26 Chwefror 2021

 

Mae modd osgoi’r rhan fwyaf o farwolaethau ŵyn bach mewn diadellau Cymreig os caiff mamogiaid eu bwydo’n iawn cyn ŵyna, yn enwedig yn y tair wythnos olaf gan fod hyn yn cael dylanwad mawr ar swmp a sylwedd y colostrwm.

Mae’r rhan fwyaf o’r colledion yn digwydd yn ystod y 48 awr cyntaf ar ôl geni gyda’r ffactorau risg yn amrywio o bwysau geni isel a genedigaethau anodd i hylendid gwael a faint o ŵyn mae’r famog yn ei gael.

Mae rhai yn digwydd oherwydd penderfyniadau a wneir a chamau a gymerir yn yr wythnosau cyn geni’r oen, meddai’r milfeddygon Cath Tudor a Miranda Timmerman, o ProStock Vets.

Fe wnaethant roi cyngor i ffermwyr ar sut i gael llai o golledion yn ystod gweithdy rhithiol a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru, Cyswllt Ffermio, Lantra a NADIS.

Os caiff oen ei eni ar ei bwysau gorau, mae ei siawns o fyw yn llawer uwch. I un o efeilliaid i famog tir isel 80kg, mae’r targed hwnnw yn 3.5-4.5kg.

Mae ŵyn bychain yn fwy tebygol o farw - mae maeth y famog yn ystod yr wythnosau cyn ŵyna yn hollbwysig, yn enwedig yn y tair wythnos olaf gan mai hwn yw’r amser hollbwysig i sicrhau bod gan y famog gyflenwad da o laeth a cholostrwm o ansawdd da. 

“Mae maeth yn ystod wythnosau olaf beichiogrwydd yn hollbwysig i bopeth,” meddai Ms Tudor.

“Y peth mwyaf defnyddiol y gall ffermwr defaid ei wneud yw sganio’r mamogiaid a’u bwydo’n unol â faint o ŵyn maent yn eu cario. Profwch y porthiant a darparu’r dognau’n unol â hynny i ddarparu ar gyfer egni, protein, mwynau ac iechyd y rwmen.”

Mae hefyd yn ddefnyddiol llunio proffil metabolig o’r mamogiaid cyn ŵyna – gall ffermwyr sydd wedi’u cofrestru â Cyswllt Ffermio wneud cais am gyllid tuag at dalu’r gost.

Mae oen newydd-anedig angen lefelau digonol o golostrwm. I gael y gorau o’r gwrthgyrff mewn colostrwm, mae angen i ŵyn yfed 50ml am bob kilo o bwysau byw bob tro maent yn sugno.  

Er enghraifft, bydd oen 4kg angen 200ml bob tro mae’n sugno a bydd angen iddo sugno bedair gwaith yn y 24 awr cyntaf ac, yn ddelfrydol, fe ddylai sugno am y tro cyntaf cyn pen dwy awr o’i eni.

“Os yw’r oen yn sugno colostrwm yn y ddwy awr gyntaf, bydd yn cael lefel uchel o wrthgyrff yn ei system – ar ôl chwe awr nid yw mor effeithiol,” eglura Ms Tudor.

Mae’n argymell colostrwm y fam fel y ‘safon aur’ ac, fel ail ddewis, colostrwm wedi’i odro gan famog arall; os nad oes yr un ar gael, colostrwm llaeth buwch yw ei dewis nesaf hi yn hytrach na cholostrwm artiffisial.

Os yw’r oen yn swrth a dan chwe awr oed, ewch ati i’w ddadebru gyda gwres ac yna rhoi colostrwm iddo drwy diwb stumog. 

Os yw’n hŷn na chwe awr, bydd ei lefelau egni yn isel iawn ac mae angen chwistrelliad o glwcos i ddechrau.

“Wrth chwistrellu glwcos, ewch fodfedd i’r ochr o’r bogail a modfedd i lawr,” cynghorodd Ms Timmerman. “Defnyddiwch nodwydd un fodfedd ac ewch i mewn ar ongl o 45 gradd.”

Ar ôl gwneud hynny, ewch ati i’w ddadebru gyda gwres a rhoi colostrwm gyda thiwb.

Y ffordd fwyaf effeithiol o atal clwy’r bogail yw trochi neu chwistrellu bogeiliau’r ŵyn ag ïodin cryf ar ôl eu geni a 2-4 awr wedyn; mae hyn yn sychu ac yn diheintio’r bogail.

Mae genedigaeth anodd yn rheswm arall pam bo ŵyn yn marw. I gael y canlyniad gorau posibl oddi wrth y rhain, mae Ms Tudor yn eich cynghori i “dynnu’n araf a gofalus gan ddefnyddio digonedd o jeli iro”. 

Mae jeli iro nad yw’n antiseptig ac nad yw’n sychu yn werth yr arian, ychwanega. “Mae’n llawer gwell na rhywbeth fel sebon golchi llestri sy’n gyfrwng sychu.”

Mae gwellt yn ddrud ond mae wir werth y gost os ydych yn arbed ŵyn.

“Gyda phrisiau ŵyn yn £110 - £150, mae arbed un oen yn costio’r un faint â thunnell o wellt. Peidiwch â dweud wrthyf fi bod gwellt yn rhy ddrud!” meddai Ms Tudor.

Mae llwythi bacteriol a chlefydau yn is o gadw stoc yn llai dwys, os caiff corlannau eu glanhau rhwng genedigaethau ac os ydych yn ŵyna y tu allan.

Mae glendid yn allweddol i atal clwy’r cymalau. “Cofiwch lanhau a diheintio’r corlannau ŵyna yn drylwyr,” meddai Ms Timmerman.

Mae’n cynghori eich bod yn defnyddio menig i ŵyna a sicrhau bod yr offer tagio a’r cylchoedd ysbaddu yn gwbl lân, mwydwch nhw mewn ïodin cyn eu defnyddio hyd yn oed.

I atal clwy’r bogail, trochwch neu chwistrellwch fogeiliau’r ŵyn ag ïodin cryf, cynnyrch 10% sy’n ddelfrydol, yn syth ar ôl eu geni. Gwnewch hynny eilwaith ar ôl 2-4 awr ac, os nad yw wedi sychu, gwnewch hynny’n ddyddiol.

Mae’n hollbwysig brechu rhag clefydau clostridiol – fe allwch atal dysentri ŵyn, tetanws a chlwy’r aren bwdr i gyd gyda brechiad; mae brechiad ar gyfer y rhain yn costio cyn lleied â £0.70 y famog.

Mae cocsidiosis, sy’n cael ei achosi gan brotosoa sy’n lledaenu mewn carthion, hefyd yn arwain at golli llawer iawn o ŵyn.

I amddiffyn yr ŵyn, mae Ms Timmerman yn eich cynghori i ymdrin ag ŵyn o wahanol oedrannau mewn grwpiau ar wahân a pheidio â’u troi’n sydyn i gaeau heintiedig.

Cadwch y porthiant a’r dŵr yn lân rhag carthion a chadw golwg ar ardaloedd uchel eu risg, fel o amgylch cafnau.

Mae strategaethau ar gyfer atal pob risg a allai arwain at golledion yn rhatach na’r incwm a gollir oherwydd y colledion hynny, meddai Ms Timmerman.

“Mae colostrwm da, brechu, gwellt a maeth yn costio llawer llai na cholli oen ac, os ydych chi’n gwybod eich bod yn gwneud eich gorau i’ch defaid, mae eich agwedd meddwl yn well na phe baech yn gorfod brwydro drwy broblem ar ôl problem adeg ŵyna pan mae’n brysur,” meddai.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o