Mae Heidi Curtis wedi gosod ei bryd ar fod yn ffermwr llwyddiannus.  Amser a ddengys ai drwy gynorthwyo i ddatblygu menter laeth 200 erw ei rhieni yn Higher Kinnerton, Sir y Fflint, neu chwilio am waith yn rhywle arall fydd y ferch ifanc uchelgeisiol yn cyflawni hynny. 

Mae Heidi, sy’n ddeunaw oed, yn fyfyrwraig ail flwyddyn yn astudio diploma mewn amaeth yng Ngholeg Llysfasi.  Nid yn unig mae Heidi’n adeiladu ar ei sgiliau fel rhan o'i hastudiaethau coleg, mae hefyd yn manteisio ar yr hyfforddiant ychwanegol sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio.  Law yn llaw â’i datblygiad personol, mae hefyd yn awyddus i annog ei rhieni i edrych ar bob agwedd o gefnogaeth Cyswllt Ffermio sydd ar gael ar eu cyfer, gan mai ei nod hir dymor yw i'r fferm deuluol gynnig bywoliaeth iddi hithau’n ogystal.

gwenno puw and heidi curtis
“Mae fy rhieni wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, ac maent wedi dysgu llawer o ganlyniad i fynychu gwahanol ddigwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth yn ein hardal leol. Gobeithio y byddaf yn gallu eu hannog i ddatblygu'r busnes ymhellach fyth trwy fanteisio ar rai o'r gwasanaethau mwyaf diweddar a gyflwynwyd, fel y mentora a'r gefnogaeth cynllunio busnes sydd ar gael fel rhan o'r Gwasanaeth Cynghori," meddai Heidi.

Ar hyn o bryd, mae buches laeth 120 o wartheg a thua 40 heffer ifanc ar y fferm, a phob un yn Friesian Holstein.  Mae Heidi yn awyddus i ddysgu cymaint â phosibl ynglŷn â sicrhau bod y fuches mor broffidiol â phosibl.  Pan nad yw’n brysur gydag ymrwymiadau coleg, mae hi a’i chwaer 22 mlwydd oed, sy’n gweithio’n llawn amser oddi ar y fferm, yn helpu eu rhieni ar bob cyfle, gan ymwneud â phob agwedd o'r gwaith gan gynnwys godro, maeth a materion iechyd anifeiliaid cyffredinol. 

“Mae fy rhieni hefyd wedi perswadio fy chwaer a minnau i gymryd diddordeb mewn defaid, ac er mai megis dechrau ydym ni, mae ein diadell o famogiaid Suffolk pedigri yn gwneud yn dda ac yn eithaf cynhyrchiol." 

I Heidi, y prif ffactor a arweiniodd hi at y rhaglen o ddatblygiad personol a'i huchelgais i ddatblygu'r busnes teuluol oedd pan estynnodd Coleg Llysfasi wahoddiad i Cyswllt Ffermio roi cyflwyniad i rai o'u myfyrwyr amaeth y llynedd.

“Fe anogwyd pob un ohonom i gwblhau Cynllun Datblygu Personol Cyswllt Ffermio ar lein. Dangosodd y cynllun fylchau yn fy ngwybodaeth ac roedd o gymorth i mi allu canolbwyntio ar y meysydd hyfforddiant neu sgiliau a fyddai o fwyaf o fantais i mi, nid yn unig fel unigolyn, ond hefyd ar gyfer y busnes teuluol.  

Roedd hyn yn agoriad llygad i mi, ac yn sydyn iawn roeddwn i'n deall gwerth datblygiad personol a busnes, a sut y gallai hynny fod o fantais nid yn unig i mi, ond hefyd ar gyfer y teulu i gyd," meddai Heidi.

Ymgeisiodd Heidi i wneud hyfforddiant AI, a oedd, yn ei geiriau hi, yn gwrs dwys a chynhwysfawr iawn dros gyfnod o wythnos. Mae hi bellach yn cwblhau tasgau AI ar y fferm gartref, sydd wedi arwain at arbedion ariannol sylweddol i'w rhieni. 

“Rwy’n gobeithio ymgeisio am hyfforddiant trimio traed nesaf, gan fod hwnnw'n faes arall a ellir ei wneud ein hunain os mae'r sgiliau iawn mewn lle, yn hytrach na dibynnu ar lafur a brynir i mewn," meddai Heidi.

Nid yw Heidi wedi penderfynu’n union beth mae hi am ei wneud ar ôl cwblhau blwyddyn olaf ei chwrs yn Llysfasi, ond mae'n debyg bod dysgu gydol oes yn parhau i fod yn rhan o'i chynllun.

"Rwy'n ystyried ymgeisio am swyddi lleol a fydd yn fy ngalluogi i barhau i hyfforddi wrth ddysgu, gan y byddai cael profiad ymarferol yn fanteisiol iawn i mi cyn dychwelyd i'r fferm deuluol."

“Nid wyf wedi penderfynu eto a ddylwn ganolbwyntio ar y diwydiant llaeth ai peidio. Gawn ni weld sut fydd y defaid Suffolk yn perfformio dros y flwyddyn nesaf!”

Mae’r cyfnod ymgeisio presennol ar gyfer hyfforddiant Cyswllt Ffermio ar agor ar hyn o bryd tan 31.03.2017. Am fwy o fanylion, cysylltwch â'ch swyddog datblygu lleol neu ewch i'n tudalen hyfforddi.

 

Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites