3 Rhagfyr 2020

 

Gall sicrhau cynnydd o bum awr o amser gorffwys ym mhob cyfnod 24 awr gynorthwyo buchod i barhau’n rhan o’r fuches am ddau gyfnod llaetha ychwanegol.

Yn ôl Joep Driessen, milfeddyg o’r Iseldiroedd sydd hefyd yn arbenigwr ar ymddygiad buchod, nid yw’r fuwch odro fodern yn cael digon o amser i orffwys, ac mae hynny’n cwtogi ei hoes gynhyrchiol.

Yn ystod gweminar diweddar gan Cyswllt Ffermio, dywedodd wrth ffermwyr na all buchod gael mwy na naw awr o amser gorffwys ar ffermydd ble bydd y cyfnod godro yn para pedair neu bum awr. 

“Os gallwch chi gynyddu’r amser gorffwys hwnnw i 12 awr y fuwch, fe wnaiff buchod gynhyrchu llaeth am un cyfnod llaetha ychwanegol, neu os gallwch chi gynyddu hynny i 14 awr, gellir sicrhau dau gyfnod llaetha ychwanegol,’’ meddai Mr Driessen, o gwmni CowSignals®.

Cynghorodd fod cyfnod godro sy’n para hyd at ddwy awr yn ddelfrydol.

“Mae’n annerbyniol caniatáu i fuchod sefyll ar goncrid am fwy na dwy awr – mae hyd yn oed tair awr yn un awr yn ormod,” meddai Mr Driessen.

I gyflawni hyn, mae’n awgrymu y dylid godro buchod mewn grwpiau.

Yn Ewrop, collir 20% o fuchod yn ystod eu cyfnod llaetha cyntaf, ond bydd angen cynhyrchu llaeth am gyfnod o 18 mis ar gyfartaledd cyn y gellir adfer costau magu heffer.

Yn ystod y weminar ryngweithiol, fe wnaeth Mr Driessen annog ffermwyr i fod yn ymwybodol o’r arwyddion corfforol allweddol, yn cynnwys rwmenau gwag – bydd pant ar ochr dde buwch yn dangos fod ei rwmen yn wag. “Mae angen i ffermwyr sicrhau fod rwmenau eu buchod yn llawn; ni ddylent fyth fod yn wag,” meddai. 

Gall ymwybyddiaeth o’r arwyddion hyn a diwallu anghenion hanfodol buwch, sef bwyd, dŵr, goleuni, gorffwys a lle, gynyddu cyfanswm y llaeth a gynhyrchir a lleihau costau.

Mae gwelyau meddal a chyfforddus yn bwysig os cedwir buchod dan do. Mae anafiadau ar gymalau’r egwyd yn ddangosyddion da i awgrymu pa mor gyfforddus yw’r ciwbiclau a pha mor grafog yw’r deunydd gorwedd.

Os bydd llai nag 85% o fuchod mewn ciwbiclau yn gorwedd ar unrhyw adeg, dylai ffermwyr ganfod beth yw’r rheswm dros hynny ac unioni’r achosion. 

Yn aml iawn, bydd newidiadau bychan yn ddigon, meddai Mr Driessen.

Mae’n argymell y dylai ffermwyr llaeth bennu nod misol i wella un agwedd ar reoli’r fuwch, y porthiant neu’r adeiladau.

“Gallai hynny olygu gwthio’r porthiant i fyny’n amlach fel bydd ar gael bob amser i fuchod, agor drysau i gael mwy o awyr iach neu sicrhau mwy o le i borthi i bob un ohonynt,” meddai.

I sicrhau’r cymeriant gorau posibl, dylid caniatáu 75cm o le porthi ar gyfer pob buwch.

“Yn aml iawn, ni fydd porthiant ar gael ar hyd rhannau o’r llwybr porthiant o fewn awr neu ddwy ar ôl rhoi’r porthiant yno,” meddai Mr Driessen. “Gwasgarwch y porthiant ar hyd y llwybr cyfan, ac fe wnaiff buchod roi mwy o laeth i chi.”

Os na wnaethoch chi ymuno â’r digwyddiad hwn, bydd y recordiad ar gael yn fuan ar wefan Cyswllt Ffermio am gyfnod byr.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Pam y dylai pob fferm yng Nghymru osod nod i gynyddu carbon organig pridd
30 Mai 2024 Bydd lleihau amharu ar y pridd, tyfu cnydau gorchudd
Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio yn dychwelyd – ac eleni mae ar daith!
29 Mai 2024 Mae merched sy’n gweithio ym myd amaeth ledled Cymru
Mentora yn helpu fferm i newid o gynhyrchu da byw i dyfu grawnwin
28 Mai 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites