24 Mawrth 2022

 

Llwyddodd ffermydd llaeth sy'n rhan o brosiect Cyswllt Ffermio i fynd i'r afael â phroblemau sy'n effeithio ar ansawdd llaeth, i sicrhau codiad o hyd at 4c/litr ym mhris llaeth ar ôl gweithredu newidiadau a argymhellwyd.

Bu wyth ar hugain o gyflenwyr First Milk, gyda buchesau a oedd yn amrywio o 70 i 1000 o wartheg o ran eu maint, yn cymryd rhan yn y prosiect, a arweiniwyd gan Gyswllt Ffermio ac a gynhaliwyd ar y cyd â Kite Consulting ac Advance Milking. Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Roedd rhai o'r ffermydd yn cael problemau Bactoscan neu gydag iechyd cadeiriau yn eu buchesau, ac nid oedd gan eraill unrhyw hanes diweddar o hyn; roeddent yn dymuno cymryd rhan er mwyn adolygu'r ffactorau risg.

Gwelodd y busnesau a wnaeth newidiadau a argymhellwyd gan y tîm yn Advance Milking eu refeniw gan laeth yn cynyddu rhwng 0.1c/litr a 4c/litr. 

Dywedodd Tom Greenham o Advance Milking fod ffermydd yr oedd ganddynt broblemau ar ddechrau'r prosiect ac a gyflawnodd yr ymyriadau a argymhellwyd wedi gweld gwelliant Bactoscan cymedrig o 37 uned, o'u cymharu gyda'r ffermydd na gyflwynodd y newidiadau.  Ar ei ben ei hun, roedd Mr Greenham yn cyfrifo bod hyn yn cyfateb â +1.35c/litr dros y cyfnod o chwe mis yn dilyn ymweliad y tîm.

“Byddai hyn yn cyfateb ag £13,500 y flwyddyn i gynhyrchwr sy'n cynhyrchu 1m-litr, gan gynnig ad-daliad o 13:1, o'i gymharu gyda'r gost fesul fferm o ymwneud â'r prosiect,” dywedodd.

Roedd manteision pellach i ffermwyr a ddilynodd y cyngor ynghylch iechyd cadeiriau – gan wireddu gostyngiad o 48,000 cell/ml ar gyfartaledd yn eu cyfrif celloedd somatig (SCC), a oedd yn cyfateb â +0.54c/litr dros y cyfnod o chwe mis, a swm ychwanegol o 0.49cilogram o laeth/buwch/diwrnod. Mae hyn yn cyfateb ag ad-daliad o 11:1 gan y prosiect.

Defnyddiodd y prosiect ddull dadansoddi a oedd yn seiliedig ar risg er mwyn nodi a gwaredu'r cyfyngiadau ar gyfer perfformiad ansawdd llaeth yn ystod ymweliad hanner diwrnod unigol. Monitrwyd canlyniadau Bactoscan ac SCC yn y tanc llaeth am chwe mis wedi hynny.

Dywedodd Mr Greenham fod pob fferm, hyd yn oed y rhai yr oedd eu lefelau Bactoscan yn isel ar y cyfan, yn cynnwys rhai meysydd perfformiad gwael. Fodd bynnag, roedd hi'n glir, po leiaf y 'ffactorau risg' a oedd gan fferm, y lleiaf tebygol oedd hi y byddai ei lefel Bactoscan yn uwch.

“Gwelwyd bod ffermydd yr oedd ganddynt nifer fach o ffactorau risg yn unig naill ai heb fod yn cael unrhyw broblem, neu'n cael problemau Bactoscan tymhorol yn unig, ond roedd y rhai yr oedd ganddynt nifer fwy o ffactorau risg yn dioddef problemau Bactoscan o darddiadau lluosog – yr amgylchedd, peiriant a thanc llaeth,” soniodd Mr Greenham.

Roedd gan fwyafrif y ffermydd a fu'n ymwneud â'r prosiect broses odro lanwaith, cyfanswm golchi, crynhoad a thymheredd manwl gywir, a chyswllt cemegol da gydag arwynebau mewnol y pibellau llaeth. Fodd bynnag, dim ond chwech ohonynt oedd yn dangos glendid da o ran y gwartheg, gweithgarwch digonol i baratoi'r tethi cyn godro a threfniant digonol i oeri'r llaeth, a dim ond tri ohonynt oedd â threfniadau digonol i lanhau'r tanc.

Cynhaliwyd y prosiect yn ystod haf 2021, ar adeg pan oedd data'r DU yn dangos dirywiad SCC o +35,000 celloedd/ml yn ystod cyfnod y prosiect. Roedd hyn yn bennaf o ganlyniad i dywydd eithriadol o boeth ym mis Gorffennaf a mis Awst, gan achosi straen gwres a sialensiau bacterol amgylcheddol uchel.

“Yn unol â'r duedd hon, gwelwyd y ffermydd a fu'n ymwneud â'r prosiect hwn ac na wnaethant wneud unrhyw newidiadau, yn profi cynnydd o +30,000 celloedd/ml,’’ adroddodd Mr Greenham.

“Mae hyn yn golygu ei bod yn fwy trawiadol fyth bod y ffermydd hynny a wnaeth y newidiadau a gynghorwyd wedi llwyddo i sicrhau gostyngiad mewn SCC.’’

 

Ymyriadau Bactoscan

Y trefniadau er mwyn golchi'r tanc llaeth oedd y maes mwyaf cyffredin a oedd yn peri pryder ar y ffermydd; cynghorwyd 12 ohonynt i adolygu hyn.

Ychydig yn is ar y rhestr oedd gwasanaethu'r cyfarpar oeri llaeth a monitro pa mor gyflym yr oedd yn oeri, a argymhellwyd i 11 fferm. Cynghorwyd naw fferm i wasanaethu'r boeler a'r 
thermostat ac i newid tymheredd y dŵr ar gyfer yr hylif golchi.

I chwe fferm, roedd yr angen i drwsio neu ddisodli deunyddiau traul a oedd wedi treulio ar y peiriant godro, i adolygu rheolaeth slyri ar lwybrau ac mewn ardaloedd gorffwys, a chynyddu cyfanswm yr hylif a ddefnyddir yn y golchiad cylchredeg, ar y rhestr.

Argymhellwyd cynyddu amlder defnyddio codwr olion llaeth, cyflawni ail olchiad cemegol cywir ar ôl godro yn y prynhawn (yn hytrach na rinsio yn unig a newid crynoadau toddiadau a ddefnyddir mewn golchiad cylchredeg) i bum fferm.

Yr argymhellion eraill – ond i lai o ffermydd – oedd newid y gosodiadau chwistrellu aer er mwyn gwella cyswllt cemegol yn y brif linell llaeth, gwella awyru yn yr adeilad, gwasanaethu'r system olchi awtomatig ar gyfer y seilo swmpus, trafod amseroedd casglu gyda'u cludwr er mwyn amharu llai ar weithgarwch glanhau'r seilo, a samplu dŵr twll turio am facterioleg.

 

Ymyriadau cyfrif celloedd somatig

Godro gormodol oedd y broblem fwyaf a nodwyd, a chynghorwyd 18 fferm i newid gosodiadau tynnu cwpanau godro awtomatig.

Cynghorwyd 12 i adolygu therapi buwch sych gyda'u milfeddyg arferol, gan fod y protocolau a oedd yn bodoli eisoes yn anaddas ar gyfer sefyllfa bresennol y fuches; yn y rhan fwyaf o’r achosion, roedd hyn yn gysylltiedig â defnydd amhriodol o therapi buwch sych dethol.

Roedd diheintio tethi cyn godro yn faes cyffredin arall lle gwelwyd lle i wella, a chynghorwyd 10 fferm i newid y cam rheoli hwn. Roedd yr argymhelliad i chwe buches addasu eu patrwm cyn godro er mwyn gwella ysgogiad rhyddhau llaeth yn gysylltiedig â hyn.

Argymhellwyd newid y llwybr llaeth i leihau gwrthsafiad o ran y llif yn y peiriant godro ar gyfer wyth buches, ac awgrymwyd y dylai chwe buches ystyried gwahanol leinars godro.

Cynghorwyd chwe buches bellach i adolygu eu polisi difa mewn perthynas ag iechyd cadeiriau.

Yn ogystal, amlygodd Advance Milking gyfyngiadau hefyd mewn amgylcheddau pori a chadw gwartheg. I bum busnes, roedd hyn yn ymwneud ag addasu dimensiynau ciwbiclau i wella'r safle gorwedd, ac roedd hylendid a rheoli slyri, sathru ar lwybrau gwartheg ac wrth fwlch caeau a chylchdroi'r pori yn fater ar ffermydd niferus yn y prosiect.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites