26 Tachwedd 2018

 

Cyhoeddi enillwyr gwobrau Dysgwr ar y Tir y Flwyddyn Lantra 2018 (categorïau Cyswllt Ffermio) gan Ysgrifennydd y Cabinet yn y Ffair Aeaf

 

Rhennir y wobr eleni rhwng Linda Edwards sy’n ffermio ger Bettisfield, ar y gororau, a Bryony Gittins, sy’n ffermio ger Y Fenni.  Mae’r ddwy’n frwdfrydig dros ddysgu gydol oes ac yn cytuno ei bod yn elfen hanfodol os ydych eisiau datblygu busnes fferm cynaliadwy a phroffidiol! 

Cyflwynwyd y tystysgrifau i’r ddwy enillydd haeddiannol eleni yng Ngwobrau Dysgwr ar y Tir y Flwyddyn Lantra (categorïau Cyswllt Ffermio) gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd heddiw (dydd Llun, 26 Tachwedd) yn Ffair Aeaf Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd. Dyma’r 25ain blwyddyn i gynnal y gwobrau.

Mae enillydd gwobr Cyswllt Ffermio Lantra, ffermwr o Ganolbarth Cymru Linda Edwards, wedi bod yn helpu ei gŵr am yr 20 mlynedd diwethaf i redeg fferm laeth ger Bettisfield, Whitchurch.

Fel ffermwyr llaeth, dywed Linda ei bod hi a’i theulu wedi wynebu nifer o heriau a rhwystrau yn y blynyddoedd diwethaf ond bod ei phenderfyniad i ddiogelu’r busnes wedi ei harwain at ddatblygiad proffesiynol parhaus. Mae’n canmol hyfforddiant gwella busnes sy’n cael ei gynnig gyda chymhorthdal gan raglen Cyswllt Ffermio am roi’r hyder a’r sgiliau iddi weithredu ei chynlluniau i ddatblygu a thyfu’r busnes. Ar ôl astudio cynllunio busnes, marchnata a rheolaeth ariannol drwy raglen Cyswllt Ffermio, mae bellach yn defnyddio ei sgiliau newydd i helpu i ddatblygu menter arallgyfeirio ar y fferm sy’n cynnwys safle carafanau a gwersylla a chanolfan gynadledda wledig newydd. 

Bryony Gittins, cyn hyfforddwraig gweithgareddau awyr agored gyda gradd mewn sŵoleg, a ddychwelodd i’r fferm deuluol ger Y Fenni ar ôl gweithio am nifer o flynyddoedd i ffwrdd o’r diwydiant, enillodd wobr ‘Dan 40’ Cyswllt Ffermio Lantra. Cwblhaodd Bryony gynllun datblygu personol ar-lein y llynedd. Ers hynny mae wedi manteisio ar bob cyfle i gael gwybodaeth a dealltwriaeth ynglŷn â sut i reoli a datblygu’r fferm deuluol y mae’n gobeithio ei hetifeddu gan ei rhieni yn y pen draw.

Mae Bryony wastad yn cadw llygad am hyfforddiant i hybu ei sgiliau, ac mae wedi mynychu nifer o sesiynau hyfforddi ymarferol yn cynnwys diogelwch ar y fferm, ynghyd â chyrsiau ariannol a rheoli busnes. Mae hefyd yn frwd dros fodiwlau e-ddysgu rhyngweithiol sydd wedi’u hariannu’n llawn gan Cyswllt Ffermio, a dywed bod y cyfle i ddysgu sgiliau newydd drwy ei gliniadur ar amser sy’n addas iddi wedi bod yn werthfawr iawn.  

Llongyfarchodd Ysgrifennydd y Cabinet holl enillwyr Lantra a phawb a enwebwyd am eu llwyddiannau arbennig, gan ddweud ei bod yn galonogol bod nifer o ffermwyr a choedwigwyr bellach yn ystyried bod gwella eu sgiliau ariannol a rheoli busnes yr un mor bwysig â dysgu sgiliau technegol ac ymarferol newydd.  

“Mae’r unigolion hyn yn gwneud cymaint i yrru ein diwydiant yn ei flaen, gan helpu i’w foderneiddio a’i broffesiynoli wrth i ni i gyd baratoi ein hunain a’n busnesau ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd a wynebwn yn y dyfodol y tu allan i’r UE .  

“Mae'n argoeli’n dda ar gyfer hyfywedd a chadernid busnesau fferm Cymru yn y dyfodol. Rhaid i ddysgu gydol oes ddod yn norm o fewn y diwydiant amaethyddol os yw’r busnesau o fewn y diwydiant hwnnw am fod yn fwy sefydlog, mwy cadarn a ffyniannus,” meddai Ysgrifennydd y Cabinet.

Mae Linda a Bryony yn ceisio ymdopi â gofynion gweithgareddau ffermio o ddydd i ddydd a bywyd teuluol, ond maent yn cytuno bod gwella eu set sgiliau drwy hyfforddiant gyda chymhorthdal drwy Cyswllt Ffermio wedi trawsnewid y ffordd y maent yn mynd i’r afael â thasgau ymarferol a’r pentwr heriol o waith papur sy’n mynd law yn llaw â rhedeg busnes fferm llwyddiannus. 

Enwebwyd y ddwy ohonynt ar gyfer y gwobrau gan Julie Thomas, cyfarwyddwr Ymgynghoriaeth Hyfforddiant Simply the Best, darparwr hyfforddiant sydd wedi’i gymeradwyo gan Cyswllt Ffermio a ddarparodd eu hyfforddiant busnes a thechnegol.

Yn agos i’r brig ar gyfer gwobr Cyswllt Ffermio oedd Gwilym Jones o Fferm Llwynbedw, Cwmgïedd, Ystradgynlais a enwebwyd gan Ymgynghoriaeth Hyfforddiant Simply the Best. 

Yn agos i’r brig ar gyfer gwobr ‘O dan 40’ Cyswllt Ffermio oedd Eirios Jones o Garthlwyd, Harford, Llanwrda a enwebwyd gan Goleg Sir Gâr. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint