4 Ionawr 2021
Mae milfeddyg wedi cynghori ffermwyr defaid i osgoi bwydo mwy na 0.5kg o ddwysfwyd ar y tro i famogiaid ar ddiwedd beichiogrwydd.
Mae’n well darparu ar gyfer gofynion maeth dyddiol y famog yn nhraean olaf ei beichiogrwydd drwy fwydo ddwy waith, meddai’r milfeddyg Miranda Timmerman o ProStock Vets.
Mae’n well i’r famog na chael ei holl borthiant mewn “un pryd mawr”, meddai wrth ffermwyr a oedd yn cymryd rhan mewn gweminar dan arweiniad ProStock ac a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru, Cyswllt Ffermio, Lantra a NADIS i helpu ffermwyr i osgoi colledion yn y cyfnod ŵyna.
“Ni ddylech ond bwydo hyd at 0.5kg ar y tro neu fe all y famog fynd yn asidotig iawn a bydd hyn yn cael effaith ddifrifol ar ei gallu i brosesu’r porthiant hwnnw.
“Tra bydd y rhan fwyaf o famogiaid yn cael digon o ddwysfwyd mewn dau bryd o 0.5kg, os ydynt yn denau, yna mae’n well rhoi pryd ganol dydd na chynyddu maint y prydau.”
Mae maeth yn bwysig ym mhob cam o feichiogrwydd y famog ond mae’r wyth i chwe wythnos olaf yn gwbl hanfodol.
Os yw’r maeth yn annigonol, ni fydd gan yr ŵyn newydd-anedig lefelau digonol o fraster brown, a byddent felly yn oer ac yn wan.
Y braster brown hwn yw’r unig ffynhonnell egni i’r oen newydd-anedig a bydd yn ei gadw’n fyw ac yn fywiog am rai oriau ar ôl ei eni.
Mewn amodau arferol, mae hyn yn ddigon o amser i ganiatáu i’r oen sychu a dechrau sugno’r colostrwm.
Cynghorodd Ms Timmerman y ffermwyr i fonitro sgôr cyflwr corff (BCS) y mamogiaid yn rheolaidd.
“Dydy mamogiaid tew ddim awydd gwthio ac yn aml iawn bydd yr ŵyn yn marw,” meddai.
Bydd gan famog denau fwy o ddiddordeb yn ei bwyd, na mewn bwydo ei hoen.
Dylai bridiau tir isel fel y Texel a’r Suffolk fod â sgôr BCS o 3.5 adeg ŵyna a bridiau tir uchel 2.5-3.
Bwydwch y mamogiaid cyfeb yn ôl faint o ŵyn maen nhw’n eu cario – bydd sganio yn rhoi’r wybodaeth hon i chi.
Rhoddwch y mamogiaid sy’n cario un oen, gefeilliaid a thripledi mewn grwpiau gwahanol er mwyn gallu rhoi gwahanol faint o fwyd iddynt.
Rhaid i unrhyw ddiffygion yn y lefelau egni a deunydd sych (DM) mae’n nhw’n ei fwyta ac na ddaw o’r porthiant, gael ei ddarparu drwy borthiant atodol.
Gan fod gwerth maethol silwair a gwair yn newidiol, bydd ei ddadansoddi yn dweud wrthych faint o borthiant atodol sydd ei angen.
“Nid yw mamogiaid sych yr un fath â buchod sych, mae arnynt angen porthiant da iawn,” meddai Ms Timmerman.
“Mae eu rwmen yn fach iawn ar hyn o bryd, felly os cânt silwair sydd o ansawdd arferol i wael, ni fyddant yn cael digon o faeth, hyd yn oed os cânt ddwysfwyd.”
Symudwch unrhyw silwair sydd heb ei fwyta a rhoi porthiant ffres yn ei le er mwyn sicrhau eu bod yn bwyta mwy.
Cofiwch roi iddynt y lefelau cywir o fwynau hefyd.
Dywedodd Ms Timmerman mai un o’r dyfeisiau gorau y gall ffermwr fuddsoddi ynddo cyn y cyfnod ŵyna yw mesurydd cetonau; gall y ddyfais hon ddweud wrthych mewn deg eiliad a yw anghenion egni’r famog yn cael eu bodloni.
Mae’n argymell gwneud y prawf ochr y ddafad hwn 2-3 wythnos cyn ŵyna. “Hwn yw’r amser pan fydd mamog yn fwyaf tebygol o beidio â chael digon o egni.”
Mae cyllid ar gael ar hyn o bryd drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio i gael cyngor gan eich milfeddyg ar ofynion egni’r ddiadell cyn ŵyna.
Mae’r galw mawr am egni a roddir ar famogiaid cyfeb tuag at y diwedd yn golygu y gall defaid golli eu cyflwr a dioddef o glwy’r eira.
Bydd galw mawr am glwcos yn gwneud i’r famog fwyta i mewn i’r braster corff sydd ganddi wrth gefn yn gyflym; mae hyn yn cynhyrchu cemegau gwenwynig o’r enw cetonau, ac maent yn cronni’n gyflym yn y gwaed.
Awgryma Ms Timmerman y dylid trin mamogiaid sy’n arddangos symptomau cynnar â drensh egni a chalsiwm.
“Gallwch atal clwy’r eira os welwch chi’r arwyddion clinigol yn ddigon buan; os rhoddwch ddrensh i’r famog bryd hynny bydd wedi gwella mewn tridiau,” meddai.
“Mae mor bwysig adnabod yr arwyddion yn gynnar, oherwydd allwch chi ddim cael mamog yn ôl unwaith mae ganddi ormod o docsinau yn ei hymennydd.”
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.