23 Ebrill 2021

 

“Ar yr olwg gyntaf, mae’n peri pryder ond, oherwydd bod y profion yn gymharol sensitif a chywir, mae’n golygu ein bod yn gweld ymwrthedd yn y camau cynnar ar nifer o ffermydd,” meddai’r arbenigwr defaid James Hadwin, sy’n darparu’r gwasanaeth ar ran Cyswllt Ffermio.

“Mae’n newyddion gwych i’r ffermwyr hyn oherwydd mae’n golygu, os ydynt yn ofalus ac yn cymryd cyngor, fe allant ddal i reoli llyngyr yn effeithiol.”

Mae’r cynllun, a ariennir drwy gyfrwng Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, yn defnyddio Prawf Lleihau cyfrif wyau ysgarthol y ddiadell (FECRT) i weld a geir ymwrthedd i’r dosys rheoli llyngyr.

Yn 2020, fe wnaeth 49 o ffermydd defaid ddefnyddio’r gwasanaeth, gyda phrofion yn cael eu gwneud rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd.

Cawsant gyllid llawn i dalu am hyn oherwydd i’r busnesau fferm weithio mewn grwpiau o rhwng tri ac wyth - 80% o’r cyllid a geir i ffermwyr sy’n defnyddio gwasanaeth un i un.

Darparwyd y pecynnau samplo gan y cwmni rheoli parasitiaid Techion a gwnaed y profion Cyfrif Wyau Ysgarthol (FECs) ar samplau tail wedi’u cydgasglu – roedd angen darlleniadau o oddeutu 500 o wyau ym mhob gram (EPG) i ddechrau’r broses.

Cymerwyd FECs oddi wrth o leiaf 90 oen na chawsant driniaeth lladd llyngyr ers o leiaf bedair wythnos. 

Ar ôl sefydlu’r llinell sylfaen hon, rhannwyd yr ŵyn yn bedwar grŵp triniaeth gydag 20 ym mhob grŵp.

Cawsant eu dosio dan brotocolau caeth gyda naill ai dos gwyn (benzimidazole), dos melyn (levamisole), dos clir (3ML) neu moxidectin.

Fe wnaeth un o dechnegwyr hyfforddedig Techion gymryd sampl gan bob oen a chafodd hyn ei ailadrodd rhwng 7 ac 14 diwrnod yn ddiweddarach, yn dibynnu ar y math o ddos a ddefnyddiwyd.

Aed â’r samplau i labordy Techion i asesu effeithiolrwydd y grŵp dosys rheoli llyngyr hwnnw. 

Dywed Mr Hadwin, o JH Agri Consultancy (AgriPlan Cymru), fod y canlyniadau’n peri pryder, ond os bydd y ffermwyr yn cymryd camau positif i ddibynnu llai ar ddosys rheoli llyngyr oherwydd eu canlyniadau, yna fe allant reoli llyngyr yn effeithiol.

Ymysg y camau i’w cymryd y mae rhoi mwy o sylw i fanylder wrth reoli’r ddiadell er mwyn lleihau’r baich llyngyr a hefyd, os bydd angen trin y stoc, manylder wrth ddewis y dos. 

“Mae’r canlyniadau yn 2020 wedi dangos bod problem i’w chael ag ymwrthedd llyngyr yn y diwydiant a bod angen inni weithredu’n awr,” meddai Mr Hadwin. 

“Gyda lwc, mae’r prosiect hwn yn helpu ffermydd i ddeall eu sefyllfa ac mae’n annog pobl i ddilyn egwyddorion SCOPS.”

Mae’n gobeithio y bydd yn annog ffermwyr i weithio’n agosach â’u milfeddygon a’u cynghorwyr iechyd anifeiliaid i lunio cynllun iechyd cadarn ar gyfer y ddiadell.

Mae gorddefnyddio dosys rheoli llyngyr yn y gorffennol nid yn unig wedi arwain at fod ymwrthedd yn datblygu ond mae wedi ychwanegu at y costau cynhyrchu, meddai Mr Hadwin.

“Amser a llafur yw’r costau mwyaf ar ffermydd defaid. Os nad oes angen ichi ddosio ŵyn, pam gwneud hynny?”

Pan fo amser yn brin, caiff ŵyn weithiau eu dosio dim ond achos eu bod wedi cael eu hel i mewn ar gyfer tasg reoli arall, meddai.

“Mae yna elfen o ‘os ydy’r defaid i mewn am reswm arall, waeth inni eu dosio nhw hefyd’,” meddai Mr Hadwin.

“Drwy gynllunio ymlaen, a gwneud prawf i gyfri’r wyau cyn eu trin, rydym yn gwybod a ydy’r ŵyn wir angen eu dosio ai peidio. 

Un o brif elfennau’r prosiect Cyswllt Ffermio yw helpu ffermwyr i ganfod ymwrthedd a rhoi strategaethau ar waith i gynnal effeithlonrwydd dosys lle bo modd, a rheoli llyngyr yn well ar yr un pryd. 

Bydd pob fferm sy’n rhan o’r prosiect yn cael adroddiad manwl sy’n cynnwys eu canlyniadau ynghyd â set o argymhellion, a chynllun gweithredu a fydd yn amlinellu’r ffordd ymlaen. Anogir ffermwyr hefyd i weithio gyda’u milfeddyg neu’u cynghorwyr iechyd anifeiliaid.

“Er bod pethau’n gwella, ceir tystiolaeth nad yw rhai ffermwyr yn gweithio’n ddigon agos â’u milfeddyg neu’u cynghorydd iechyd anifeiliaid i ddeall pam eu bod yn defnyddio cynnyrch penodol,” meddai Mr Hadwin.

“Gweithredu fel tîm sydd orau i ddelio â hyn bob tro; mae angen inni ddiogelu’r dosys rheoli llyngyr sydd gennym a diogelu’r grwpiau dosys newydd yn enwedig drwy eu defnyddio’n strategol.” 

Rhoddir cyngor ar sut i reoli’r ddiadell hefyd, i helpu i leihau’r angen am ddosio ond cynnal ei pherfformiad ar yr un pryd. 

“Byddwn yn annog ffermwyr defaid Cymru i fanteisio ar yr help sydd ar gael dan y cyllid hwn i roi sylw i’r hyn sy’n dueddiad pryderus yn y diwydiant a chymryd camau’n awr i leihau’r siawns y bydd ymwrthedd i ddosys yn datblygu ar eu fferm,” meddai Mr Hadwin.

FECRT

Prawf cynhwysfawr i ganfod ymwrthedd anthelmintig yw FECRT. 

Mae’n llawer mwy manwl a chadarn na phrawf cydgasgliedig syml ar ôl eu trin.

Yn hytrach na dim ond dangos effeithiolrwydd y driniaeth, mae’r canlyniadau’n rhoi darlun llawer mwy cywir o’r statws ymwrthedd adeg gwneud y prawf.

Cyllid

Bydd ffermwyr sy’n gweithio mewn grwpiau o rhwng 3 ac 8 o ffermydd yn cael y gwasanaeth hwn am ddim gan fod y gost lawn – sy’n werth dros £1,348.54 o brofion a chyngor – yn cael ei dalu gan Cyswllt Ffermio.

Gall ffermwyr sy’n dewis gweithio’n unigol gael yr un pecyn cyngor os cyfrannant 20% o’r gost. 


I ymgeisio am gyllid, cysylltwch â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol neu â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu