Wrth i’r tueddiad tuag at gynhyrchu carcasau bîff ysgafnach edrych yn debygol o barhau, bydd angen i ffermwyr addasu er mwyn cynhyrchu’r gwartheg sydd eu hangen er mwyn bodloni’r gofynion targed. Llunio dognau addas ar gyfer gwartheg yn ystod gwahanol gyfnodau twf yw un o’r ffyrdd gorau i weithio tuag at fodloni gofynion y farchnad a gall hefyd gael effaith uniongyrchol ar gost-effeithiolrwydd a phroffidioldeb y fenter.

Ar hyn o bryd, 54% o’r gwartheg yn unig sy’n cyrraedd y targed ar gyfer cyfansoddiad carcas a dosbarth braster, ac mae un o’r prif broseswyr, wedi’u lleoli ym Merthyr Tudful, wedi capio taliadau am wartheg ar bwysau o 400kg. Mae St Merryn Foods, rhan o’r 2 Sisters Food Group, wedi cyflwyno cap ar garcasau sy’n pwyso rhwng  400kg-420kg, gyda gostyngiad o 5c/kg ar bwysau rhwng 420kg-430kg a 10c/kg ar garcasau sy’n pwyso dros 430kg.

speakers at penmark place

“Rydym wedi penderfynu lleihau’r gofynion pwysau ar wartheg gan nad yw’r anifeiliaid trymach yn cynnig y toriadau cig sylfaenol sydd arnom eu hangen i ddarparu’r prydau bwyd y mae’r cwsmer yn gofyn amdanynt,” meddai Leighton Jones o Dîm Caffael Da Byw St Merryn yn ystod cyfarfod Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd ar fferm Penmark Place, Y Rhws, Y Bari.

“Mae cwsmeriaid yn sensitif iawn i bris ac er mwyn gallu cystadlu yn erbyn protein rhatach, rydym wedi gorfod lleihau pwysau’r pecynnau. Yn ogystal, mae ganddynt lai o amser i goginio prydau, felly mae pwysau pecynnau a phwysau’r darnau cig yn lleihau. Mae arferion yn newid hefyd, gyda llai o bobl yn bwyta cinio rhost mawr ar ddydd Sul a mwy’n bwyta cinio rhost llai yn ystod yr wythnos. Mae pobl yn fwy ymwybodol o ganllawiau iechyd yn ymwneud â bwyta cig, ac mae’n rhaid i adwerthwyr reoli hynny o ran maint y pryd. Mae’r holl ffactorau hyn yn arwain at fod angen carcasau ysgafnach.”

Mae maeth yn allweddol er mwyn cynhyrchu cyfansoddiad a gorchudd braster addas ar fferm Penmark Place lle mae Julian Radcliffe yn prynu gwartheg sugno o darw Charolais o farchnadoedd da byw Aberhonddu a Phontsenni, ac yn eu pesgi ar laswellt a silwair India corn yn ogystal â grawn a ffa a dyfir gartref. Roedd yr arbenigwr maeth annibynnol, David Hendy, yn cefnogi proses tri cham, gan deilwra dognau’n benodol ar gyfer y cyfnodau magu, tyfu a phesgi.

“Mae bwydo’n hollbwysig, mae’n rhaid i chi reoli’r rwmen er mwyn cael y gorau o’r anifail. Y tri pheth sydd angen i chi sicrhau eu bod yn iawn yw’r porthiant, yr egni a’r protein,” meddai Mr Hendy.

Bydd dognau’n seiliedig ar borthiant yn annog cnoi cil ac yn helpu i sicrhau iechyd y rwmen. Mae gwneud y defnydd gorau o borthiant hefyd yn gallu bod yn un o’r dulliau mwyaf cost effeithiol ac yn helpu i leihau costau cynhyrchiant. Sicrhau’r pwysau gorau’n 200 diwrnod oed yw prif ffocws y cyfnod magu ac yn ystod y cyfnod tyfu, bydd gwneud y defnydd gorau o borthiant a phrotein yn helpu’r ffrâm i dyfu mewn modd y gellir ei reoli. Yn ystod y cyfnod pesgi, mae’n bwysig cynyddu cyfanswm yr egni yn y dogn er mwyn sicrhau’r gorchudd braster gorau posib.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu