1 Mai 2019

 

Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys LD2 3SY

 

Digwyddiad newydd a chyffrous wedi'i anelu at ffermwyr, coedwigwyr a phobl wledig sy'n chwilio am syniadau arloesi ac arallgyfeirio i wella eu busnes ac i gyflwyno ffrydiau incwm newydd i fusnesau presennol.

 

Mae yna 4 maes allweddol i Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru

 

Arloesi - Technolegau a syniadau newydd; y syniadau a chyfleoedd diweddaraf o ran technoleg i'ch helpu chi yn eich busnes.

 

Arallgyfeirio - Gwybodaeth am y syniadau a chyfleoedd arallgyfeirio diweddaraf, gan gynnwys bwyd, twristiaeth, gweithgareddau awyr agored a chnydau amgen.

 

Da Byw - Gwneud y gorau o'ch meddiannau presennol, sut i wneud eich busnes presennol yn fwy proffidiol trwy gyflwyno technoleg newydd, a gwella effeithlonrwydd tasgau.

 

Cyllid a chymorth busnes – Cyngor ar sut i ddatblygu ac ariannu eich syniadau busnes, fel y gallwch adael y diwrnod gyda chynllun yn ei le.

 

Hoffem eich gwahodd i ymuno â ni yn Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru lle bydd prif gwmnïau yn y sector yn cael eu harddangos. Bydd gwybodaeth lawn am stondinau masnach ar gael yn fuan, ond i gofrestru eich diddordeb nawr, cysylltwch â ni ar y manylion isod.

 

Trefnir y digwyddiad hwn gan Cyswllt Ffermio. Bydd y stondin yn rhad ac am ddim gyda ffi archebu o £90 wedi rheoli gan CAFFC cyf.

 

Ariennir Cyswllt Ffermio drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Ni fydd Cyswllt Ffermio yn gwneud elw o'r digwyddiad yma.

 

I gofrestru eich diddordeb mewn mynychu'r diwrnod gyda stondin fasnach, cysylltwch â ni yn

digwyddiadaucyswlltffermio@menterabusnes.co.uk

neu ffoniwch

Lisa Jones - 07812 190 896

Sian Mercer - 07970 298 908


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o