Mae Mentro, platfform cyfleoedd ar y cyd blaengar Cyswllt Ffermio, a lansiwyd 18 mis yn ôl, yn cynorthwyo i hwyluso symudedd angenrheidiol o fewn y diwydiant amaeth yng Nghymru. Trwy gynorthwyo i baru unigolion sy’n dymuno ystyried mentrau ar y cyd megis ffermio ar gontract neu ffermio cyfran, a darparu cefnogaeth ac arweiniad ynglŷn â’r ffordd orau i drefnu'r rhain, mae Mentro nawr yn hwyluso ateb angenrheidiol i nifer o unigolion sydd naill ai'n dymuno arafu neu adael y diwydiant a'r rheini sy'n chwilio am fywoliaeth newydd yn y diwydiant.

“Gall canfod ffordd i mewn i ffermio fod yn dasg anodd os nad ydych chi neu eich partner yn dod o gefndir teulu ffermio, neu os nad yw’r busnes teuluol yn ddigon o faint i allu cefnogi newydd ddyfodiad,” meddai Einir Davies, Rheolwr Datblygu a Mentora gyda Menter a Busnes sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

“Mae'r cyfle hanfodol hwnnw i ennill bywoliaeth o fewn busnes fferm deuluol ar hyn o bryd allan o afael nifer o ffermwyr posib yng Nghymru, ond mae Mentro yn dechrau cael effaith erbyn hyn,” meddai Miss Davies, gan ychwanegu bod y cynllun hefyd yn opsiwn defnyddiol i’r nifer o ffermwyr a thirfeddianwyr a allai fod yn gorfod gadael y diwydiant gan nad oes cynllun olyniaeth mewn lle.

Yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau codi ymwybyddiaeth ynglŷn â rhaglen Mentro a gynhaliwyd ar draws Cymru yn 2016, mae 140 unigolyn bellach yn cymryd rhan weithredol yn y fenter. O’r rhain, mae 84 yn ‘geiswyr’ neu newydd ddyfodiaid sy’n chwilio am gyfle i gael mynediad i’r diwydiant ac mae 56 yn ‘ddarparwyr', sef ffermwyr neu dirfeddianwyr sydd eisiau darparu cyfle.

Yn ogystal â chefnogi unigolion trwy’r camau cyntaf o ganfod partneriaid busnes addas, mae ‘Mentro’ hefyd yn darparu pecyn o hyfforddiant, mentora, cyngor cyfreithiol arbenigol a chefnogaeth busnes er mwyn cynorthwyo i sicrhau bod y busnes newydd sy'n cael ei greu yn wydn, yn gynaliadwy ac yn broffesiynol. Hyd yn hyn, mae 26 pâr wedi cael eu canfod ac mae 3 Menter ar y Cyd newydd wedi cael eu sefydlu’n ffurfiol fel rhan o’r rhaglen. 

Mae platfform Mentro Cyswllt Ffermio'n casglu data gan ffermwyr a thirfeddianwyr sy'n ystyried menter ar y cyd ac yn eu paru gydag ymgeiswyr posib megis newydd ddyfodiaid, gweithwyr fferm, gofalwyr buches neu'r rhai sydd eisoes yn ffermio sy'n dymuno tyfu a datblygu eu busnes. 

Unwaith y bydd pâr addas wedi’i ganfod, darperir cefnogaeth wedi’i deilwra i’r ddwy ochr trwy ystod o wasanaethau Cyswllt Ffermio, gan gynnwys y Gwasanaeth Cynghori, sy'n darparu cyngor arbenigol wedi'i ariannu'n llawn i sefydlu'r strwythur busnes a'r cytundebau newydd.

Mae Cyswllt Ffermio yn awr yn cynllunio cyfres o weithdai wedi’u hwyluso i ddod a Cheiswyr a Darparwyr ynghyd ac i ddysgu mwy am yr opsiynau sydd ar gael. Bydd y gweithdai hyn yn cynnwys hyfforddiant yn ymwneud â gwerthuso eich asedau, sicrhau’r cyfuniad cywir o dir, pobl, sgiliau ac amcanion, rhannu risgiau ac enillion, ymchwilio i strwythurau cyfreithiol a busnes a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Yn bennaf oll, mae’n gyfle gwerthfawr i gyfarfod a dod i adnabod partneriaid busnes posibl yn eich rhanbarth.

 

Mae manylion y Gweithdai Rhwydweithio Mentro fel a ganlyn:​

  • Dydd Mercher 3ydd Mai - Galeri, Caernarfon, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1SQ
  • Dydd Iau 4ydd Mai - Clwb Rygbi Rhuthun RFC, Y Pafiliwn, Caeddol, Rhuthun, LL15 2AA
  • Dydd Mercher 10fed Mai – Gwesty’r Greyhound Hotel, Garth Road, Llanfair ym Muallt, Powys, LD2 3AR
  • Dydd Iau 11eg Mai - Clwb Rygbi Llambed, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7JA 

Bydd pob gweithdy yn dechrau am 10:00am ac yn gorffen am 2:30pm. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly mae'n rhaid archebu lle. I archebu lle, cysylltwch â Gwen Davies ar 01745 770039 neu gwen.davies@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites