MAE nifer o opsiynau i’w hystyried os ydych eisiau ychwanegu gwerth i gig moch a gynhyrchir gartref. Gallech ddefnyddio bridiau traddodiadol a datblygu cynhyrchion ar gyfer y marchnadoedd manwerthu, arlwyo neu fwyd crefftus. Ond, pa mor dda bynnag yw’r syniad, mae’n rhaid treulio amser yn ei ddatblygu i greu’r cynnyrch gorau i’r marchnadoedd yr ydych yn eu dewis er mwyn helpu i gynyddu’r ad-daliad ar eich buddsoddiad yn y cig moch.

Mae amrywiol bethau’n sbarduno pobl i ddechrau edrych ar ffyrdd o ychwanegu gwerth i’w cynnyrch ac ateb y galw gan ddefnyddwyr am gig moch sy’n cael ei gynhyrchu’n gynaliadwy a’i fagu yng Nghymru. Ymysg y sbardunau yma o bosib yw’r awydd i reoli’n well lle mae’r cig moch yn cyrraedd yn y pen draw, newidiadau mewn busnes teuluol, neu ddyheu am gael enw da am fagu’r moch o’r anifeiliaid byw hyd y pwynt lle mae’r cig yn cyrraedd y cwsmer ar y diwedd.

“Mae ychwanegu gwerth yn gallu achub busnesau ffermio yn llythrennol, ond mae’n ymwneud â mwy na’r cynnyrch yn unig. Mae’n ymwneud â threulio amser yn ymchwilio eich syniad a’r farchnad, ac yna benderfynu sut yr ydych am gyflwyno’r cynnyrch hwnnw a’i farchnata yn nes ymlaen,” meddai Myrddin Davies, o Cywain – sy’n cefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd i ychwanegu gwerth a chanfod marchnadoedd newydd i fwyd a diod o Gymru - wrth siarad â chynhyrchwyr mewn cyfres o ddigwyddiadau a drefnwyd ar y cyd gyda Cyswllt Ffermio.

“Gallwch ychwanegu gwerth i gig moch a gynhyrchir gartref drwy ei ddefnyddio mewn prydau parod, arlwyo symudol neu drwy ddatblygu cynnyrch arloesol hollol newydd neu amrywiad ar fwydydd traddodiadol. Buddsoddwch ddigon i sicrhau bod y cynnyrch, y brand a’r deunydd pecynnu’n gywir i’ch marchnad. Yn bwysicaf oll, mwynhewch yr hyn a wnewch, oherwydd byddwch yn treulio llawer o amser ac yn gwario llawer o arian ar y prosiect.”

Wrth ddatblygu cynhyrchion gyda gwerth ychwanegol mae nifer o bethau i’w hystyried, megis sut y bydd y cynnyrch yn cael ei werthu; p’un a yw hynny’n uniongyrchol i’r cyhoedd mewn marchnadoedd ffermwyr, i gwsmeriaid masnach leol, neu i gwsmeriaid mwy drwy gwmni dosbarthu. Mae’n bwysig gwneud ymchwil i’r farchnad ac ymchwil i’r gystadleuaeth, yn ogystal â phennu pwynt gwerthu unigryw. Un arall o’r prif fannau cychwyn yw cyfrifo cost sylfaenol y cynnyrch.

“Fel arfer, mae ffigurau’n ffordd o wirio syniadau’n fuan yn y broses. Heb gyfrifo’r ffigurau dydych chi byth yn mynd i wybod a yw’r cynnyrch yn mynd i weithio. O wybod beth yw cost y cynhwysion sylfaenol, rydych yn gwybod beth yw cost sylfaenol eich cynnyrch a gallwch ganfod a ydych yn cael y fargen orau er mwyn ychwanegu gwerth,” ychwanegodd Mr Davies.

Un arall oedd yn siarad yn y digwyddiad oedd Illtud Dunsford, a sefydlodd Charcutier Ltd yn 2011 ar fferm ei deulu yng Nghwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin fel ffordd o ehangu traddodiad y teulu o   gynhyrchu cynhyrchion cartref. Mae’r busnes yn cynhyrchu bacwn a chig moch traddodiadol, yn ogystal â chynhyrchion wedi’u sychu a’u halltu a chafodd ei enwi’n gynhyrchydd bwyd gorau yng Ngwobrau Bwyd a Ffermio 2016. Tynnodd sylw at y farchnad botensial i gig moch a gynhyrchir yng Nghymru, sydd ar hyn o bryd ond yn cyfrif am 4.4% o’r cig moch cyfan sy’n cael ei brynu.

“Mae marchnad botensial enfawr ar gael i ffermwyr moch effeithlon gynyddu faint o gig moch sy’n cael ei fwyta yng Nghymru sydd wedi ei fagu yng Nghymru” meddai.

“Nid oes un ffordd gywir o ychwanegu gwerth i’ch cynnyrch. Mae’n rhaid i chi wneud yr hyn sy’n addas i chi a’r hyn yr ydych yn teimlo’n gryf yn ei gylch. Mae’n ddiwydiant anodd ond mae cefnogaeth werthfawr ar gael, ac un peth sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’n busnes yw teithio a dod i ddeall y cynnyrch a’r prosesau yn iawn cyn ceisio eu gwneud nhw ein hunain.”

Wrth ystyried sut i ychwanegu gwerth awgrymodd Mr Dunsford ein bod yn edrych ar anifeiliaid o dras neu anifeiliaid o frîd penodol, systemau hwsmonaeth megis systemau organig, maes neu fagu tu allan, a chynlluniau achredu megis y Tractor Coch, dynodiadau enw bwyd wedi ei ddiogelu a’i sicrhau gan RSPCA. Hefyd, anogodd bobl i fanteisio ar unrhyw gefnogaeth sydd ar gael.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites