21 Awst 2018

 

Dyna oedd y prif neges mewn digwyddiad agored yn ddiweddar ar fferm arddangos Cyswllt Ffermio, Cae Haidd.

“Trefnwyd y cyfarfod hwn i ymateb i’r haf sych yr ydym wedi ei gael,” esboniodd Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio, Gethin Prys Davies. “Yn ystod y ddau fis diwethaf, mae ffermwyr diri wedi dweud wrthyf eu bod yn brin o silwair hyd yn hyn a bod cnydau allweddol fel swêj ddim yn tyfu’n llwyddiannus. Y prif amcan yma heddiw oedd mynd trwy’r dewisiadau cnydau sydd ar gael o hyd iddyn nhw'r haf yma er mwyn lleihau eu dibyniaeth ar borthiant wedi ei brynu i mewn y gaeaf yma.”

Roedd gan y ffermwyr a aeth i fferm Cae Haidd, menter bîff a defaid yn Nebo, Llanrwst, Conwy, un peth yn gyffredin – dim digon o stoc o borthiant at y gaeaf. Mae Paul Williams a’i deulu yn ffermio tiroedd heriol ar y gorau, ond mae’r flwyddyn yma wedi bod yn anos fyth.

“Ar ôl gaeaf gwlyb iawn ac oer wedyn, rydym rŵan yn wynebu her un o’r cyfnodau sychaf y gallaf eu cofio,” esboniodd Paul Williams, 45 oed, sy’n ffermio mewn partneriaeth gyda’i wraig Dwynwen.

“Roedd hi’n braf iawn dod â’r arbenigwyr i’r caeau, dysgu oddi wrthynt ac agor y fferm i eraill i rannu eu profiad. Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o ffermydd, nid oedd gennym borthiant ar ôl y gaeaf diwethaf, a gan fod y cnwd silwair yn ysgafnach nag arfer eleni mae’n rhaid i ni weithredu rhyw fath o gynlluniau wrth gefn.”  

Yr arbenigwyr a ymwelodd ar y diwrnod oedd Rhys Owen, Agronomegwr hefo ProCam ac Osian Rhys Jones, Cynghorydd Cymru i Oliver Seeds.

Yn yr un modd â llawer o ffermwyr yng Nghymru, mae Paul yn tyfu swêj fel rhan o’i gytundeb Glastir yn flynyddol, sy’n cael eu pori gan y mamogiaid cyfeb yn Ionawr a Chwefror yn ogystal a cynnig cnwd i dorri’r cylch cyn ail-hadu. Gyda chynnyrch disgwyliedig o ~8000kgDM/ha mewn blwyddyn arferol, mae’n debyg y bydd y cnwd eleni yn 50% o hynny ar y gorau. Gyda gwerth porthiannol o 12-13ME a 10-11% CP, mae’n borthiant drud i’w ddisodli gan ddwysfwyd wedi ei brynu i mewn.

Esboniodd Osian Jones “Os ydych chi’n chwilio am gnwd porthiant gwahanol i Swêj i’w borthi yn ystod Ionawr a Chwefror y flwyddyn nesaf, dim ond un dewis sydd gennych mewn gwirionedd, a hynny yw Meipen Sofl galed at y gaeaf. Gellir hau maip sofl hyd ddiwedd Awst, ond hwyraf yn y byd y byddwch chi’n ei gadael hi, lleiaf yn y byd o gynnyrch gewch chi.”

“Gyda chynnyrch disgwyliedig rhwng 4500-5000kgDM/ha pan gânt eu hau ym Mehefin/ Gorffenaf, dim ond tua 60% o botensial y cnwd gewch chi o’r rhai sy’n cael eu hau yn Awst, sy’n cyfateb i oddeutu~3000kgDM/ha. Ond gyda gwerth porthiannol nodweddiadol o 10-11ME a 17 – 18% CP hefyd, mae’n ffynhonnell porthiant o safon uchel” yn ôl Rhys Owen.

Ar gyfer ymestyn y tymor pori at ddiwedd y flwyddyn, mae rhai dewisiadau eraill ar gael i ffermwyr defaid a bîff. O ran y dyddiau nes gellir eu pori, maip sofl a phori sy’n cynnig y cyfnod byrraf, gyda rhai mathau yn barod i’w pori ar ôl 60 diwrnod.

Rêp porthiant neu Hybrid Rêp/Cêl yw’r ddau brif ddewis arall, y ddau â chyfnod tebyg nes byddant yn barod i’w pori o 80 – 110 o ddyddiau. Mae mathau unigol yn amrywio, ond yn nodweddiadol bydd gan Rêp porthiant gynnyrch o ~4000kgDM/ha, gyda chynnwys protein uchel o 19 – 20%CP, ac ME o 10-11. Mae gan hybrid rêp/cêl hefyd werth porthiannol tebyg gyda chynnwys CP ychydig yn is ar 18-19%, ond maent yn cynnig mwy o gynnyrch ar hyd at 6000kgDM/ha. Mae gan y ddau werth D uchel iawn ar 80%, gyda’r %DM o’r hybrid yn nodweddiadol 3% yn uwch ar 12-15% mewn cymhariaeth â rêp porthiant ar 10-12% DM.

“Dewis arall yw hau rhywogaeth laswellt gryf dan y cnydau hyn,” esboniodd Rhys, “yna bydd gennych hwb i’ch porthiant ar gyfer yr hydref hwn, a thyfiant yn gynnar yn y gwanwyn i droi allan iddo, ond bydd hyn yn lleihau cynnyrch y brassica ei hun yn anochel.”  

Roedd y ddau arbenigwr yn awyddus i bwysleisio pwysigrwydd dyrannu’r stoc yn gywir a rheoli pori i wneud y defnydd gorau o’r porthiant. “Gallwch gael gwahaniaeth anferth rhwng cynnyrch y cnwd a’r hyn sy’n cael ei fwyta gan y da byw mewn gwirionedd. Mae defnyddio 100% yn amhosib, ond trwy ddefnyddio ffensys trydan a’u symud yn gyson, gellir defnyddio 80%.”

Petai’r tywydd sych yn parhau tu hwnt i fis Awst, dewis ‘hwyrach’ arall a drafodwyd yn y digwyddiad oedd ail hadu gyda chnwd glaswellt tymor byr y gellid ei ddefnyddio mewn un o ddwy ffordd. Gellid cael toriad silwair sylweddol mewn 6 - 8 wythnos, neu gellid ei bori mewn stribedi ar y cae. Gan ddibynnu ar eich fferm, gall y glaswelltau yma gael eu hau mor hwyr â chanol Medi.  “Cyn belled â bod gan eich caeau’r pH a mynegeion P a K cywir, bydd rhygwellt Eidalaidd neu Hybrid sy’n tyfu’n gyflym yn cynhyrchu cnwd rhagorol o silwair mewn cyfnod byr iawn, a bydd yn tyfu ar dymheredd is na rhygwellt parhaol yn hwyr yn yr hydref ac yn gynnar yn y gwanwyn sydd yn arwain at dymor pori estynedig.” Ychwanegodd Osian.

Dywedodd Gethin Davies: “Mae pob fferm yn wahanol, ond gobeithio ein bod wedi trafod dewis posibl ar gyfer y rhan fwyaf o systemau ffermio heddiw. Gyda chost brassicas wedi eu tyfu gartref i’w pori tua 4 – 6c/kg/DM maent yn sicr yn ddewis atyniadol eleni.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o