3 Ebrill 2020
Mae buches sugno bîff Gymreig yn sicrhau allyriadau carbon sy'n 17% yn is na'r lefel gyfartalog.
Mae Paul a Dwynwen Williams yn rheoli buches o 60 o wartheg sugno ac yn pesgi 120 o deirw Holstein y flwyddyn o'r fuches odro mewn ffordd ddwys, ar safle ffocws Cyswllt Ffermio ger Llanrwst, gan besgi epil ar borthiant yn unig.
Mae eu menter buches sugno yn allyrru 33.65kg o kg CO2e (cyfatebol - methan, carbon deuocsid ac ocsid nitraidd)/kg ar y bachyn.
Mae hyn cymharu â chyfartaledd o 40.68kg o CO2e ar gyfer y 600 o fentrau tebyg wedi'u meincnodi yng nghronfa ddata Calc AgRE SRUC (Scotland’s Rural College ).
Cynhaliwyd y gwaith dadansoddi gan ymchwilwyr o SAC Consulting fel rhan o astudiaeth Cyswllt Ffermio, ac mae wedi galluogi’r teulu Williams i nodi meysydd i'w gwella hefyd.
I'r fenter bîff o'r fuches odro, roedd yr allyriadau'n uwch na'r lefel gyfartalog o
12.59 CO2e/kg ar y bachyn ar gyfer y ffermydd meincnod yn y gronfa ddata, ond mae'n parhau i gynhyrchu ôl troed carbon is fesul kg o bîff na'r system buchod sugno bîff.
Roedd wedi allyrru swm a oedd yn cyfateb â 14.48kg CO2e/kg ar y bachyn, wrth i bob anifail fwyta 271kg o borthiant a brynwyd a 4.937t o borthiant a dyfwyd ar y fferm.
Y rheswm pam yr oedd y fenter bîff o'r fuches odro yn uwch oedd oherwydd bod yr holl ffermydd meincnod yn unedau teirw bîff o'r fuches odro dan do dwys, a fferm Cae Haidd Ucha yw'r unig uned fagu bîff llaeth sy’n seiliedig ar laswellt, esboniodd Simon Travis, o SAC Consulting.
Yn gyffredinol, mae gan systemau pesgi teirw o'r fuches odro fantais dros systemau pesgi bustych ar gyfrifiadau allyriadau carbon gan bod yn rhaid i allyriadau carbon y cylch bywyd cyflawn mewn buchesau sugno bîff, gan gynnwys yr holl anifeiliaid magu, gael eu hystyried wrth gyfrifo, dywedodd.
“Nid yw lloi bîff llaeth, y daethpwyd â nhw i mewn, yn cynnwys y faich hon o fagu,” dywedodd Mr Travis.
Sut y cedwir allyriadau yn isel
Gall y teulu Williams gadw allyriadau yn isel trwy sicrhau enillion pwysau byw da o borthiant a dyfir ar y fferm, esboniodd Mr Travis.
Y defnydd o silwair a dyfir ar y fferm fesul buwch fesul blwyddyn yn fferm Cae Haidd Ucha yn ystod y flwyddyn tan fis Medi 2019 oedd 8.764t pwysau ffres, gydag epil yn llwyddo i sicrhau enillion pwysau byw dyddiol o 0.75kg/dydd.
Mae cynhyrchu porthiant effeithlon yn helpu perfformiad carbon Cae Haidd Ucha.
Ail-hadir 10% o'r fferm bob blwyddyn gyda rhygwellt ac mae'r holl dir pori parhaol yn llai na chwe blwydd oed; mae hyn yn sicrhau bod tir pori yn parhau i fod yn gynhyrchiol ac yn sicrhau ansawdd a phwysau cnwd da.
Yn y cyfamser, mae 6.6ha o goetir yn lliniaru allyriadau trwy ddal a storio carbon yn y pridd, sef y broses o fachu carbon atmosfferig mewn coed a phridd.
Mae gwartheg o'r ddwy fenter bîff yn pori yn ystod yr haf pan gânt eu rhedeg ar system bori mewn cylchdro o badogau a ffensys trydan.
Cedwir stoc y tu mewn yn y gaeaf gan bod y fferm fynydd wedi'i lleoli ar ffiniau Eryri ac mae'r glawiad yno yn uchel, sef 2.7m/flwyddyn.
Meysydd i'w gwella
Mae’r teulu Williams yn dweud y bydd deall ble y caiff allyriadau eu cynhyrchu yn eu busnes yn caniatáu iddynt roi blaenoriaeth i welliannau.
Maent yn targedu rheolaeth tail a gwrtaith fel meysydd i'w gwella – gallai canllawiau GPS ar gyfer chwalu helpu i leihau eu mewnbynnau gwrtaith o'r lefel bresennol, sef 40kgN/ha.
Maent yn bwriadu gwella gwerth porthiant eu silwair hefyd trwy gynyddu'r lefelau egni a phrotein o'r lefel bresennol sef 11.5MJ/kg deunydd sych (DM) a 10.8g/kg protein crai (CP) ar gyfer silwair clamp a 10.0MJ/kg DM a 13.8g/kg CP ar gyfer silwair mewn byrnau.
BLWCH: Ffeithiau am fferm Cae Haidd Ucha
- Yn berchen ar 121ha
- 5.6ha ar denantiaeth busnes fferm hirdymor
- 32ha o gynefin ar Fynydd Hiraethog
- Mae'r tir ar y prif ddaliad yn amrywio rhwng 800 troedfedd a 1,200 troedfedd
- Defnyddir mwyafrif y tir ar gyfer silwair a phori, a cheir tua 32ha o dir pori garw
- Gwerthir bustych o'r fuches sugno fel gwartheg stôr 450kg a heffrod yn 400kg
- Caiff 120 o deirw Holstein wedi'u magu o'r fuches odro eu pesgi yn ddwys, a gwerthir y rhain i uned besgi pan fyddant yn 400kg, ac yn 16 mis ar gyfartaledd.
Tabl 1: Allyriadau carbon yng Nghae Haidd Ucha |
|||
|
kg CO2/kg ar y bachyn yn fferm Cae Haidd Ucha |
Lefel y cyfle |
Ffermydd cymharol yng nghronfa ddata SRUC kg CO2/kg ar y bachyn |
Eplesu enterig |
18.08 |
Isel |
21.19 |
Rheoli tail |
7.76 |
Isel |
8.84 |
Gwrtaith |
5.95 |
Canolig |
5.12 |
Deunydd gorwedd a brynir |
0.22 |
Isel |
0.73 |
Tanwydd |
1.29 |
Isel |
1.45 |
Arall |
0.17 |
Isel |
1.07 |
Cyfanswm yr allyriadau |
33.65 |
Isel |
40.68 |
Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio adnodd ar-lein newydd er mwyn helpu ffermwyr yng Nghymru i wneud newidiadau er mwyn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o'u busnesau.
Mae'r adnodd rhyngweithiol yn cynnig cyngor ynghylch camau cyraeddadwy y gall ffermwyr eu cymryd i leihau allyriadau, megis lleihau maint gwartheg o 700kg i 500kg, a chynyddu nifer y lloi a fegir 5%, o 80% i 85%.
Mae'r adnodd yn amlygu'r negeseuon cadarnhaol y mae ffermwyr yn eu gwneud i'r hinsawdd, megis gallu pridd ar ffermydd i storio symiau mawr o garbon, a rôl amaethyddiaeth wrth ddarparu cynefinoedd a dŵr yfed glân.
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/reducing-ghg-emissions