rannu ymchwil gyda’r diwydiannau ffermio a choedwigaeth ehangach.”

Bu'r Ysgrifennydd Cabinet yn cwrdd â rhai o ffermwyr o'r 12 safle arddangos sy'n cynnwys ffermydd traws-sector ledled Cymru sy’n cynnal prosiectau a threialon sy’n gweithredu ac yn arddangos arloesedd a thechnoleg newydd i’r diwydiant. Bu hefyd yn clywed am ychydig o’r gwaith sy’n cael ei wneud ar yr wyth safle arloesedd a leolir mewn sefydliadau addysg ac ymchwil amaethyddol yng Nghymru sy’n cynnal prosiectau blaengar o ran ymchwil a datblygiad mewn ffermio a choedwigaeth. Bydd y safleoedd ffocws yn cynnal prosiectau unigol sy’n rhoi technoleg a syniadau ar waith mewn sefyllfa ymarferol ar y fferm.

Dywedodd Dewi Hughes, Rheolwr Datblygu Technegol Cyswllt Ffermio: “Rydym yn gweithio gyda nifer o ffermwyr eithriadol o flaengar ac arloesol a trwy’r rhwydwaith gallwn dreialu ac arddangos technegau a thechnoleg newydd a fydd o fudd i’r diwydiant. Bydd gweithio gyda chyrff addysgol hefyd yn helpu i gyfleu'r ymchwil ac arloesedd diweddaraf i gynulleidfa ehangach ac yn galluogi datblygiad prosiectau pellach a ellir cael eu gweithredu ar fferm.”

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â rhwydwaith arddangos Cyswllt Ffermio cliciwch yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu