13 Mawrth 2018

 

Mae Compact TMR yn golygu mwydo dwysfwyd mewn dŵr a chymysgu o flaen llaw ac wedi cael ei arbrofi ar y fuches odro yng Ngholeg Llysfasi, un o safleoedd arloesedd Cyswllt Ffermio.

Mae’r uned yn rheoli’r fuches Holstein Fresian sy’n lloia trwy gydol y flwyddyn mewn dau grŵp o 100 o wartheg yn unol â chytundeb llaeth a2; mae hyn wedi galluogi cymharu’r ddau system fwydo yn uniongyrchol.

Cafodd un grŵp eu porthi gyda dogn sydd wedi ei gymysgu yn gonfensiynol mewn wagen fwydo tra bod yr ail grŵp wedi cael eu porthi gyda dogn wedi ei baratoi yn ôl y dull cywasgedig sy’n cynnwys lleithio’r cyfansoddion sych a’u cymysgu mewn dogn 8 litr o ddŵr ar gyfer pob buwch, cyn cymysgu’r rhain gyda’r porthiant am 30 munud.

Y cysyniad y tu ôl i hyn yw ei fod yn rhoi dogn cyson i bob buwch.

Yn ystod yr arbrawf pedair wythnos, cynyddodd cynhyrchiant llaeth y fuches oedd yn cael eu bwydo gyda’r Dogn Cytbwys Cyflawn Cywasgedig (Compact TMR), ond roedd tail, braster menyn yn y llaeth a chnoi cil y fuches yn fwy cyson.

Dywedodd Will Jones o Kite Consulting, a ddadansoddodd ganlyniadau’r arbrawf ar ran Cyswllt Ffermio, fod y data wedi dangos fod y diet yn gyson.

“Mae pob buwch yn cael diet yn agosach at hwnnw sydd ar bapur yn hytrach na bod rhai yn cael mwy o ddwysfwyd gan eu bod nhw wedi ei rannu oddi wrth y porthiant, tra bod y gwartheg sy’n fwy swil yn cael y bwyd ffibrog sy'n weddill.

“Yn yr arbrawf hwn roedd yna fwy o amrywiaeth o gnoi cil gan fod rhai yn delio gyda gormod o ffibr tra bod eraill yn delio gydag asidosis oherwydd eu bod wedi bwyta gormod o ddwysfwyd.”

Mae mwydo’r porthiant dros nos yn golygu ei fod ar gael yn haws yn y rwmen; mae hyn yn digwydd gan fod y bond rhwng y protein mewn gwahanol gydrannau yn y bwyd yn cael eu treulio, ac mae’r bwydydd yn cael treulio’n gyflymach gan fod organebau’r rwmen medru cael ato’n haws.

Cafodd system sgorio gwead tail ei ddefnyddio er mwyn asesu diet y fuwch, gydag 1 yn rhydd a dyfriog a 5 yn ansawdd caled. “Roedd niferoedd uchel o sgôr 2 yn y grŵp TMR arferol sy’n dangos anghydbwysedd yn y dogn,” eglurodd Mr Jones.

Mae gan Llysfasi protocol cymysgu da iawn ar gyfer y dogn TMR arferol ac yn bwydo gyda lefelau gweddol isel o ddwysfwyd - dogn 4.5kg o ddwysfwyd a 70% o borthiant deunydd sych - felly mae yna gyfle am fwy o welliant eto mewn buchesi gyda dogn sydd heb ei gymysgu ddigon neu gyda lefel uwch o ddwysfwyd, ychwanegodd Mr Jones.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl gweld cymaint o welliant ac mae’n bosib y bydd cynnydd hyd yn oed yn fwy ar ffermydd eraill,’’ meddai.

Dywedodd rheolwr fferm Llysfasi, Dewi Jones, ei fod wedi cael ei ddarbwyllo i ddefnyddio Dogn Cytbwys Cyflawn Cywasgedig (Compact TMR) ac yn parhau gyda’r dull yma ar gyfer y gaeaf nesaf.

“Ar 29c y litr mewn buches o 200 o wartheg yn ystod gaeaf 180 diwrnod o hyd, byddai’r 1.6 litr o laeth sy’n cael ei gynhyrchu gan bob buwch, bob dydd yn cynhyrchu tua £17,000 o incwm llaeth ychwanegol,’’cyfrifodd Mr Jones.

“Dydyn ni ddim wedi bwydo mwy i’r fuches, dim ond eu bwydo’n wahanol.’’

Mae’n dweud bod y buddion yn ehangach na’r cynnyrch llaeth. “Rydym ni wedi adeiladu cyfleuster i wartheg amddiffyn eu lles, ond roedd cael amrywiaeth yn y diet yn golygu nad oedd y gwartheg swil yn cael rhan deg o’r ddogn.’’

Mae’n hyderus y bydd y gwartheg yn gorwedd am gyfnod hirach ac y bydd iechyd y traed yn gwella dros gyfnod o amser oherwydd bydd y gwartheg yn llai tebygol o ddilyn y wagen gymysgu o amgylch y sied ar ôl iddyn nhw ddeall y gallan nhw dethol y bwyd.

Dywedodd Rhys Davies, Swyddog Technegol Llaeth gyda Cyswllt Ffermio, nad yw’r system yn gofyn am waith ychwanegol ond y dylai cael ei gydbwyso gyda’r adenillion ariannol

“Mae’r system hon yn werth ei hystyried yn enwedig ar gyfer buchesi sydd â chynhyrchiant uchel,’’ dywedodd.

 

Pethau i’w hystyried gyda Dogn Cytbwys Cyflwn Cywasgedig (Compact TMR)

Mae angen silwair sy’n uchel mewn deunydd sych felly mae angen cynllunio’n ofalus ar gyfer porthiant; nid yw ychwanegu llai o ddŵr yn opsiwn pan fydd porthiant yn wlypach gan fod hyn yn golygu bod y dwysfwyd yn mynd yn belenni.

Mae’n anodd rhoi’r system ar waith os nad oes llawer o ddeunydd sych mewn porthiant.

Mae porthiant yn medru glynu at derydr porthwr fertigol felly byddwch yn ymwybodol o hyn wrth gymysgu bwyd neu fwydo.

Mae’n rhaid bod digon o NDF yn y deiet er mwyn i borthi dogn cytbwys cyflawn weithio.

Ni ddylai’r lefelau starts eplesadwy yn y diet fod yn rhy uchel cyn ychwanegu dŵr oherwydd bydd eplesu yn cynyddu ac yn arwain at broblemau posib gydag asidosis.

Peidiwch ag ychwanegu braster sydd wedi’i warchod rhag y rwmen cyn cymysgu gan y byddan nhw’n dirywio - ychwanegwch y rhain ar yr un adeg â’r porthiant.

 

Peryglon posib

Mewn tywydd cynnes gallai’r porthiant sydd heb ei gymysgu boethi a bydd angen ychwanegu asid i’w sefydlogi.

Cadwch lygad am ddwysfwyd sy’n ffurfio pelenni sy’n medru cael ei achosi gan lafnau diffygiol ar wagen gymysgu neu heb fod yn cymysgu am ddigon o amser.

Bydd y gymysgedd yn fwy dwys na dogn cytbwys cyflawn (TMR) arferol a gallai hyn dreulio rhannau fel y pin torri ar siafft PTO.

 

Lefelau cnoi cil yn y ddau grŵp yn seiliedig ar 11 buwch o bob grŵp

Munudau’n cnoi cil – 1 diwrnod

Lleiafswm

Cyfartaledd

Uchafswm

Amrediad

Compact TMR

598

657

747

149

TMR Arferol

434

550

680

246


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint