27 Medi 2023

Mae meillion coch llawn protein yn helpu fferm dda byw yng Nghymru gyflawni cyfanswm cost cynhyrchu llai na £3/kg pwysau marw ei ŵyn.

Mae Dafydd a Glenys Parry Jones wedi bod yn ffermio’n organig ym Maesllwyni ers 2001, gan redeg diadell o 700 o famogiaid Texel ac Aberfield croes a 60 o wartheg croes Henffordd ar ddaliad yr ucheldir ger Machynlleth.

Mae meillion coch wedi bod yn rhan allweddol o’u system ers hynny, a hynny’n gynyddol – yn y tair blynedd diwethaf mae gwartheg wedi’u pesgi arno’n unig ac mae ŵyn yn treulio eu pythefnos olaf cyn iddynt fynd i’w lladd yn pori’r gwndwn hyn.

Trwy sefydlogi nitrogen yn barhaus a'i ryddhau wrth bori a thorri, mae meillion coch nid yn unig yn ffynhonnell bwysig o borthiant i'r da byw ym Maesllwyni ond hefyd ar gyfer maetholion ac iechyd y pridd.

Mewn diwrnod agored Cyswllt Ffermio ar y fferm yn ddiweddar, rhannodd Mr Jones y wybodaeth y mae wedi’i ennill o ddau ddegawd o dyfu a bwydo’r cnwd.
Mae ugain hectar (ha) yn cael eu tyfu mewn cylchdro ar 60ha o dir silwair lle mae caeau’n cael eu hail-hadu bob 11 mlynedd.

Drwy ffafrio mathau gan gynnwys AberChianti ac AberClaret, mae gan wndwn hir oes o bum mlynedd os gofelir amdanynt, gan gynnwys peidio â’u pori yn y gaeaf.
Sefydlir y cnwd ym mis Mai ar ôl aredig. Mae haen uchaf o bridd y fferm yn fas felly dim ond y 10cm uchaf sy'n cael ei drin.

Mae ceirch, haidd, pys a ffacbys yn cael eu cynnwys yn y cymysgedd. “Mae'r cymysgedd âr yn glanhau'r cae ac yn creu gorchudd i gadw'r chwyn i lawr,'' meddai Mr Jones.

Mae'r silwair yn cael ei fwydo'n bennaf i famogiaid cyfeb yn ystod y pythefnos olaf cyn wyna.

Sefydlir hadau meillion coch ar ddyfnder o 5mm yn unig a'r silwair âr ar 7.5-10cm.
“Rydym yn gadael i'r had âr eistedd ar ben y rhych a gwelsom ei fod yn gweithio'n iawn,” meddai Mr Jones.

Roedd sefydlu wedi bod ym mis Gorffennaf yn flaenorol ond trwy gael yr had i'r ddaear ym mis Mai mae'n rhoi mantais i feillion coch yn y flwyddyn gyntaf honno.


“Mae'r meillion yn dechrau llwyddo yng nghanol yr haf,” meddai Mr Jones.
Mae'r pridd yn cael ei llyfnu â chadwyn a'i rolio ar ôl hadu.

Cymerir toriad cyntaf swmpus ym mis Mehefin, ac mae’r porthiant yn cael ei sychu am 24 awr, ac ail doriad o ansawdd uwch ddechrau mis Awst, sy’n cael ei sychu am 48 awr.

“Rydym yn torri'r meillion coch yn ifanc ar gyfer silwair, er mwyn atal y bôn rhag dod yn annymunol i ddefaid,” eglura Mr Jones.

Mae'r toriad cyntaf yn glamp a'r ail yn cael ei gadw fel byrnau mawr. Defnyddir cyflyrydd plastig ar y peiriant torri gwair i leihau difrod i’r dail.

Gyda thros 18% o brotein, mae'n gnwd llawn protein ac felly mae wedi'i sefydlu gyda glaswellt cyfatebol i ddarparu ffibr ac egni i helpu i gadw'r protein hwnnw yn y rwmen am gyfnod hwy.

“Mae cynhyrchu protein yn un peth ond mae angen rhywbeth i'w amsugno,'' meddai Mr Jones.

Mae yna fanteision eraill hefyd o blanhigion a pherlysiau sydd wedi'u cynnwys yn y cymysgedd, meddai.

“Mae gan feillion y meirch daninau sy'n helpu i gadw da byw yn iach a chan nad yw ein priddoedd yn cynnwys llawer o gopr, mae ysgellog yn helpu i ddod â'r mwyn hwnnw i fyny strwythur y pridd.''

Y dadansoddiad targed ar gyfer silwair meillion coch yw o leiaf 18% o brotein, egni metabolig (ME) sy’n fwy nag 11, gwerth treuliadwyedd (D) o dros 70 a deunydd sych yn fwy na 30%.

“Nid oes llawer o siwgr mewn meillion felly rwy'n defnyddio ychwanegyn i helpu gyda'r silweirio ac i gael y lefel pH i lawr yn gyflym,” meddai Mr Jones.

Nid yw'n gadael i feillion coch dyfu'n rhy uchel cyn troi defaid arno. “Rhaid i'r bôn beidio â mynd yn rhy drwchus oherwydd nid yw'r defaid yn ei hoffi pan fydd yn cyrraedd y cam hwnnw.''

Ar gyfer pori, mamogiaid ac ŵyn sy’n cael blaenoriaeth yn y gwanwyn, i besgi ŵyn a’u gwerthu, ac ar ôl 1 Gorffennaf, gwartheg sy’n cael y blas cyntaf.

“Rydym ni'n pesgi ŵyn ar feillion coch ond ddim yn rhy hir neu maent yn mynd yn rhy fawr ac yn rhy dew,” eglurodd Mr Jones. Maent yn pori am bythefnos ac yna'n cael eu pwyso.
Nid ydym yn bwydo unrhyw ddwysfwyd i’r ŵyn, yn bennaf oherwydd y silwair meillion coch a gwyn o ansawdd uchel a system rheoli pori ardderchog. Mae hyn wedi helpu i leihau cyfanswm cost cynhyrchu i lai na £3/kg pwysau marw ŵyn.

“Mewn llawer o systemau'r Taliad Fferm Sengl yw’r elw ond drwy gadw ein costau i lawr yr oen yw’r elw ac mae’r taliad yn fonws,” meddai Mr Jones.
Yr ôl troed carbon yn ei system ŵyn yw 11.4kg C02/kg pwysau byw.

Mae gwartheg yn cael eu pesgi yn 20 mis oed – gallant ennill pwysau byw dyddiol o hyd at 1.6kg wrth bori meillion coch. Mae pridd yn cael ei samplo'n rheolaidd - mae'r meillion coch a'r caeau gwndwn llysieuol yn gyson ar 6-6.5pH.

Mae priddoedd iach yn bwysig i bryfed llesol hefyd, fel chwilen y dom, sy'n gallu ailgylchu maetholion yn fedrus.

Dywedodd Lynfa Davies, Arbenigwr Bioamrywiaeth Cyswllt Ffermio, wrth ffermwyr sy’n mynychu’r diwrnod agored fod chwilen y dom yn chwarae rhan hollbwysig mewn systemau da byw trwy reoli’r dom a rheoli parasitiaid.

“Mae cael poblogaethau da o chwilod y dom yn golygu fod pawb ar eu hennill, gan ei fod yn lleihau llwyth o barasitiaid yn ogystal â chael maetholion o dan y ddaear i fwydo'r llif nesaf o laswellt, ac maent hefyd yn darparu bwyd i fywyd gwyllt ac adar eraill,'' meddai.

Mae poblogaethau da o chwilod y dom hefyd yn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o gynhyrchu da byw wrth iddynt dynnu deunydd ysgarthol i lawr i'r pridd.
Maent yn agored iawn i anthelmintigau, yn enwedig ivermectin.

Dywedodd Ms Davies, bydd trin anifeiliaid sydd â thystiolaeth o faich parasitiaid, trwy ddefnyddio cyfrif wyau ysgarthol i sefydlu lefelau llyngyr, yn hybu a chadw poblogaethau chwilod y dom.

Mae pori da byw trwy gydol y flwyddyn hefyd yn fuddiol gan fod gwahanol rywogaethau o chwilen y dom yn gyffredin ar wahanol adegau o'r flwyddyn.

“Nid oes rhaid iddo fod yn wartheg, efallai rhywfaint o stoc ifanc neu ddefaid,” meddai Ms Davies. “Os oes ffermydd yn yr ardal sydd â stoc mewn caeau trwy gydol y flwyddyn bydd hynny'n helpu hefyd.''

Hwyluswyd y diwrnod agored gan Owain Pugh, Swyddog Sector Cig Coch Cyswllt Ffermio. Dywedodd fod y teulu Jones yn dangos pa mor bwysig oedd cnydau fel meillion coch wrth leihau mewnbynnau.

“Mae delwedd ffermio yng Nghymru yn bwysig iawn nawr a bydd hyd yn oed yn bwysicach yn y dyfodol ac mae dileu protein ag olion traed carbon uchel fel soia yn hollbwysig,” meddai.

Mae nifer o brosiectau sy'n treialu systemau ar gyfer lleihau mewnbynnau yn cael eu cynnal ar rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio.
 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint