20 Awat 2024

Mae Will ac Alex Prichard yn lloia 500 o fuchod mewn bloc yn y gwanwyn yn Escalwen, ger Treletert, ac maent hefyd yn rhedeg dwy fuches o 200 o wartheg sy'n lloia yn yr hydref.

Gall y llif uchel hwnnw o loi gyflwyno heriau o ran afiechyd - yn y tair blynedd hyd at 2023, roedd marwolaethau lloi o ddolur rhydd y newydd-anedig yn 9.5% ar gyfartaledd, gan gyrraedd uchafbwynt o 16% yn 2022 pan oedd y fuches yn destun cyfyngiadau symud TB buchol.

“Dros fy ngyrfa ffermio gyfan, un o’r pethau mwyaf torcalonnus rydw i wedi’i brofi yw pan fydd magu lloi’n mynd o chwith, a phan fydd marwolaethau a salwch mewn lloi bron yn anorchfygol,” meddai Mr Prichard.

Mewn ymgais i gywiro gwendidau yn eu system, yn 2023 cychwynnodd y teulu Prichard a’u magwr lloi, Tom Phillips, raglen fwydo newydd dan arweiniad yr ymgynghorydd milfeddygol Ryan Davies.

Buddsoddwyd mewn dau basteurydd, a ariannwyd yn rhannol gan gynllun Grantiau Bach - Effeithlonrwydd Llywodraeth Cymru, i fwydo llaeth buwch pontio wedi’i gyfoethogi â cholostrwm buchol cyflawn ar ffurf powdr ar ôl i’r lloi gael eu colostrwm.

Cynhyrchir llaeth pontio gan y fuwch o'r ail odroad ar ôl lloia, hyd at y chweched, ac mae'n cynnwys canran uwch o solidau llaeth, gwrthgyrff, fitaminau a mwynau na llaeth a gynhyrchir ar ôl yr adeg hon yn y cyfnod llaetha.

Mae ganddo hefyd lefelau uwch o ffactorau twf, proteinau gwrthficrobaidd naturiol a sylweddau bioactif eraill.

Ond mae ansawdd y llaeth pontio yn amrywiol iawn. Bydd hynny, ar y cyd â throsglwyddo imiwnedd goddefol (TPI) o golostrwm sy’n pennu lefelau gwrthgyrff llo, yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i iechyd a pherfformiad.
Os nad yw lloi’n cael digon o wrthgyrff, maen nhw’n fwy tebygol o farw, dioddef o ddolur rhydd neu broblemau anadlu, a bydd angen triniaeth â gwrthfiotigau arnynt.

Mae cymryd samplau gwaed o loi a defnyddio IgG fel biofarciwr i safoni llaeth pontio yn un ateb a dyma a wnaeth y teulu Prichard, gyda chymorth Cyllid ‘Arbrofi’ Cyswllt Ffermio, sef menter sy’n ariannu unigolion a grwpiau o ffermwyr a thyfwyr i arbrofi gyda syniadau a’u gwireddu.

Drwy gydol y tymor lloia, cymerodd Dr Davies samplau gwaed dyddiol o loi newydd-anedig yn eu 24 awr gyntaf.

Dangosodd y canlyniadau fod gan 21% TPI rhagorol, 7% da, 41% gweddol a 31% gwael.

“Mae hyn tua’r cyfartaledd ar gyfer y DU ac yn dda ar gyfer buches laeth sy’n lloia mewn bloc,’’ meddai Dr Davies, o Veterinary Technical Consulting Ltd.

Mesurwyd cyfanswm y solidau yn y llaeth pontio wedi’i basteureiddio â reffractomedr Brix a, gan ddibynnu ar y darlleniad, cafodd ei gyfoethogi â phowdr colostrwm o SCCL i’w safoni i leiafswm o 12.5% Brix neu 14.5% o solidau llaeth – opsiwn arall yn lle powdr yw ychwanegu colostrwm llaeth cyflawn.

“Os nad oedden ni’n cyrraedd y trothwy hwnnw, fe wnaethom ni ychwanegu powdr colostrwm buchol cyflawn ato er mwyn cynyddu’r darlleniad Brix,’’ esboniodd Dr Davies.

“Y lefel Brix ar gyfartaledd ar gyfer y llaeth yn Escalwen oedd 10.5%, felly fe wnaethon ni godi hynny i 12.5%, ond bydd pob fferm yn wahanol.”

Paramedrau eraill a ddefnyddiwyd ar gyfer y llaeth oedd cyfanswm cyfrif bacteriol o lai na 100,000 o unedau sy’n ffurfio cytref (cfu)/ml, cyfanswm cyfrif colifform o lai na 10,000 cfu/ml a dim gweddillion gwrthfiotig.

“Mae’n bwysig nad yw lloi’n cael unrhyw weddillion gwrthfiotig oherwydd eu bod nhw’n atal twf microbïom iach arferol y perfedd,’’ meddai Dr Davies.

Roedd y llaeth yn cael ei fwydo i’r lloi hyd at ddiwrnod 10.

Arweiniodd y dull hwn at welliant sylweddol yn iechyd y lloi a gostyngiad mawr mewn marwolaethau.

Gostyngodd nifer y marwolaethau o ganlyniad i ddolur rhydd newydd-anedig o gyfartaledd o 9.5% i 3%, a’r defnydd o wrthfiotigau mewn lloi wedi’u diddyfnu ymlaen llaw i 16%, o gymharu â’r cyfartaledd pum mlynedd o 45%.

Yn bwysig ddigon, ni ddefnyddiwyd unrhyw wrthfiotigau hollbwysig â’r flaenoriaeth uchaf (HP-CIA) cyn diddyfnu yn 2024; yn 2022, roedd y defnydd o'r rhain wedi cyrraedd uchafbwynt o 1.98mg/PCU.

Er bod rhywfaint o gost ychwanegol yn gysylltiedig â bwydo llaeth pontio, o lafur ac offer ar gyfer ei gasglu hyd at ei storio a’i wresogi, dywedodd Mr Prichard fod y gwelliannau wedi newid hwyliau'r fferm yn llwyr yn ystod y cyfnod lloia.

“Ar ôl i chi ddeall pa mor bwysig yw IgGs, mae’n dod yn angerdd, bron, i gynaeafu cymaint o'r IgG hwnnw ag y gallwch chi a'i ddefnyddio yn eich buches eich hun.''

Yn ogystal â bwydo llaeth pontio, gwnaed gwelliannau i hylendid a glendid er mwyn lleihau’r her o ran afiechyd.

Roedd pasteureiddio’r llaeth yn “allweddol”, ychwanegodd, i leihau risgiau afiechyd fel clefyd Johne’s a TB buchol.

Cafodd y llaeth ei basteureiddio am 60 munud ar 60°C i ddinistrio pathogenau gan gynnwys mycoplasma, salmonela, E. coli a listeria.

Gall pasteureiddio ar dymheredd uwch neu am gyfnod hwy leihau lefelau gwrthgyrff, er bod astudiaethau wedi dangos bod hyn yn fwy effeithiol wrth ddinistrio organebau Johne’s a TB buchol y gellir eu canfod ar ôl cynhesu’r llaeth i 60°C am 60 munud.

Awgrymiadau gwych ar gyfer bwydo llaeth pontio

Cadwch at arferion hylendid da wrth ei gasglu a’i storio cyn bwydo

Cynheswch y llaeth i'r tymheredd cywir cyn bwydo

Cymerwch statws iechyd y fuches i ystyriaeth i leihau'r risg o drosglwyddo clefydau, yn enwedig os na ddefnyddir pasteureiddio.

Mewn systemau sy'n bwydo llaeth powdr ar gyfer lloi yn lle llaeth cyflawn, dylid tynnu'r màs cyfatebol o bowdr llaeth a rhoi powdr colostrwm yn ei le er mwyn cynnal canran y solidau ac atal dolur rhydd osmotig.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Gweithdy cyngor gan Cyswllt Ffermio yn gam cyntaf yn y broses o drawsnewid diadell fferm
13 Awst 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Cwpl Cymreig yn Meithrin Hafan i Fywyd Gwyllt
12 Awst 2024 Mae clystyrau melyn o Blucen Felen a blodau bychain
Denbighshire Farm Undertakes Ambitious Woodland Restoration and Planting Scheme
31 July 2024 A farm-based tree management and planting scheme in