21 Mawrth 2018

 

Mae rhaglen fentora Cyswllt Ffermio wedi bod ar waith ers dwy flynedd bellach ac mae dros 100 o ffermwyr a choedwigwyr eisoes wedi defnyddio’r gwasanaeth, gyda chyfanswm o 750 awr o gefnogaeth o ffermwr i ffermwr. Er mwyn ymateb i alw cynyddol, rydym yn chwilio am ffermwyr sydd â phrofiad o arallgyfeirio, olyniaeth ac iechyd a diogelwch yn benodol.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar 15 mlynedd o brofiad o redeg busnes ffermio yng Nghymru yghyd â’r sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol i weithredu fel mentoriaid un i un, gan gefnogi cyd-ffermwyr trwy holi cwestiynau ystyrlon a chynnig clust i wrando er mwyn arwain y busnes a datblygiad personol yn eu blaen. 

Unwaith byddant wedi eu recriwtio, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am fentora ystod eang o unigolion, yn amrywio o newydd ddyfodiaid i ffermwyr profiadol sy’n ystyried newid cyfeiriad yn sylweddol megis arallgyfeirio, ychwanegu gwerth, ehangu a mentrau newydd.

Mae nifer gynyddol o ffermwyr yn ymchwilio i gyfleoedd arallgyfeirio i sefydlu ffrydiau incwm newydd. Yn hanesyddol, mae mentrau newydd wedi ymwneud â darparu llety, twristiaeth ac ychwanegu gwerth at gynnyrch bwyd, sy’n parhau i fod yn opsiynau proffidiol i nifer, ond mae diddordeb cynyddol mewn sectorau gwahanol megis da byw amgen (gan gynnwys ceirw, geifr godro/cig, defaid godro), garddwriaeth a chadw gwenyn. Anogir ffermwyr sydd wedi arallgyfeirio i sectorau traddodiadol neu newydd, sy’n fodlon rhannu eu profiadau i gefnogi eraill, i ymgeisio i fod yn fentor Cyswllt Ffermio.

Mae olyniaeth yn thema arall sy’n arwain nifer gynyddol o deuluoedd ffermio i holi am gefnogaeth. Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am ffermwyr sydd wedi bod drwy’r broses olyniaeth ac a fyddai’n fodlon cefnogi ffermwyr eraill wrth iddynt edrych ar y dasg honno ar eu ffermydd eu hunain.

Rydym yn gobeithio penodi mentoriaid gydag arbenigedd mewn iechyd a diogelwch ar y fferm. Bydd y mentoriaid hyn yn gallu darparu arweiniad i ffermwyr eraill ynglŷn â mabwysiadu arferion ffermio mwy diogel, a rhannu eu profiadau o asesu risgiau ar y fferm. Bydd mentora iechyd a diogelwch ar y fferm yn cael ei gynnig fel rhan o becyn o wasanaethau sydd ar gael trwy Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru. Anogir ffermwyr sydd â phrofiad o sicrhau lefelau iechyd a diogelwch uchel ar y fferm i ymgeisio.

Dywed Einir Davies, Rheolwr Datblygu a Mentora gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, mai nod y rhaglen fentora yw cynnig gwasanaeth cyfrinachol sy’n manteisio ar wybodaeth helaeth ffermwyr Cymru a rhannu’r wybodaeth honno i alluogi ffermwyr eraill i elwa o’u profiad. 

“Bydd pob ymgeisydd yn mynd drwy broses recriwtio manwl er mwyn sicrhau fod y bobl iawn yn llenwi'r rôl a bod gennym gronfa digon amrywiol o brofiad a sgiliau i baru mentoriaid a mhentai yn y modd mwyaf effeithiol.

“Bydd angen i chi fod yn wrandäwr da, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu gwych, yn gallu holi cwestiynau ystyrlon, a bod yn  barod i gynnig cyngor ac adborth onest ac adeiladol.  

“Mae mentora yn gofyn am arddull gwahanol iawn i ymgynghori, ac mae angen i fentor effeithiol feddu ar nifer o sgiliau arbenigol er mwyn meithrin perthynas lwyddiannus. Bydd angen i’r rhai sy’n derbyn y gwasanaeth allu lleisio eu pryderon o'u gwirfodd a deall yn yr un modd y gallant ddisgwyl derbyn safbwynt diduedd, annibynnol a deallus. 

“Bydd nifer o fentoriaid yn gallu rhannu eu profiadau personol, gan fod clywed am lwyddiannau neu anawsterau a wynebir gan eraill yn aml yn cynorthwyo pobl i weld safbwynt newydd ynglŷn â’u dewisiadau eu hunain,” ychwanegodd Ms Davies.

Yn ogystal â chynnig clust i wrando ar syniadau, bydd mentoriaid yn hwyluso'r broses o wneud penderfyniadau trwy awgrymu dewisiadau eraill a allai fod yn seiliedig ar eu profiadau personol neu ddealltwriaeth ehangach o'r diwydiant.

Gallant hefyd gyfeirio mentai at gysylltiadau a rhwydweithiau eraill ar gyfer cyfleoedd datblygiad busnes a phersonol a trwy’r rhaglen Cyswllt Ffermio ehangach a thu hwnt. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio ar gyfer rôl fel mentor Cyswllt Ffermio, mae manyleb swydd a ffurflen gais ar gael ar yma. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Dydd Gwener, 27 Ebrill am 12.00. Fel arall, cysylltwch ag Einir Davies, rheolwr y rhaglen fentora, ar 01970 636297 neu e-bostiwch: einir.davies@menterabusnes.co.uk  

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint