8 Mawrth 2022

 

Cafodd adenocarsinoma ysgyfeiniol y ddafad (OPA) ei ganfod yn y ddiadell yn Court Farm, Llanddewi Nant Honddu, ger y Fenni, yn 2021, ar ôl i nifer o’r mamogiaid ddangos arwyddion clinigol; roeddynt yn denau, yn anadlu’n ddwfn ac roedd llawer o grawn yn dod o’u trwynau. Roedd cyfradd sganio beichiogrwydd y ddiadell wedi gostwng 30% hefyd, o 170% i 140%.

Ar ôl cynnal post-mortem ar un o’r anifeiliaid, gwelwyd arwyddion helaeth o ddifrod OPA: hwn oedd y tro cyntaf i’r afiechyd gael ei ddiagnosio yn y ddiadell.

Dechreuodd Bryony Gittins, sy’n ffermio mewn partneriaeth gyda’i thad, Colin Passmore, ar brosiect safle ffocws Cyswllt Ffermio, gan ddefnyddio dulliau sganio uwchsain thorasig i ganfod nifer yr achosion o OPA yn y ddiadell, a lleihau’r perygl y byddai’r afiechyd yn cael ei ailgyflwyno ar ôl difa’r mamogiaid yr effeithiwyd arnynt.

Ym mis Chwefror 2021, gwnaeth sganiau uwchsain o’r holl famogiaid dros ddwy oed ganfod cyfradd achosion o 3.7% ymhlith y 545 o anifeiliaid. Y mis Awst canlynol, sganiwyd 457 o’r mamogiaid ac roedd cyfradd yr achosion wedi codi i 11.6%.

Mae Mrs Gittins wedi mabwysiadu polisi sganio a difa: mae unrhyw anifeiliaid sy’n profi’n bositif yn cael eu difa neu, os ydynt yn feichiog, maent yn cael eu marcio, a’u cadw ar wahân i’r brif ddiadell, gyda’u hŵyn, a’u gwerthu gyda’r ŵyn cyn gynted ag y byddant wedi cyrraedd pwysau lladd o 41-45kg.

Mae sganio yn gost barhaus (tua £2 y famog), ond mae’n rhywbeth y mae’n rhaid ei wneud, yn ôl Mrs Gittins. Cymerwyd camau hefyd i wella bioddiogelwch y ddiadell – gan gynnwys buddsoddi mewn gwelliannau i ffensys sy’n amgylchynu’r fferm i atal cyswllt ‘trwyn yn drwyn’ rhwng ei defaid hi a’r rheini sy’n pori ar dir cyfagos.

Bydd y mamogiaid beichiog hefyd yn pori ar y glaswellt am fis yn hwyrach na’r arfer, tan ddiwedd mis Ionawr, gan fod yr afiechyd yn fwy tebygol o ledaenu pan gedwir anifeiliaid dan do. Mae cadw anifeiliaid dan do hefyd yn cynyddu’r perygl y bydd mamogiaid sydd ag OPA yn dioddef o salwch eilaidd fel niwmonia, oherwydd y straen o newid o ddeiet sy’n seiliedig ar laswellt yn yr awyr agored i gael eu cadw dan do, a bwyta silwair. 

“Pan fydd y defaid yn yr awyr agored, mae ganddyn nhw lawer mwy o le, a dydyn nhw ddim yn rhannu tanc dŵr gan eu bod yn gallu yfed o nant,’’ esbonia Mrs Gittins.

Roedd hi wedi bod yn rhoi bolws elfennau hybrin i’r ddiadell unwaith y flwyddyn ac yn cynnig mwynau ar ffurf powdr iddynt, ond maent bellach yn cael bolws ddwywaith y flwyddyn i atal unrhyw berygl o ledaenu OPA drwy fwydo mwynau.

Mae cyflwr y corff yn cael ei sgorio’n amlach hefyd, ac mae defaid tenau yn cael eu difa – oherwydd hyd yn oed heb ddiagnosis o OPA, bydd dafad denau yn llai cynhyrchiol, esbonia Mrs Gittins.

Cam nesaf Mrs Gittins yw buddsoddi mewn meddalwedd i gofnodi’r ŵyn sy’n cael eu geni i famogiaid ag OPA, oherwydd bydd yr afiechyd yn cael ei drosglwyddo i’r ŵyn gan eu bod mor agos at y famog. Ni fydd yr ŵyn hynny yn cael eu cadw fel stoc cyfnewid, yn hytrach byddant yn cael eu gwerthu ar ôl eu pesgi neu fel ŵyn stôr.

“Dydy’r ŵyn ddim yn dangos arwyddion clinigol o OPA nes eu bod yn ddwy oed neu’n hŷn, a dydyn nhw ddim yn ei drosglwyddo, felly does dim problem o ran eu gwerthu fel ŵyn stôr,’’ dywed Mrs Gittins.

Mae hi’n gobeithio cyrraedd sefyllfa lle bydd y gyfradd heintio yn sefydlog ac ailadeiladu niferoedd ar ôl yr ergyd ariannol gychwynnol. Un dewis arall yw difa’r ddiadell gyfan ac ailstocio gan ddefnyddio anifeiliaid ‘glân’, ond yn ôl Mrs Gittins, does dim sicrwydd na fyddai’r rhain yn cael eu heintio gan OPA neu unrhyw afiechydon eraill.

Gallai OPA fod yn bresennol mewn sawl diadell heb yn wybod i’r perchnogion – felly gallai graddfa’r broblem OPA yn niadelloedd defaid y Deyrnas Unedig fod yn llawer mwy na’r hyn sy’n cael ei adrodd.

“Mae’n debygol bod llawer mwy o ddiadelloedd ag achosion o’r afiechyd o dan yr wyneb ond nad yw’r ffermwyr yn gwybod amdanyn nhw, oherwydd heb edrych am yr arwyddion hyn a monitro’r stoc yn ofalus, does gennych ddim syniad eu bod yno,’’ meddai Mrs Gittins.

Byddai’r busnes hefyd yn wynebu ergyd ariannol trwy orfod difa’r ddiadell gyfan - gwerth difa pob mamog yw £90, felly byddai gwerthu 550 o anifeiliaid yn codi £49,500, o’i gymharu â chost o £93,500 am brynu stoc newydd am £170 y pen. Fodd bynnag, byddai’n bosibl adennill rhywfaint o’r golled o £44,000; mae Mrs Gittins yn cyfrifo y byddai cynyddu’r gyfradd sganio o 145% i 170% yn cynhyrchu 138 o ŵyn ychwanegol, ac yn cynhyrchu incwm o tua £9,660 y flwyddyn.

Trwy gadw’r ddiadell, mae’n rhaid ystyried y gost flynyddol o sganio’r ysgyfaint, a chyfradd difa uwch, sy’n gostwng gwerth y defaid. Fodd bynnag, mae Mrs Gittins yn amharod i fentro prynu i mewn os na all fod yn gwbl sicr na fydd yn wynebu sefyllfa debyg gyda diadell newydd.

Mae ailstocio yn ddewis arall ar gyfer y dyfodol, fodd bynnag: “Byddaf yn dal i gadw hyn yng nghefn fy meddwl, os bydd diadell yn dod ar gael lle gallwn i gael brîd tebyg o un fferm, efallai y gwnaf ystyried mynd amdani.’’

Mae gweithio gyda Cyswllt Ffermio ar y prosiect hwn wedi bod yn gyfle gwerthfawr iawn, dywedodd:

“Mae wedi rhoi cyfle i mi ddysgu mwy a chael gwybodaeth er mwyn gwneud penderfyniadau am ddyfodol y ddiadell yn Court Farm.’’

 

Mae OPA yn haint firol sy’n achosi tiwmorau yn yr ysgyfaint.

Yn ôl Vicky Fisher o gwmni Milfeddygon Farm First Vets yn y Fenni, sydd wedi gweithio gyda Mrs Gittins ar y prosiect Cyswllt Ffermio, mae’r afiechyd yn cael ei ledaenu drwy grawn o’r trwyn:

“Yr arwyddion clinigol, os byddwch yn sylwi arnynt, yw colli pwysau ac arwyddion resbiradol cyffredinol, fel pesychu ac anadlu’n ddwfn pan fyddant yn ceisio anadlu – efallai y byddwch yn gweld y stumog yn symud wrth anadlu.

“Gan fod y feirws hwn yn achosi tiwmorau yn y celloedd sy’n cynhyrchu’r hylif yn yr ysgyfaint, yna mewn tua hanner yr achosion byddwch yn gweld llawer iawn o hylif yn dod allan o’r trwyn neu’r geg.’’

Y crawn o’r trwyn sy’n cario’r feirws ac yn heintio gweddill y ddiadell. Mae’r afiechyd yn fwy amlwg mewn anifeiliaid hŷn, ond maent yn ei ddal pan maent yn llawer iau – ond mae’r symptomau yn cymryd peth amser i ddod yn amlwg. Mae’n afiechyd terfynol, a does dim triniaeth ar ei gyfer. Mae anifeiliaid sydd wedi’u heintio naill ai’n marw o’r tiwmorau, neu oherwydd difrod i’r ysgyfaint sy’n arwain at haint bacteriaidd, sy’n achosi septicaemia ac yn lladd yr anifail. 

Yn ôl Ms Fisher, gall fod yn anodd rheoli’r afiechyd:
“Yn anffodus, mae profion yn eithaf cyfyngedig, felly ar hyn o bryd gallwn sganio rhan o’r ysgyfaint ar y ddwy ochr yn unig – lle byddwn fel arfer yn dod o hyd i diwmorau.’’

Mae profion newydd yn cael eu datblygu yn y Deyrnas Unedig ond nid yw’r rhain ar gael yn fasnachol hyd yma. 

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o