8 Mehefin 2020
Mae un o gynigion hyfforddiant digidol un i un diweddaraf Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i osgoi defnyddio meddyginiaethau milfeddygol diangen.
‘Mae atal yn well na cheisio gwella pan ddaw yn fater o roi meddyginiaethau milfeddygol i anifeiliaid fferm,’ yn ôl Dr Sotirios Karvoutzis, milfeddyg gyda Mendip Vets, un o’r cwmnïau milfeddygol cymeradwy sy’n cyflwyno cyrsiau hyfforddiant un i un ‘o bell’ gyda chymhorthdal i ffermwyr yng Nghymru ar ran Cyswllt Ffermio.
Wrth i’r diwydiant ymdrechu i gyrraedd targed presennol llywodraeth y Deyrnas Unedig o roi dim mwy na 21mg o wrthficrobau i bob kilogram o bwysau byw i bob anifail y flwyddyn, mae Cyswllt Ffermio wedi lansio cwrs hyfforddi ‘Defnyddio meddyginiaethau milfeddygol mewn modd diogel’ i ffermwyr yng Nghymru.
Bydd y cwrs hyfforddi, sydd ar gael i ffermwyr cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, yn cael ei drefnu ar amser y cytunir arno rhwng y milfeddyg fydd yn cymryd rhan a’r ffermwr. Gyda chyllid ar gyfer 80% o’r cwrs, gall ffermwyr sydd wedi cofrestru, a fydd angen bod â Chynllun Datblygu personol, ymgeisio yn ystod cyfnod ymgeisio sgiliau gyfredol Cyswllt Ffermio, sydd ar agor ar hyn o bryd hyd 17:00 ar Ddydd Gwener, 26 Mehefin 2020.
Cynlluniwyd cynnwys y cwrs i helpu ffermwyr i symud oddi wrth yr hyn y mae Dr Karvountzis yn ei ddisgrifio fel dull ‘ymladd tân mewn argyfwng’ at ddull mwy ataliol, gan eu galluogi i wella rheolaeth ar nifer o afiechydon anifeiliaid ar y cyd â milfeddyg y fferm.
Bydd pob ffermwr yn cael ei annog i ofyn cwestiynau yn ystod ei sesiwn ddysgu PowerPoint a bydd yn cael set o nodiadau fel canllaw ar y diwedd. Gellir dilyn y cwrs wrth ddefnyddio ffôn glyfar, tabled neu gyfrifiadur.
Esbonia Kevin Thomas, cyfarwyddwr Lantra Cymru, sydd gyda Menter a Busnes yn darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, bod manteision sylweddol wrth sicrhau bod gan ffermwyr well dealltwriaeth o feddyginiaethau milfeddygol, nid yn unig o’r safbwyntiau iechyd anifeiliaid ac ariannol, ond oherwydd bod y diwydiant yn awr yn gosod gofynion trymach i roi sicrwydd i ddefnyddwyr.
“Wrth i’r cyhoedd ddatblygu eu gwybodaeth a mynnu cynnyrch o safon uchel gan ein ffermwyr, mae’n bwysig i’r holl gynhyrchwyr fedru profi eu bod yn cadw at y safonau uchaf o ran iechyd anifeiliaid a hwsmonaeth, sy’n cynnwys rhoi deunydd gwrthficrobaidd pan fydd hi’n hollol angenrheidiol gwneud hynny yn unig.”
“Mae nifer gynyddol o gynlluniau sicrwydd fferm yn awr yn mynnu bod cyflenwyr yn cyflawni rheoliadau iechyd anifeiliaid a lles caeth er mwyn cydymffurfio â’u rheolau, a bydd dilyn cwrs hyfforddi ‘Defnydd diogel o feddyginiaethau milfeddygol’ Cyswllt Ffermio yn rhoi’r ddealltwriaeth angenrheidiol i chi i gydymffurfio,” dywedodd Mr Thomas.
“Mae’r un mor bwysig gwybod pryd i ‘beidio’ rhoi meddyginiaethau â gwybod pryd a pha ddos y mae angen ei rhoi er mwyn lleihau’r risg o broblemau fel gwrthedd gwrthficrobaidd sy’n digwydd pan fydd anifeiliaid yn cael triniaethau fel rhan o batrwm yn hytrach na phan fydd arnyn nhw wirioneddol eu hangen.”
Ann Davies, sy’n ffermio fferm laeth gyda 150 o fuchod ger Llandeilo gyda’i gŵr Gareth oedd un o’r rhai cyntaf i ddilyn un o gyrsiau hyfforddi Dr Karvountzis.
“Roedd yn bleser dilyn yr hyfforddiant ar-lein gyda Sotirios, a chefais gyngor defnyddiol iawn am adnabod arwyddion gan yr anifeiliaid sydd yn aml yn rhagfynegi problemau iechyd.
“Gan ei fod yn gwrs un i un, roedd yn gallu trafod llawer iawn o agweddau yn ystod fy sesiwn ddwy awr, gan fy ngoleuo am yr arfer gorau ar hyn o bryd a rhoi cyfarwyddyd ar weithredu gweithdrefnau atal a fydd yn helpu i leihau’r defnydd o feddyginiaethau yn ein buches laeth,” dywedodd Mrs Davies.
Oherwydd cyfyngiadau Covid, sydd wedi effeithio ar hyfforddiant wyneb yn wyneb, mae Cyswllt Ffermio, gan weithio’n glos gyda Lantra Cymru a’r cyrff achredu perthnasol, yn awr yn gallu darparu nifer o gyrsiau hyfforddi penodol i sector, gweithdai a chymorthfeydd naill ai dros y ffôn, yn ddigidol neu ar-lein. Gyda phynciau yn amrywio o iechyd anifeiliaid a TGCh i strategaethau busnes a marchnata, dywed Mr Thomas bod hyblygrwydd ac apêl dysgu o gartref eisoes yn profi yn boblogaidd iawn i lawer o unigolion y mae’r cyfnod clo yn effeithio arnyn nhw. Bydd cofnod o’r holl hyfforddiant Cyswllt Ffermio a gwblhawyd yn cael ei lwytho yn awtomatig i gofnod datblygiad proffesiynol parhaus ar-lein unigolyn, y Storfa Sgiliau.
Gellir gweld rhestr o holl bynciau gweminarau, gweithdai a chymorthfeydd Cyswllt Ffermio, a’r dewisiadau digidol neu ar-lein a phodlediadau yma. Rhaid archebu’r holl gyrsiau hyfforddi Cyswllt Ffermio ymlaen llaw, naill ai trwy’r wefan neu ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg. Os yw trwy gymhorthdal yn hytrach nag wedi ei ariannu yn llawn, dylai ffermwyr wirio gwir gostau’r hyfforddiant bob amser cyn ymgeisio. Mae Cyswllt Ffermio hefyd yn darparu nifer o fodylau e-ddysgu rhyngweithiol ar bynciau iechyd anifeiliaid.
Os nad ydych yn sicr sut i gael mynediad at ‘fannau cyfarfod’ ar-lein a’u defnyddio, gallwch lawrlwytho cyfarwyddyd o wefan Cyswllt Ffermio yma. Fel arall, am unrhyw wybodaeth bellach am hyfforddiant a’r amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael ar hyn o bryd ‘o bell’, cysylltwch â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.