20 Mawrth 2019
Mae Cyswllt Ffermio ar hyn o bryd yn recriwtio Safleoedd Arddangos newydd ledled Cymru. Gwahoddir datganiadau diddordeb gan ffermwyr a choedwigwyr erbyn Dydd Llun, 15 Ebrill 2019 fan bellaf.
Mae Safleoedd Arddangos yn rhan allweddol o raglen trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio. Bydd y safleoedd newydd yn dod yn weithredol ym mis Medi 2019.
Os ydych chi’n awyddus ac yn frwdfrydig i ddatblygu eich busnes trwy fod yn Safle Arddangos am gyfnod o dair blynedd, cysylltwch â Cyswllt Ffermio a chwblhewch y ffurflen i ddatgan eich diddordeb.
Dywed Dewi Hughes, rheolwr datblygu technegol Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, fod y rhaglen yn cynnig cyfle gwych i berchnogion busnes uchelgeisiol sy’n awyddus i ddiogelu dyfodol eu busnes trwy gymryd y camau angenrheidiol i fod mor effeithlon a chynhyrchiol â phosibl, er mwyn rheoli ac ymdopi gyda chyfleoedd a heriau marchnadoedd y dyfodol.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae ein safleoedd arddangos wedi codi safonau ar draws nifer o feysydd, sydd wedi eu galluogi i leihau mewnbynnau, cynyddu allbynnau a gweld yr effaith hollbwysig honno ar eu helw, wrth iddynt ddysgu o brofiad personol, ac maent yn gallu gweld drostynt eu hunain beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio.
“Gydag arbrofion a phrosiectau’n digwydd drwy’r flwyddyn, mae’r busnesau wedi elwa o gefnogaeth a chymorth rheolaidd gan dîm technegol Cyswllt Ffermio, yn ogystal â derbyn cymorth ac arweiniad sylweddol gan arbenigwyr ar sectorau penodol wedi’u hariannu’n llawn i gynnig cyngor,” meddai Mr Hughes.
Elfen hanfodol o lwyddiant rhaglen trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio yw ei rôl wrth rannu arfer dda drwy raeadru gwybodaeth gyda’r diwydiant ehangach. Trwy raglen o ddigwyddiadau safleoedd arddangos uchel eu proffil ac adnoddau hyrwyddo, mae Cyswllt Ffermio yn gallu rhannu canfyddiadau a chanlyniadau nifer o brosiectau ac arbrofion ar draws nifer o sectorau, gan amrywio o reoli’r borfa i iechyd a hwsmonaeth anifeiliaid, gydag arloesedd a thechnoleg newydd yn chwarae rhan flaenllaw.
“Fel gyda’n rhwydwaith safleoedd arddangos presennol, bydd pob busnes a ddewisir yn derbyn dangosyddion perfformiad clir ac yn cytuno ar ganlyniadau o’r dechrau fel bod nodau a systemau clir ar waith i fonitro cynnydd,” meddai Mr Hughes.
Bydd pob un o’r safleoedd arddangos newydd yn cael eu hannog i fanteisio ar elfennau eraill o gefnogaeth Cyswllt Ffermio sydd ar gael ar gyfer busnesau cymwys sydd wedi cofrestru, gan gynnwys y Rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth, sy’n cynnig cyfle i ymweld â busnesau llwyddiannus yn Ewrop yn ogystal â chroesawu arbenigwyr a fyddai’n gallu cefnogi eich amcanion datblygu chi fel busnes.Am ragor o fanylion ynglŷn â’r hyn y gallech ei ddisgwyl pe byddech yn cael eich dewis i fod yn rhan yn rhwydwaith arddangos Cyswllt Ffermio, cliciwch yma lle gallwch weld adroddiadau a chanlyniadau rhai o’r busnesau sy’n cymryd rhan ar hyn o bryd.
Noder: y dyddiad cau i gyflwyno eich ffurflen Datganiad o Ddiddordeb yw dydd Llun, 15 Ebrill 2019.