15 Chwefror 2021
Cychwynnodd Paul a Samantha Barcroft-Jones ar raglen sgrinio ar ôl i nifer o foch oedd yn tyfu ac yn cael eu pesgi farw’n sydyn.
Cafwyd hyd i actinobacillus pleuropneumonia (APP), afiechyd resbiradol heintus iawn sy’n effeithio ar foch 6 i 18 wythnos oed.
Mae’r arwyddion clinigol yn cynnwys anawsterau anadlu, y clustiau’n troi’n las ac, mewn achosion difrifol, marwolaeth sydyn a gwaedlif o’r trwyn.
Wrth ymateb i ganlyniadau’r profion, roedd y moch yn cael eu brechu yn chwe wythnos a naw wythnos oed ond roedd y moch yn ymateb yn ddrwg i’r brechlyn a chynyddodd y gyfradd farwolaeth yn y moch sy’n tyfu o 5%.
Ychwanegwyd penicillin at eu dogn bwyd, gan gynyddu costau porthi o £2 y mochyn ond fe wnaeth hyn ddatrys y broblem APP.
Yn awr mae gan y teulu Barcroft-Jones raglen sgrinio gyson yn ei lle, sy’n cadw eu cenfaint o foch Gwyn Mawr x Landrace mewn adeilad delltog gyda’r tymheredd wedi ei reoli yn Llwyn yr Arth, ger Llanbabo, Ynys Môn.
Maent yn dweud bod hyn yn hanfodol oherwydd bod y marwolaethau eu hunain yn arwain at ostyngiad o 8% yn yr incwm wythnosol am chwe wythnos.
Her arall yr oedd yr uned yn ei hwynebu oedd brathu cynffonau ar ôl i sinc ocsid gael ei dynnu o ddiet y moch fel treial cyn y gwaharddiad arfaethedig yn y Deyrnas Unedig ym Mehefin 2022.
Cyn pen chwe wythnos ar ôl i’r mwyn gael ei dynnu o’r dogn, cynyddodd yr achosion o frathu a chnoi cynffonau yn sylweddol, meddai Mr Barcroft-Jones.
“Roedd y moch yn ysgothi a phroblem eilradd oedd brathu cynffonau - roedd 30% o’r moch o bob criw yn dioddef gyda brathu cynffonau,” meddai.
Cynyddodd y dyddiau hyd eu lladd yn y moch hyn o saith diwrnod a gostyngodd y pwysau lladd ar gyfartaledd o 5kg, i 75kg ar y bachyn.
Arweiniodd hyn at gostau porthi ychwanegol oedd yn cyfateb i £3.50/y mochyn/yr wythnos a cholli incwm o £8 i bob mochyn oherwydd bod y pwysau lladd yn is.
Gan fod y moch ar y fferm yn hirach, roedd y costau amrywiol gan gynnwys trydan a dŵr yn uwch.
Sefydlwyd prosiect safle ffocws Cyswllt Ffermio i ymchwilio i ffyrdd o leihau arferion drwg yn yr uned foch ac i wella dealltwriaeth o iechyd y genfaint.
Trwy sgrinio iechyd y moch gwelwyd mai un o’r rhesymau am y newid yn ymddygiad y moch oedd Brachyspira pilosicoli, afiechyd sy’n golygu bod y perfeddyn mawr yn chwyddo a’r mwcws yn tewychu, gan amharu ar effeithiolrwydd y brechlyn niwmonia ensöotig.
I ymateb i’r diagnosis hwnnw, ailgyflwynwyd sinc fel triniaeth yn nogn fwyd cyfnod cyntaf ar gyfer moch sy’n tyfu, i foch hyd at 18kg.
Ychwanegwyd gwrthfiotigau at y dŵr yfed am bum niwrnod fel triniaeth i’r niwmonia ensöotig EP.
“Roedd hyn yn gostus ond fe weithiodd yn dda fel triniaeth i’r niwmonia,” dywedodd Dafydd Owen, Swyddog Technegol Moch Cyswllt Ffermio, oedd yn rheoli’r prosiect yn Llwyn yr Arth.
Brechwyd y perchyll rhag niwmonia ynghynt, yn saith diwrnod oed yn hytrach nag 14, er mwyn creu imiwnedd ynghynt.
Dywed Mr Owen bod y prosiect wedi amlygu pwysigrwydd cael dealltwriaeth dda o statws iechyd y genfaint. Mae profi cyson yn allweddol, awgrymodd.
“Trwy gynnal asesiad iechyd o’r genfaint mae ffermwyr moch yn gallu deall statws iechyd y genfaint yn llawn ac yna gallant wneud penderfyniadau rheoli synhwyrol” meddai Mr Owen.
“Fe wnaeth y newid mewn brechlyn ac ailgyflwyno sinc achosi gostyngiad sylweddol yn y brathu a defnyddiwyd gwrthfiotigau i drin anafiadau a salwch yn gysylltiedig â’r brathu.”
Ond, atebion tymor byr i’r broblem yw’r rhain, ychwanegodd.
Mae’r prosiect yn dangos bod angen rhagor o ymchwil i ddod o hyd i ategyn wnaiff gymryd lle’r sinc ocsid, meddai Mr Owen.
Yn ystod trydydd chwarter 2020 roedd y defnydd o wrthfiotigau yn y genfaint yn Llwyn yr Arth yn 1.298mg/kg mewn cymhariaeth â’r 63.074mg/kg sy’n gyfartaledd y sector.
Mae’r teulu Barcroft-Jones wedi defnyddio’r asesiad iechyd o’u cenfaint i osod protocolau rheoli i reoli ac atal arferion drwg rhag dod yn broblem yn y dyfodol.
Maent yn canolbwyntio ar lanweithdra ar bob cam wrth gynhyrchu’r moch mewn ymgais i leihau’r cyfraddau heintio a’r defnydd o wrthfiotigau.
System foch Llwyn yr Arth
Mae effeithlonrwydd trosi porthiant yn ddangosydd perfformiad allweddol i’r busnes.
Defnyddir pedwar dogn bwyd i gyrraedd y targed o gynhyrchu 1kg o bwysau byw o 2kg o borthiant.
Mae siediau’r moch, a godwyd yn lle hen siediau ar y fferm yn 2014, yn cynnwys systemau porthi awtomatig a digon o le i storio gwerth pum mis o slyri.
“Roedd yr hen siediau ymhell o fod yn ddelfrydol oherwydd eu bod yn oer i’r moch yn y gaeaf ac yn boeth yn yr haf,” meddai Mr Barcroft-Jones, yr ail genhedlaeth o’i deulu i ffermio’r daliad 200 erw.
Mae’r holl fridio yn cael ei wneud trwy ffrwythloni artiffisial – bydd 28 o hychod yn cael MaxiMus neu Piétrain bob tair wythnos.
Mae ffrwythlondeb da yn un o’r dangosyddion perfformiad sy’n pennu a fydd mochyn yn aros yn y genfaint - y gyfradd gyfebu yw 95%.
Mae gan y teulu Barcroft-Jones gyfradd gyfnewid o 45% neu uwch, gan waredu stoc ar sail gallu i fagu, mastitis, ffrwythlondeb a phroblemau iechyd.
Maent yn hoffi cadw’r genfaint yn ifanc - mae hychod yn cynhyrchu cyfartaledd o 2.4 torllwyth y flwyddyn, gyda 25-26 o foch yn cael eu geni’n fyw, ac maent yn aros yn y genfaint am gyfartaledd o bedwar torllwyth. Bydd y rhai sy’n cyrraedd chwe thorllwyth yn gadael y genfaint wedyn.
Mae’r hychod yn cael eu cadw i mewn ar wellt ac yn geni’r perchyll mewn uned 60 cawell ar system geni perchyll dair wythnos.
Gall brathu cynffonnau, clustiau ac ochrau neu sugno bogail fod yn ddifrifol mewn grwpiau o foch sy’n tyfu, yn arbennig pan fydd yn arwain at heintiadau bacterol eilaidd.
Gall arferion drwg mewn moch wedi eu diddyfnu ac yn tyfu fod yn broblem fawr ar rai ffermydd gyda cholled economaidd sylweddol.
Os oes problem ar y fferm, ystyriwch y tri ffactor mawr sy’n cyfrannu; rheolaeth, maeth ac afiechyd.