18 Ebrill 2019

 

marc bowen catherine price lilwen joynson emma picton jones alun bowen and rhiannon james 0
Mewn ymgais i hybu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig, a mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â'r mater sensitif hwn, mae Cyswllt Ffermio wedi darparu hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl i staff sy’n darparu, a fydd yn eu helpu i wrando ar unigolion mewn angen, eu deall a’u cyfeirio i gael cymorth priodol a hygyrch.

Credir bod lefelau iselder yn y diwydiant ffermio yn cynyddu yn y DU ac mae cyfraddau hunanladdiad, yn enwedig ar gyfer dynion iau na 40, ymhlith yr uchaf mewn unrhyw grŵp galwedigaethol.  Dyma neges ysgytwol Emma Picton-Jones, mam ifanc ac athrawes ysgol gynradd o Sir Benfro a fu'n cyflwyno cyfres o ddau ddiwrnod hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (MHFA) i staff Cyswllt Ffermio yn ddiweddar.   Mae'r hyfforddiant, a gyflwynwyd trwy rôl Emma fel swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl a darparwr hyfforddiant cymeradwy, yn rhan o'i hymgyrch bersonol a phroffil uchel i gynnig cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant i fudiadau ac unigolion gwledig sy’n gweithio ym myd amaeth ledled Cymru.

Collodd Emma ei gŵr ifanc Dan, contractwr amaethyddol, yn 2016, pan oedd dim ond 27 oed. Cymerodd ei fywyd ei hun. Roedd yn drasiedi sydd yn amlwg wedi gadael ei hôl ar Emma, ei theulu a'i ffrindiau, ond yng nghanol ceisio ailadeiladu eu bywydau, mae hi wedi dod o hyd i ffordd o sicrhau bod diwedd trasig a chynamserol Daniel, y gwnaeth iselder heb ddiagnosis a thriniaeth ei achosi, yn cael canlyniad cadarnhaol sydd bellach yn helpu llawer o bobl eraill.

"Mae ffermio yn yrfa ragorol sy’n gallu darparu manteision enfawr i'r rheiny sy'n gweithio yn y sector ond mae'n yrfa sy'n dod â phwysau, unigrwydd a galwadau enfawr yn ddyddiol.

"Gyda'r pwysau sy'n wynebu'r diwydiant heddiw, mae'n hanfodol bod pawb sy'n gweithio mewn cymunedau gwledig yn cael eu hannog i siarad am iechyd meddwl a'n bod yn cydweithio i gael gwared â'r stigma o fynd i'r afael â materion fel hunanladdiad, iselder, pryder a materion iechyd meddwl eraill," meddai Emma.

Trwy Sefydliad DPJ (Daniel Picton-Jones), a sefydlodd Emma yn fuan ar ôl colli ei gŵr ac sy'n cael ei ariannu gan roddion elusennol yn bennaf, mae'r sefydliad wedi gallu darparu llinell gymorth ffôn a gwasanaeth tecstio 24/7. Mae gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi mewn MHFA yn darparu’r gwasanaeth, yn ogystal â chwnsela un-i-un wedi'i ariannu'n llawn gan gwnselwyr cymwys.  Gobaith Emma yw y bydd hi a'r hyfforddwyr cymeradwy eraill, trwy wasanaeth hyfforddi MHFA y sefydliad, yn gallu cyrraedd mwy o bobl sy'n gweithio yn y diwydiant amaeth yng Nghymru i sylwi ar arwyddion iechyd meddwl gwael fel eu bod yn gwybod beth yw'r camau sylfaenol i'w cymryd a ble i gyfeirio unigolion mewn angen.

Mae hyfforddiant Emma yn cynnig proses cam-wrth-gam 'ALGEE' y mae llawlyfr hyfforddiant MHFA a gyhoeddwyd gan ‘Training in Mind', sefydliad menter gymdeithasol yng Nghymru, yn manylu arni. Mae hyfforddiant Emma yn canolbwyntio ar bwysigrwydd gwrando ar unrhyw un y credwch y gallai fod mewn angen heb fod yn feirniadol, oherwydd bod annog unigolyn i 'agor i fyny' a bod yn onest ynglŷn â sut maent yn teimlo, yn feddyliol, yn emosiynol ac yn gorfforol yn hollbwysig i'w cyfeirio at y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

"Pum cam sylfaenol ALGEE yw "GOFYN am hunanladdiad a materion iechyd meddwl eraill ac asesu'r sefyllfa; GWRANDO heb fod yn feirniadol; RHOI tawelwch meddwl a gwybodaeth; ANNOG yr unigolyn i gael cymorth a chefnogaeth briodol ac ANNOG strategaethau hunangymorth."

"Pe na fyddai pobl yn ofni gofyn am gymorth yn y lle cyntaf, gallai llawer o bobl wella'n gyflymach a byth cyrraedd y dyfnderau arswydus y mae unigolion sy'n teimlo'n unig ac yn methu dweud wrth unrhyw un pa mor ddrwg y maent yn teimlo, yn aml yn eu hwynebu," meddai Emma.

Ymhlith nifer o wobrau ac anrhydeddau eraill y mae Emma wedi’u derbyn, y llynedd enillodd wobr Pride of Britain am ei gwaith yn hyrwyddo materion iechyd meddwl mewn cymunedau ffermio.

Ariennir Cyswllt Ffermio gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, ac mae’r rhaglen yn cael ei darparu gan Menter a Busnes.

 

Llinellau Cymorth/Cefnogaeth

 

Cronfa Addington

01926 620135  

www.addingtonfund.org.uk

 

Sefydliad DPJ

0800 587 4262    

www.thedpjfoundation.com/

 

FCN (Y Rhwydwaith Cymunedol Fferm)

03000 111 999    www.fcn.org.uk/

 

RABI (Sefydliad Brenhinol dros Les Amaethyddol)

0808 281 9490     www.rabi.org.uk

 

Tir Dewi (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro)

0800 121 4722    www.tirdewi.co.uk

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Syniad arloesol yn ennill prif wobr Her Academi Amaeth Cyswllt Ffermio
25 Tachwedd 2024 Mae aelodau carfan Academi Amaeth Cyswllt
Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr