Ymunwch â Cyswllt Ffermio i ddarganfod mwy am brosiect amaeth-goedwigaeth yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes, Bangor, lle mae ŵyn wedi bod yn pori cnydau porthiant ymysg y coed. Mae’r prosiect yn anelu at ddarparu gwybodaeth i ffermwyr ynglŷn â dulliau posibl o arallgyfeirio eu harferion ffermio a chynyddu cynhyrchiant a phroffidioldeb ar y fferm mewn modd cynaliadwy, gan warchod yr amgylchedd a’r tirlun ar yr un pryd.

Mae coed wedi cael eu rheoli er mwyn gadael digon o oleuni’r haul i mewn er mwyn creu lleiniau arbrofol yn tyfu cnydau rêp, maip sofl a chêl  ymysg rhesi’r coed. Mae’r cnydau wedi cael eu pori gan ŵyn o fferm Prifysgol Bangor ac mae eu perfformiad o ran cyfraddau twf a chynnydd pwysau byw wedi cael eu cofnodi. Mae twf a pherfformiad y cnydau hefyd wedi cael ei gofnodi, a hynny o dan a thu allan i ganopi’r coed.

Bydd y digwyddiad agored yn cynnwys cyfle i weld yr ardal lle mae’r treialon yn cymryd lle, adolygu’r data a’r canlyniadau sydd wedi’u casglu hyd yn hyn a thrafod y prosiect a systemau amaeth-goedwigaeth gyda siaradwyr gan gynnwys arbenigwr cnydau porthiant a staff y fferm a’r brifysgol.

 

Pori ŵyn ar gnydau porthiant a dyfwyd mewn system amaethgoedwigaeth
Dydd Gwener 10fed Chwefror 2017 1yp-4yp
Canolfan Ymchwil Henfaes, Abergwyngregyn, Bangor LL33 0LB

 

Croeso i bawb. Am fwy o fanylion ynglŷn â’r digwyddiad, cysylltwch â Geraint Jones ar 01745 770271 /  07398 178698 neu geraint.jones@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Astudiaeth Cyswllt Ffermio yn taflu goleuni newydd ar statws iechyd y pridd mewn caeau tir âr
03 Mawrth 2026 Mae nifer o gaeau sy'n cael eu ffermio mewn
Mae profion genomig yn datgloi potensial llawn buches groesfrid yng Nghymru
26 Chwefror 2026 Mae profi heffrod croesfrid a buchod sy’n
Da i’r blaned, i’r da byw ac i’r busnes
Mae’r ffermwr pedwaredd genhedlaeth, Dylan Jones, yn glir nad oes