Mae cynnal iechyd y fuches a lleihau afiechydon heintus yn ffactorau pwysig o ran gwella effeithlonrwydd ac o bosib i gynyddu proffidioldeb buchesi sugno.

Mae clefydau heintus yn effeithio ar ffrwythlondeb teirw a gwartheg, perfformiad lloeau a chynnydd pwysau byw (DLWG), sy'n rhai o'r ffactorau allweddol ar gyfer creu buches effeithlon a phroffidiol. Maent hefyd yn cael effaith economaidd sylweddol, gyda £15 biliwn yn cael ei golli yn diwydiant yn dros y ddegawd ddiwethaf o ganlyniad i glefydau.

“Gallwch greu cymaint o botensial ag y mynnwch o fewn buches, ond os bydd clefydau heintus yn  dod i'r amlwg, gall ddadwneud yr holl waith a dinistrio effeithlonrwydd," meddai'r milfeddyg, Sara Pedersen, sy’n arbenigo mewn iechyd a chynhyrchu gwartheg, a fu’n siarad yn ystod digwyddiad Cyswllt Ffermio diweddar. “Os oes gennych anifeiliaid iach a bod eu lles yn cael ei beryglu, ni fyddant yn perfformio cystal ag y dylent. Mae gwartheg a theirw iach yn bridio lloeau iach.”

Canolbwyntiodd Sara ar bedwar o’r prif glefydau sy’n gallu effeithio ar effeithlonrwydd gwartheg; Dolur Rhydd Buchol Heintus (BVD), Leptosbirosis, Rhinotracheitis Buchol Heintus (IBR) a chlefyd Johne’s. Gall y clefydau yma effeithio ar ffrwythlondeb gwartheg a theirw a chael effaith sylweddol ar iechyd a pherfformiad lloeau. Awgrymodd Sara y gallai buchesi sydd â chyfradd hesb o 5% neu fwy ynghyd â lleihad mewn DLWG mewn lloeau fod â phroblem iechyd cudd. Anogodd ffermwyr i brofi i ganfod statws clefydau eu buchesi, i waredu unrhyw heintiau a ganfyddir ac i geisio cadw clefydau ymaith trwy frechu a gwella bioddiogelwch.

“Os nad ydych yn ymwybodol o’r hyn sydd gennych, mae’n rhaid i chi ddarganfod er mwyn gallu gwneud rhywbeth amdano,” ychwanegodd. “Mae bioddiogelwch yn ymwneud â lleihau risg. Gallai treulio ychydig oriau ar gynllunio ar gyfer clefydau ac edrych ar fioddiogelwch fod y ffordd fwyaf cost effeithiol ar gyfer eich busnes."

Ynghyd â chlefydau heintus, mae parasitiaid megis llyngyr a llyngyr yr iau ynu n o’r prif ffactorau sy’n effeithio ar gynnydd pwysau byw, tra bod diffyg elfennau hybrin a mwynau hefyd yn gallu effeithio ar ffrwythlondeb. Mae ffactorau eraill sy’n effeithio ar effeithlonrwydd yn cynnwys gwasgariad y cyfnod lloea, gyda buchesi mwy effeithlon yn cynnal patrwm lleoa mewn bloc mwy tynn. Gall clefydau fod yn un o’r dylanwadau mwyaf ar wasgariad y tymor lloea, ynghyd â theirw sydd â lefel ffrwythlondeb isel yn golygu bod gwartheg yn cymryd hirach i feichiogi eto neu'n methu â chenhedlu'n gyfan gwbl. Ffactor allweddol arall ar gyfer effeithlonrwydd yw maint y fuwch.

“Os ydych yn cynnal buches gyda bridiau cymysg, gall symud tuag at gadw gwartheg llai ei gwneud yn fwy effeithlon gan eich bod yn gallu cadw mwy o wartheg ac maent yn bwyta llai. O’i gymharu â buwch 500kg, mae buwch 700kg angen 25% yn fwy o egni ar gyfer cynhaliaeth yn unig. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu £50 y fuwch bob blwyddyn."

Yn seiliedig ar ddiddyfnu’n 240 diwrnod, cafodd y cysylltiad rhwng pwysau’r fuwch a’r cynnydd pwysau byw dyddiol sy'n angenrheidiol ar gyfer cyrraedd y pwysau diddyfnu gorau posib o hanner pwysau'r fuwch (50kg o lo am 100kg o fuwch) hefyd ei amlygu.

 

Pwysau’r fuwch

Cynnydd pwysau byw (DLWG) y llo

500kg

1.03kg

600kg

1.28kg

700kg

1.53kg

800kg

1.78kg

900kg

2.03kg

 

“Gall gwartheg llai o faint fod yn broffidiol o ran cynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) gan fod angen DLWG cynyddol ar y lloeau wrth i’r gwartheg fynd yn fwy er mwyn cyflawni ein targed o 50% o bwysau’r fuwch wrth ddiddyfnu ac mae costau ynghlwm â hynny. Cadwch fuwch lai o faint a chadw mwy ohonynt gan y bydd gennych wedyn fwy o loeau a lloeau sy’n arwain elw,” meddai Sara.

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau’n ymwneud â chynnal effeithlonrwydd yn y fuches sugno:

  • Dydd Llun, 12fed Rhagfyr 2016 7.30yh-9.30yh Afon Veterinary Centre, Llettynedd Penydre, Castell Nedd, SA11 3HH
  • Dydd Mawrth 13eg Rhagfyr 2016 12.30yp-3.30yp Fferm Lan, Cynwyl Elfed, Sir Gâr SA33 6SP
  • Dydd Mawrth, 13eg Rhagfyr 2016 7.30yh-9.30yh Gwesty Maesmawr Hall, Caersws, SY17 5SF
  • Dydd Mercher 14eg Rhagfyr 2016 7.30yh-9.30yh Ruthin Farmers Auction Co Ltd, Marchnad Da Byw Dyffryn Clwyd, Parc Glasdir, Rhuthun, LL15 1PB

Croeso i bawb. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad ar Fferm Lan, neu i archebu lle, cysylltwch â Menna Williams ar 01970 631405 neu 07399 600146 neu menna.williams@menterabusnes.co.uk

Am fanylion ynglŷn â'r digwyddiadau eraill, cysylltwch â Carys Thomas ar 019709 631402 carys.thomas@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu