Mae nifer o bobl adnabyddus sy’n gysylltiedig â Cyswllt Ffermio wedi llwyddo i ennill rhai o wobrau amaethyddol mwyaf clodfawr y flwyddyn eleni.

Ffermwr safle arddangos Cyswllt Ffermio Richard Tudor o Lysun, Llanerfyl gerllaw’r Trallwng a enillodd yn y categori Ffermwr Bîff y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Farmers’ Weekly 2016; Meirion Jones, un o fentoriaid Cyswllt Ffermio a’i bartner busnes ifanc Iwan Poulton, sy’n ffermio gyda’i gilydd yn Nhŷ Llwyd ger Llangadog, enillodd yn y categori Partneriaeth Ffermio’r Flwyddyn yng Ngwobrau Amaeth Prydain, a bu Ben Anthony, sydd hefyd yn un o fentoriaid Cyswllt Ffermio, a’i bartner Diana Fairclough, sydd â safle ffocws yn Fferm Frowen, Llanboidy,  yn fuddugol yng nghategori Arloeswr Defaid y Flwyddyn yng Ngwobrau Amaeth Prydain.

richard tudor 0
Dywedodd y panel beirniadu oedd, yn ôl y sôn wedi rhyfeddu at berfformiad busnes gwych y ffermwr mynydd Richard Tudor ar ddiwrnod eu hymweliad â Llysun, mai’r hyn sy’n gwneud iddo sefyll allan yw ei sylw i’r manylion, sy’n gyrru perfformiad technegol ardderchog ei fenter eidion. Dywedodd y beirniaid bod y ffermwr safle arddangos Cyswllt Ffermio, Richard, yn gwneud yn fawr o  bob tamaid bach o dir ar gyfer ei fuches sugno 140 buwch, sy’n lloia yn y gwanwyn, i gynhyrchu elw gros eithriadol o  £704 y fuwch – sef £100 yn fwy ar gyfartaledd na’r ffermydd mynydd gorau yng Nghymru.

Ychwanegodd y beirniaid bod Richard yn defyddio’r hyn y mae wedi’i ddysgu mewn ysgoloriaethau teithio diwydiannol amrywiol ac yn rhoi ffocws cryf erbyn hyn ar ffrwythlondeb y fuches. Mae hefyd yn perffeithio ei raglen fridio i ddatblygu buwch o faint canolig a fydd yn ffynnu ar y tir uchel.

meirion jones and iwan poulton

I Meirion Jones, roedd dyfodol ei fferm fynydd 283 hectar (700 erw) yn Sir Gaerfyrddin yn dibynnu ar ddod â’r genhedlaeth nesaf i mewn i ffermio, ond roedd ei fab a’i ferch wedi dewis gyrfaoedd gwahanol y tu allan i’r fferm, felly doedd hynny ddim yn opsiwn. Daeth yr ateb diolch i Iwan Poulton oedd wedi cael profiad gwaith ar y fferm pan oedd yn 14 oed ac oedd wedi aros mewn cysylltiad â Meirion a’i wraig Ann erioed wedi hynny. Cafodd Iwan, 26 oed, ei fagu ar fferm 40 hectar (100 erw) yn un o bedwar brawd ac, am nad oedd llawer o opsiynau iddo ar y fferm honno, cychwynnodd drefniant ffermio ffurfiol ar y cyd gyda’r teulu Jones ddechrau’r flwyddyn y llynedd.

Dywedodd y beirniaid bod “Y bartneriaeth ffermio yma’n dangos meddwl arloesol a’r ffordd y gall dull rhagweithiol ddiogelu busnes fferm a dod â’r genhedlaeth nesaf i mewn. Mae’n amlwg bod y ddau barti ar eu hennill diolch i’w gweledigaeth ynghylch y dyfodol.”

 

diana fairclough and ben anthony
Yn 2010, fe wnaeth Ben Anthony a’i bartner Diana Fairclough, sydd wedi bod yn gweithio gyda Cyswllt Ffermio yn y gorffennol fel ffermwyr arddangos yn Frowen, gymryd yr awennau ar y fferm deuluol, ac ers hynny maent wedi bod yn mireinio eu menter defaid i’w gwneud yn fwy effeithlon a phroffidiol, gan fynd ar ôl y farchnad ŵyn wedi’u pesgi. Erbyn hyn, maent yn prynu ŵyn cyfnewid – ŵyn benyw Aberfield wedi’u croesi â defaid Cymreig Tregaron - o un ffynhonnell i leihau'r risg o glefydau ac yn eu rhedeg gyda meheryn Abermax a Primera y mae eu perfformiad wedi’i gofnodi i wella perfformiad cyffredinol yr oen.

Mae nifer y defaid wedi cynyddu o 300 o famogiaid i 570 o famogiaid a 250 o ŵyn benyw. Cafwyd newidiadau eraill i’w system yn cynnwys gwell maethiad cyn ŵyna, cyflwyno hyrddod ymlid i ostwng y cyfnod wyna a thechnoleg EID i fonitro perfformiad.

Meddai’r beirniaid, “Mae’n amlwg nad dilyn ffasiwn neu chwiw yn unig y mae Ben a Diana. Maent yn cofnodi popeth y gallent i sicrhau eu bod yn defnyddio arloesedd yn y ffordd orau bosib ar gyfer eu busnes ffermio.”

Roeddent yn arbennig o hoff o’u defnydd o eneteg i wella’r ddiadell ac, yn y pen draw, i wella’r cynnyrch gorffenedig, gyda’r nod o ateb gofynion y farchnad.

Dywedodd Ben bod y gefnogaeth sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio wedi cael dylanwad allweddol ar ddatblygiad busnes Frowen mewn blynyddoedd diweddar, diolch i’w cysylltiad â’r rhwydwaith safle arddangos presennol a blaenorol, Cystadleuaeth Menter Ffermwyr a rhaglen Busnes ac Arloesedd Academi Amaeth Cyswllt Ffermio.

Roedd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, eisiau llongyfarch buddugwyr i gyd gan ddweud,

“Rydym yn eithriadol o ffodus fod cymaint o’r buddugwyr eleni’n ymwneud yn agos â Cyswllt Ffermio yn eu rolau naill ai fel mentoriaid neu ffermwyr rhwydwaith arddangos. Nid yn unig y maent yn gwneud gwaith gwych yn datblygu eu busnesau eu hunain drwy eu gwaith gyda Cyswllt Ffermio, maen nhw i gyd yn hapus i rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd gyda ffermwyr a choedwigwyr eraill ledled Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites