O drin cig i ddefnyddio bridiau moch traddodiadol, mae sawl opsiwn ar gael er mwyn ychwanegu gwerth at gig moch a gynhyrchir gartref a chynyddu refeniw cynhyrchu cig moch yng Nghymru.

Mae nifer o bobl yn cynhyrchu cig moch ar eu cyfer nhw eu hunain neu i’w werthu’n lleol ac mae galw gan gwsmeriaid ar gyfer cig moch sy'n cael ei gynhyrchu'n gynaliadwy ac yn cael ei fagu yng Nghymru. Mae cyfres o dri digwyddiad yn ymwneud â’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer ychwanegu gwerth at gig moch a gynhyrchir gartref wedi cael eu trefnu gan Cyswllt Ffermio a Cywain, prosiect sy'n canolbwyntio ar ychwanegu gwerth at gynnyrch Cymreig.

Bydd siaradwyr Cywain yn canolbwyntio ar y gefnogaeth a’r arweiniad sydd ar gael ar gyfer ychwanegu gwerth.  Byddant hefyd yn trafod y camau i’w cymryd wrth ddatblygu cynnyrch newydd a’r prif ffactorau i’w hystyried wrth ladd ar gyfer cytundeb penodol. Bydd Illtud Dunsford, o gwmni Charcutier Ltd yn rhannu ei brofiadau o ran ychwanegu gwerth at gig moch a gynhyrchir gartref ac yn trafod y galw ar gyfer cynnyrch cig moch o safon uchel o Gymru ynghyd â defnyddio priodoleddau bridiau moch traddodiadol.

Cynhelir y digwyddiadau Ychwanegu Gwerth at Gig Moch a Gynhyrchir Gartref fel a ganlyn:

  • Dydd Mawrth 17eg Ionawr 2017 7yh-9yh Duke of Wellington, 48 Stryd Fawr, Y Bontfaen, CF1 7AG
  • Dydd Iau 19eg Ionawr 2017 7yh-9yh Ystâd Rhug, A5, Corwen LL21 0EH
  • Dydd Mawrth 24ain Ionawr 2017 7yh-9yh Gwesty’r Plu, Sgwâr Alban, Aberaeron SA46 0AQ

Croeso cynnes i bawb yn y digwyddiad, a bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu. Am fwy o fanylion neu i archebu lle yn un o’r digwyddiadau, cysylltwch â Gwawr Llewelyn Hughes ar 07896 996841 gwawr.hughes@menterabusnes.co.uk

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae bwydo silwair meillion yn lleihau costau yn y cyfnod cyn ŵyna
22 Ionawr 2025 Mae silwair meillion coch a gwyn o ansawdd uchel
Dirprwy Brif Weinidog yn llongyfarch enwebeion Gwobrau Lantra Cymru mewn seremoni yn dathlu rhagoriaeth mewn datblygu sgiliau a dysgu gydol oes
16 Ionawr 2026 Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
E-fwletin Garddwriaeth gan Cyswllt Ffermio - rhifyn Gaeaf 2025