12 Hydref 2018

 

Cychwynnodd Innovis ar raglen bwyso’n aml ym Mynydd Gorddu ger Aberystwyth fel rhan o’i waith fel Safle Arloesedd Cyswllt Ffermio ond mae’r strategaeth wedi bod mor llwyddiannus bydd yn awr yn dod yn rhan o weithdrefn arferol y fferm.

Ers pan oedd yr ŵyn yn wyth wythnos oed mae 1000 ohonynt o’r brif ddiadell wedi cael eu pwyso bob pythefnos.

Mae’r pwysau blaenorol wedi cael ei uwchlwytho i’r system bwyso electronig ac mae’r data hwn yn dangos unrhyw ŵyn nad ydynt yn cyrraedd y cyfraddau twf disgwyliedig, gan roi cyfle i’r bugail weld beth yw’r rheswm am hyn ac i symud yr ŵyn yn ôl hynny.

Cyfrifir wyau ysgarthol ar yr un pryd â’r pwyso. Dim ond os bydd y cyfraddau twf yn is na’r targed y rhoddir triniaeth a bod y cyfrif wyau i’r criw dros 400 o wyau i bob gram.

“Os nad yw’r baich o lyngyr yn drwm gallwn anwybyddu hyn ar unwaith fel y rheswm am y diffyg twf,” dywedodd Dewi Jones, rheolwr gyfarwyddwr Innovis.

“Os byddwn yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen mae’n gadael i ni wneud penderfyniadau ar sut i drin yr ŵyn yn gyffredinol ac mae’n ddangosydd defnyddiol ar gyfer problemau fel pasturella.”

Bydd mesuriadau o dyfiant y glaswellt yn cael eu cymryd bob pythefnos hefyd, ac o’u defnyddio gyda’r data pwyso, rydym yn gallu gwneud penderfyniadau amserol am reoli’r pori.

Dywed Mr Jones bod y pwysedd pori ar gyfer ŵyn sydd ddim yn tyfu yn ôl y disgwyl yn cael ei ostwng trwy eu symud i grwpiau ar wahân i gael porfa well gyda llai o ddwyster cyn y prif griw.

“Pan fydd defaid yn cael eu gwthio yn galed mewn cylchdro ar laswellt nid yw rhai yn ymdopi cystal ag eraill, fe all fod yn un o dripledi o famog ifanc.

“Trwy dynnu’r ŵyn nad ydynt yn tyfu o’r prif griw rydych yn cael gwared o’r pwysedd ac mae’n rhoi cyfle iddyn nhw ddal y lleill.”

Wrth eu pwyso y tro nesaf, os bydd eu tyfiant yn ôl fel y dylai fod, maent yn ymuno â’r grŵp gwreiddiol eto.

Mae cyfartaledd o 20-25 o ŵyn o’r 1,000 yn cael eu tynnu o blith y lleill wrth bwyso bob tro.

Mae pwyso yn gyson, dywedodd Mr Jones, yn cael gwared o’r gwaith dyfalu wrth besgi ŵyn neu gael ŵyn benyw i’r pwysau cywir i fynd at yr hwrdd.

“Bydd rhai ffermwyr yn dweud eu bod yn gallu gweld a yw eu defaid yn tyfu neu beidio, ond fedran nhw?”

Mae pwyso yn aml yn dod yn fwy perthnasol dwysaf yn y byd y bydd y caeau yn cael eu rheoli, mae’n awgrymu.

Ym Mynydd Gorddu, 10 erw yw cyfartaledd maint y caeau ac maent yn cael eu rhannu ymhellach gyda ffensys trydan sy’n cael eu gyrru gan egni’r haul i gyfateb i dyfiant y glaswellt.

“Wrth i bobl symud at bori cylchdro i ganolbwyntio ar laswellt, weithiau maen nhw’n anghofio am yr anifail, maen nhw’n canolbwyntio gormod ar ansawdd y glaswellt.  Nid oes amheuaeth o gwbl, trwy bori cylchdro eich bod yn gallu cadw hyd at 40% yn fwy ond pan fyddwch yn ffermio unedau ar yr ucheldir fel yr ydym ni, ni fydd rhai defaid yn ymdopi cystal ag eraill.

“Pe byddech yn dal ati heb ystyried hynny bydd gennych grŵp o ŵyn fydd yn ei chael hi’n anodd a bydd raid i chi fynd i mewn â phorthiant yn hwyrach yn y flwyddyn, sy’n groes i’r diben cychwynnol.”

Mae pwyso yn aml yn ffordd o ddefnyddio arferion rheoli i ymdrin â hynny, ychwanegodd.

Y nod yw cael ŵyn benyw i bwyso rhwng 38 a 45kg wrth fynd at yr hwrdd, gan ddibynnu ar y brid.

Eleni, oherwydd newid polisi, bydd yr ŵyn hyrddod yn aros ar y fferm am y gaeaf yn hytrach na chael eu hanfon i unedau tyfu felly fydd yr ŵyn benyw ddim yn mynd at yr hwrdd.

Ond dywed Mr Jones mai’r nod o hyd i’w eu cael i gyrraedd y pwysau targed erbyn mis Tachwedd er gwaethaf rhoi blaenoriaeth i’r hyrddod yn y gaeaf.

Oherwydd y tywydd heriol eleni, diddyfnwyd yr ŵyn yn gynnar yn 10 wythnos oed er mwyn i’r defaid gael eu symud o’r caeau cylchdro.

Torrwyd silwair yn gynnar ar y tir trymaf er mwyn i gaeau gwlypach gael eu cynnwys yn y cylchdro.

“Mae’n golygu na chawsom ni ddigon o silwair ond rydym wedi gallu cadw ansawdd y glaswellt i’r ŵyn,” dywedodd Mr Jones.

“Bu’n rhaid i ni roi bwyd ategol i’r mamogiaid am dair wythnos ond nid yw’r ŵyn wedi cael dim.”

Oherwydd yr amodau pori anodd, llwyddodd yr ŵyn i ddangos cynnydd yn eu pwysau dyddiol (dlwg) o 220g hyd yn hyn, mewn cymhariaeth â’r targed o 250g.

Mae’r fferm wedi ei threfnu yn dda gyda system drin defaid dda sy’n golygu y gellir pwyso 1000 o ŵyn mewn dwyawr.

Dim ond ar gyfer ffermydd â’r cyfleusterau trin cywir y mae pwyso aml yn addas, mynnodd Mr Jones.

“Os bydd eich defaid yn sefyllian yn yr iard trwy’r dydd a ddim yn pori, bydd pa bynnag fanteision yr ydych yn gobeithio eu cael yn cael eu colli.

“Hefyd, os bydd raid i chi gael staff ychwanegol oherwydd nad oes gennych y system gywir fyddwch chi ddim yn gweld y fantais chwaith.”

Dywedodd Lisa Roberts, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio yn y Canolbarth, bod pwyso aml yn rhoi mesuriadau gwrthrychol i ffermwyr i wneud penderfyniadau ar eu sail.

“Gall pwyso ŵyn yn gyson ar y cyd â chyfrif wyau ysgarthol yn aml gynyddu’r nifer sy’n cyrraedd y pwysau targed a lleihau’r triniaethau llyngyr oherwydd mae’n gadael i reolwyr diadelloedd ymyrryd o ran rheoli pori a materion iechyd,” meddai.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y