“
Mae’n braf gwybod bod merched yn cael eu cydnabod fel rhan greiddiol o’n diwydiant o’r diwedd. Nid yw merched yn y diwydiant ffermio bob amser yn gwerthfawrogi ein bod ni i gyd yn wynebu’r un cyfyngiadau a heriau. Mae heddiw wedi bod yn ddigwyddiad rhwydweithio gwych a fydd yn sicrhau ein bod ni’n goresgyn ein hanawsterau gyda’n gilydd,” oedd barn Sarah Lewis sy’n ffermio yn Llanrhaeadr ym Mochnant, un o’r 160 o ferched a gofrestrodd ar gyfer fforwm Merched mewn Amaeth eleni a gynhaliwyd ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.Teitl y digwyddiad oedd ‘ysbrydoli, ysgogi a galluogi’ ac fe lwyddodd i gyrraedd disgwyliadau, ac roedd y rhaglen lawn o gyflwyniadau a gweithdai yn amlwg wedi taro tant gyda’r mynychwyr.
Un o brif nodau’r digwyddiad eleni oedd annog cyfranogwyr i ystyried ymuno â Fforwm Merched mewn Amaeth i Gymru, gydag awgrym i sefydlu canghennau yng ngogledd a de Cymru. Byddai trafodaethau’r Fforwm yn cynorthwyo i ddylanwadu ar ddatblygiad Polisi Amaethyddol yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r ymgyrch recriwtio sydd bellach ar droes eisoes wedi cael dechrau da wrth i dros drigain o ferched fynegi diddordeb i gymryd rhan.
Cyflwynwyd y prif anerchiad gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ar ddechrau sesiwn y prynhawn.
Roedd neges yr Ysgrifennydd Cabinet yn cynnwys cydnabyddiaeth o’r rôl bwysig sydd gan ferched mewn nifer o fusnesau fferm fel y rhai sy’n arwain newid, datblygiad busnes a moderneiddio.
“Mae merched yn chwarae rôl hanfodol yn natblygiad cymaint o fusnesau yng Nghymru ac yn aml iawn maent yn gyfrifol am arwain y ffordd yng nghyd-destun agweddau cynllunio busnes ac ariannol y fferm, yn ogystal â chydbwyso bywyd yn y cartref ac yn y gwaith.
“Rwy’n bwriadu, trwy’r rhaglen Cyswllt Ffermio presennol, canfod mwy o ffyrdd i gefnogi merched ac i ddefnyddio eu gallu, eu gwybodaeth a’u brwdfrydedd i helpu moderneiddio’r diwydiant.”
Un o’r pynciau trafod allweddol yn ystod y diwrnod oedd Brexit a’r goblygiadau ar gyfer y diwydiant amaeth yng Nghymru.
Denodd y digwyddiad ferched o bob oedran o bob cwr o Gymru, yn cynrychioli gwahanol sectorau o’n diwydiannau bwyd a fferm. Bu sawl un gwneud sylwadau ynglŷn â manteision dod â merched o’r un meddylfryd ynghyd, a darparu cyfle i rwydweithio a rhannu syniadau gydag unigolion o’r un anian.
Dywedodd Buddug Jones, gwraig fferm o Bala, “Rwy’n teimlo y bydd y Fforwm Merched newydd yng Nghymru yn rhoi cyfle i mi fel ffermwr sy’n dod i mewn i’r diwydiant sicrhau bod llais genhedlaeth iau yn cael ei glywed wrth i Lywodraeth Cymru gynllunio’r strategaeth amaeth newydd yn dilyn Brexit.”
Cyflwynodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr BT Cymru a merch fferm, araith ysbrydoledig yn seiliedig ar ei phrofiad personol hi o ‘arweinyddiaeth’, a arweiniodd at sawl cwestiwn ynglŷn â sut all merched oresgyn rhwystrau a llwyddo mewn amgylchedd sy’n cael ei ystyried gan amlaf yn un sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion.
Cadeirydd y digwyddiad oedd yr awdures a’r seren deledu, Bethan Gwanas, ac wedi i Rhian Duggan, cyn-lywydd diweddar Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, estyn croeso i bawb, aeth y gwesteion ati’n syth i gymryd rhan mewn tri gweithdy.
Hwyluswyd y gweithdy “Datblygu polisi amaethyddol i Gymru yn dilyn Brexit - safbwynt merched” gan Nerys Llewelyn Jones, cyfreithwraig wledig a ffermwr; Hwyluswyd y gweithdy ‘Cysylltu gydag eraill’ gan Manon Ahir, cyfarwyddwr cwmni cyfathrebu a marchnata dwyieithog ‘mela’, ac fe hwyluswyd y gweithdy ‘Dechrau sgyrsiau anodd’ gan Elaine Lewis Jones, mentor ac arweinydd Agrisgôp.
Ymunodd y Gweinidog am gyfnod byr gyda sesiwn rhwydweithio bywiog a drefnwyd gan yr hwylusydd a’r mentor, Olwen Thomas, sy’n adnabyddus am ei gwaith gydag Academi Amaeth Cyswllt Ffermio.