8 Tachwedd 2018

 

paul williams head and shoulders 1 0
Bydd Cyswllt Ffermio’n annog ffermwyr Cymru i fanteisio’n llawn ar yr holl gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd ar gael i’w helpu i baratoi at amodau masnachu’r dyfodol yn y Ffair Aeaf eleni yn Llanelwedd (Tachwedd 26/27).

“Os nad ydych wedi cofrestru gyda rhaglen Cyswllt Ffermio a manteisio ar bopeth sydd ar gael, gallech golli allan,” yw’r neges gan Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio. 

“Ein prif neges eleni, yw y dylech fod yn paratoi ar gyfer yr amodau masnachu gwahanol sy’n cael eu rhagweld yn eang a gall Cyswllt Ffermio eich helpu ar draws y rhan fwyaf o’r meysydd gwaith.

“Ni fu erioed fwy o frys i ganolbwyntio ar ddatblygiad personol a busnes er mwyn creu busnes hyfyw, cynaliadwy sy’n barod i wynebu’r heriau a’r cyfleoedd wrth adael yr UE,” meddai Mrs Williams.

Bydd cynrychiolwyr Cyswllt Ffermio mewn lleoliadau yn cynnwys  y balconi ar lawr cyntaf yr adeilad da byw;  adeilad Lantra (Rhodfa K);  a phafiliwn Llywodraeth Cymru yn Neuadd De Morgannwg.

Bydd staff Cyswllt Ffermio yn annog unrhyw un nad yw wedi cofrestru’n barod i wneud hynny’n electronig, a bydd yn hyrwyddo pob agwedd o’r gwasanaeth yn ystod y digwyddiad deuddydd.

Bydd y ffocws arbennig eleni ar feincnodi, yn cynnwys y rhaglen Mesur i Reoli; cynllun Meincnodi Cig Coch newydd Hybu Cig Cymru yn ogystal â phwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).  

Yn ôl Paul a Dwynwen Williams, Cae Haidd Ucha, Llanrwst, ffermwyr safle arddangos Cyswllt Ffermio a lwyddodd y llynedd i ennill teitl Ffermwyr Bîff y Flwyddyn Farmers Weekly, mae meincnodi’n elfen hollbwysig o’u llwyddiant.

“Bu meincnodi o gymorth i’r teulu Williams asesu eu cryfderau presennol a nodi meysydd gwella a bellach maent yn nhraean uchaf Cymru o ran perfformiad ariannol ar gyfer cynhyrchu gwartheg sugno ar eu fferm 320 erw,” meddai Mrs Williams.

I nifer o unigolion, mae ymuno â system gofnodi Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) sydd wedi’i hariannu’n llawn yn golygu eu bod yn gallu cofnodi’r holl weithgaredd addysgol, trosglwyddo gwybodaeth a hyfforddi, gan storio’r holl gofnodion a thystysgrifau’n ddiogel mewn un man hygyrch. Mae nifer wedi mynd yn eu blaenau i gwblhau Cynllun Datblygiad Personol (PDP) ar-lein Cyswllt Ffermio sy’n eu helpu i asesu meysydd gwybodaeth presennol a nodi unrhyw fylchau lle gallai hyfforddiant eu helpu i weithio’n fwy effeithlon neu gost-effeithiol.

“Mae miloedd o ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru bellach yn cyrraedd neu’n gweithio tuag at y lefelau perfformiad uchaf, gan elwa ar gefnogaeth un i un wedi’i hariannu’n llawn a gwasanaethau ar draws nifer o feysydd. 

“Ar yr amod eu bod wedi cofrestru gyda ni ac wedi derbyn eu henw defnyddiwr a’u cyfrinair unigol gan Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio, maent yn barod i gychwyn manteisio ar yr holl gefnogaeth sydd ar gael,” meddai Mrs Williams.

Ariennir Cyswllt Ffermio gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint