19 Gorffennaf 2022

 

Bydd ffermwyr yn cael mynediad at ddata meincnodi carbon pridd pwysig ledled Cymru am y tro cyntaf, diolch i fenter archwilio uchelgeisiol newydd gan Cyswllt Ffermio. 

Caiff canlyniadau cychwynnol Prosiect Pridd Cymru eu rhannu gyda ffermwyr ar stondin Cyswllt Ffermio yn Sioe Frenhinol Cymru 2022 – a byddant yn cael eu hannog i gymryd rhan hefyd, drwy Glinigau Pridd am ddim. 

Mae Prosiect Pridd Cymru wedi casglu 1420 o samplau pridd a gymerwyd ar 17 o ffermydd arddangos cig coch a llaeth Cyswllt Ffermio i sefydlu’r deunydd organig a dwyster y pridd. 

Casglwyd yr holl samplau o fewn yr un cyfnod o 14 diwrnod ym mis Chwefror, ar gyfer unffurfiaeth, ac o gaeau a reolir o dan amodau gwahanol - gan gynnwys porfa barhaol, gwair neu silwair, caeau sydd wedi’u hail-hadu a chaeau pori.

Cymerwyd pridd o ddyfnderoedd gwahanol, o’r haen 10cm uchaf i mor ddwfn â 30-50cm. 

Mae rhai o’r canlyniadau ar gael nawr, ac yn dangos sut mae stociau carbon pridd yn amrywio yn ôl defnydd y cae. 

Mae cynnwys deunydd organig pridd ar ei uchaf yn yr 10cm uchaf (mor uchel â 10.4% mewn porfa barhaol), ac yn gostwng wrth fynd yn ddyfnach i’r pridd; mae’n amrywio o 8.5% yn y caeau y torrwyd ar gyfer porthiant, i 10.2% yn yr 10cm uchaf yn y caeau pori yn unig. 
Troswyd y canlyniadau i Garbon Organig Pridd, sef prif gyfansoddyn deunydd organig pridd; o’u defnyddio ynghyd â data dwyster y pridd (pwysau pridd sych o fewn cyfaint hysbys), gellid amcangyfrif stoc carbon y priddoedd a samplwyd. 
Roedd y rhain yn amrywio o 33.1t/ha yn haen uchaf y cae pori yn unig, i 30.6t/ha yn y cae silwair. 
Dywed Menna Williams, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio, sy’n arwain y prosiect gyda Non Williams, mai dyma’r tro cyntaf i ffigyrau meincnodi ledled Cymru ar y raddfa hon gael eu cymharu. Eglurodd sut y bydd y data hwn yn ddefnyddiol ar gyfer amaethyddiaeth. 

“Bydd darganfod lefelau carbon pridd heddiw yn helpu i feincnodi yn erbyn unrhyw newidiadau mewn rheolaeth bridd.

“Gall ddulliau o gynyddu atafaeliad carbon mewn priddoedd, trwy wella’r deunydd organig, ac felly, carbon organig y pridd, leihau faint o nwyon tŷ gwydr sydd yn yr atmosffer, ond gallant hefyd ddarparu buddion ychwanegol i dirfeddianwyr, megis gwella ansawdd a ffrwythlondeb y pridd, llai o gywasgiad, erydiad a llai o faetholion yn cael eu colli.”

Gall priddoedd iach storio mwy o garbon, sef prif elfen deunydd organig y pridd, sy’n helpu gyda’i allu i ddal dŵr, ei strwythur a’i ffrwythlondeb. 

Mae angen data carbon pridd hefyd wrth wneud cyfrifiannell Carbon Fferm, dywed Ms Williams. Bydd gwybod cynnwys carbon pridd y fferm yn cryfhau’r canlyniadau, ychwanegodd; bydd hefyd yn dangos lle mae angen gwneud gwelliannau.

Gall ffermwyr eraill gymryd rhan, gan fod Cyswllt Ffermio ar hyn o bryd yn cynnig Clinigau Pridd am ddim, er mwyn dadansoddi priddoedd a darparu archwiliad carbon pridd i ffermwyr. 

Yn ogystal â thrafod canlyniadau Prosiect Pridd Cymru gyda thîm Cyswllt Ffermio yn Sioe Frenhinol Cymru, dangosir i ffermwyr sut y gall arbrawf syml yn ymwneud â chladdu defnydd cotwm eu helpu i ddysgu am gyflwr eu pridd. 

Bydd Cyswllt Ffermio yn adeilad Lantra Cymru ar faes Sioe Frenhinol Cymru, sydd wedi’i leoli gyferbyn â chanolfan CFfI Cymru. 

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu