18 Ebrill 2019

 

all things soils at trawscoed 1 0
Mae ffermwyr Cymru’n cael eu rhybuddio i fod o ddifrif ynglŷn ag iechyd pridd neu fentro gweld lefelau cynhyrchu gwael wrth i gyfnodau o dywydd gwlyb a sych eithafol ddod yn gyffredin. 

Ni fydd caeau sydd â strwythur pridd gwael yn perfformio’n dda mewn tywydd sych iawn am eu bod yn methu amsugno ac wedyn cadw lleithder yn ystod cyfnodau gwlypach, meddai’r gwyddonydd pridd o’r NIAB, Dr Elizabeth Stockdale.

Mae gan briddoedd sydd â strwythur da gymysgedd o ‘fandyllau’ mawr a bach at symud a chadw dŵr, meddai wrth ffermwyr yn ystod digwyddiad ‘Popeth Pridd’ ar y cyd rhwng Cyswllt Ffermio a’r AHDB yn Fferm Trawscoed, un o Safleoedd Arloesedd Cyswllt Ffermio ger Aberystwyth.

“Efallai na fydd y mandyllau mwyaf, y ‘traffyrdd’ fel dw i’n eu galw nhw, yn fwy o drwch na blewyn dynol, ond maen nhw’n bwysig iawn o ran symud dŵr drwy’r pridd,’’ meddai Dr Stockdale.

“Y rhwydwaith o fandyllau bach, y ‘ffyrdd B’, yw’r fan lle mae’r dŵr yn cael ei storio a lle mae’r planhigion yn codi dŵr yn ystod cyfnodau sych.’’

Mae’r rhwydwaith hwn o fandyllau’n cael ei aflonyddu mewn pridd cywasgedig neu bridd lle mae pH isel yn cyfyngu ar weithgarwch biolegol. 

I ganfod cyflwr y pridd, mae Dr Stockdale yn argymell palu bloc o bridd yr un maint â rhaw.

Er mwyn sicrhau na fydd dim cyfleoedd yn cael eu colli, mae'n awgrymu y dylai ffermwyr gario rhaw ym mhob cerbyd y maen nhw’n ei ddefnyddio. 

Sgoriwch y bloc cyfan i ddyfnder o 30cm gan ddefnyddio’r offeryn asesu 'Priddoedd Glaswellt Iach' sydd ar gael am ddim gan yr AHDB. Mae'r ddogfen hon yn rhoi canllaw darluniadol ar asesu pridd ar dir glas.

“Sgoriwch y bloc cyfan yn ôl y rhan waethaf ohono, achos fe fydd unrhyw ran o’r bloc sy’n sgorio’n wael yn effeithio ar berfformiad y bloc cyfan,’’ esboniodd Dr Stockdale.

Un dangosydd da o safbwynt bioleg pridd yw’r boblogaeth mwydod neu bryfed genwair. Mewn pridd ar dir glas sydd â phoblogaeth dda, dylech ddisgwyl cael o leiaf 15 ac yn ddelfrydol mwy na 30 yn y bloc pridd, gydag amryw o fathau’n bresennol, yn ôl canllaw’r AHDB.

"Mae mwydod yn wirioneddol dda am droi a throelli o amgylch y gwreiddiau felly mae gwir angen ichi chwalu’r bloc go iawn i weld beth sydd yno,'' meddai Dr Stockdale. 

Mae peiriannau’n achosi llawer o gywasgu ar y pridd ac, ar dir gwlyb, bydd 50-80% o'r difrod yn cael ei greu y tro cyntaf y bydd y peiriant yn croesi’r tir.

"Rydym yn tueddu i feddwl ei bod yn well rhannu’r difrod drwy ddefnyddio llwybrau gwahanol ar draws y cae, ond drwy ddilyn yr un llwybr fe fydd y difrod yn cael ei gyfyngu i'r fan honno,'' meddai’r Dr Stockdale. 

Mae creu traciau yn fodd i leihau’r difrod posibl sy’n cael ei greu wrth i beiriannau symud ar draws y caeau, ychwanegodd.

Asidedd y pridd yw un o'r ffactorau mwyaf dylanwadol o ran cynhyrchu porthiant ac eto i gyd mae llawer o ffermydd yn colli cynnyrch ac ansawdd ar dir glas am nad ydyn nhw’n chwalu calch. 

Lefel pH y pridd yw’r rhan bwysicaf o'i gemeg, meddai Dr Stockdale. O dan pH 6 mae gallu’r planhigion i berfformio’n cael ei leihau.

Mae'r hi’n argymell trefnu profion pridd er mwyn canfod ei statws o ran maetholion – bob pum mlynedd ar gyfer tir glas a phob tair blynedd ar gyfer caeau silwair. 

Daeth ffermwyr o sectorau gwahanol i’r digwyddiad, gan gynnwys y ffermwr defaid organig David Bodsworth, o fferm Tanllan ger Tregaron.

"Mae'r digwyddiadau hyn yn gwbl hanfodol,'' meddai. "Un rhan o'r broblem gyda'r gymuned amaethu yw ein bod ni’n ynysig. Mae'n bwysig dod i ddigwyddiadau fel hyn i gael gwybodaeth a chyngor ac i glywed profiadau ffermwyr eraill.''

Cafodd y digwyddiad ei hwyluso gan Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio yn y De-orllewin, Abigail James.

dr elizabeth stockdale with farmers richard horder and david bodsworth 1 1
Dywedodd hithau fod y digwyddiad wedi bod yn gyfle i ffermwyr ddysgu sut i reoli eu priddoedd, a dysgu hefyd sut i gynyddu maetholion cartref i’r eithaf. 

Mae sicrhau’r gwerth maethol gorau o'r tail a’r slyri yn hanfodol, meddai, o gofio’r cynnydd yng nghostau gwrtaith.

“Mae tail a slyri’n asedau gwerthfawr ar y fferm, nid cynhyrchion gwastraff, ac mae defnyddio’r rhain yn gywir yn rhan annatod o gynhyrchu glaswellt am gost isel.''

Darparwyd cyllid ar gyfer y prosiect gan Raglen Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020.

 

Cynghorion gorau Dr Stockdale ar gyfer sicrhau pridd iach

 

Biolegol

  • Bwydwch y priddoedd yn rheolaidd drwy gyfrwng planhigion a mater organig
  • Peidiwch â symud pridd oni bai bod rhaid
  • Ystyriwch gynyddu’r amrywiaeth planhigion

Cemegol

  • Cadwch y pH gorau posibl
  • Rhowch faetholion i’r planhigion yn y symiau cywir, yn y mannau cywir ac ar yr adeg gywir
  • Mynnwch wybod y mwynau sydd yn eich pridd a sut y dylai deimlo

Ffisegol

  • Mynnwch ddeall y cyfyngiadau o ran gweithio ar y priddoedd ar y fferm
  • Gofalwch fod y cydbwysedd dŵr ar ei orau drwy waith draenio os oes angen
  • Ceisiwch wella strwythur y pridd a lleihau’r cywasgu arno drwy gyfyngu’r traffig ar bridd gwlyb, er mwyn caniatáu lle effeithiol i’r mandyllau drwy’r amser

Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint