6 Medi 2019

 

 

wilfred emmanuel jones the black farmer 0

Bob hyn a hyn, mae rhywun yn cael syniad busnes gwych, yn mynd amdani ac yn llwyddo! Mae Wilfred Emmanuel-Jones yn un o’r bobl hynny, ac mae The Black Farmer – yr enw y caiff ef a’i gwmni busnes bwyd ei adnabod wrtho – yn dod i Gymru i ysbrydoli entrepreneuriaid o gefn gwlad!

Ddydd Iau, 26 Medi, bydd Wilfred a aned yn Jamaica, ac a fagwyd yng nghanol dinas Birmingham ac sydd, yn ôl ei gyfaddefiad ei hun ‘wedi gwneud yn dda iddo’i hun’, yn un o’r prif atyniadau yn sioe Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru Cyswllt Ffermio, a gynhelir ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd rhwng 10am a 4pm ddydd Iau, 26 Medi. 

Mae Wilfred, un o entrepreneuriaid gwledig amlycaf a mwyaf llwyddiannus y DU, yn y penawdau’n gyson, nid yn unig am ei lwyddiant i gyflwyno ei gynnyrch fferm llwyddiannus i brif fanwerthwyr a chwsmeriaid drwy’r DU ond am ei farn ddi-flewyn-ar-dafod am arallgyfeirio, cyfiawnder cymdeithasol a sawl pwnc arall. Bydd nifer o siaradwyr ysbrydoledig yn ymuno â Wilfred yn cynnwys Hannah Jackson 26 oed o Lerpwl - y ‘red shepherdess’ a ymddangosodd yn ddiweddar ar raglen heriol SAS: Who Dares Wins ar Channel 4. Yr hyn sy’n gyffredin rhyngddynt i gyd yw eu penderfyniad i lwyddo yn eu cyfryw feysydd a’u parodrwydd i rannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu ar hyd y ffordd!

Mae’r digwyddiad eisoes wedi denu bron i 100 o arddangoswyr masnach a busnes yn cynrychioli’r busnesau gwledig mwyaf dylanwadol yng Nghymru a thu hwnt. Efallai byddwch yn penderfynu eich bod eisiau cyfarfod gŵr busnes o Sir Fôn sy’n gweithio i gwmni Microsoft ac wedi’i leoli yn Seattle, fydd yn egluro pam y byddech eisiau buddsoddi yn rhai o’r technolegau diweddaraf o Silicon City i drawsnewid effeithlonrwydd eich busnes! Efallai byddwch chi eisiau darganfod pam fod ffermio manwl gywir eisoes yn golygu bod ffermwyr drwy’r byd yn arloesi neu gallech ofyn i arbenigwr egluro pam mai cyfathrebu diwifr sy’n caniatáu i ddyfeisiau TG gyfathrebu’n bell heb ddefnyddio llawer o fatri, ddylai fod ‘yr eitem fawr nesaf’ i chi ei phrynu!

Mae disgwyl i’r digwyddiad ddenu cannoedd o ffermwyr, perchnogion tir a phobl â busnesau gwledig am ddiwrnod sy’n cael ei hyrwyddo fel ‘diwrnod allan am ddim’ fydd yn rhoi sylw priodol i’ch busnes allai eich helpu i ychwanegu gwerth i’ch busnes a chanfod ffyrdd i gynyddu eich incwm. Hefyd byddwch yn gallu cyfarfod yr unigolion fydd yn gallu eich helpu i ‘droi syniadau’n realiti’ drwy gyfarfodydd ‘blasu’ un-i-un gyda rhai o ymgynghorwyr amaeth cymeradwy Cyswllt Ffermio.

Mae Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n ynghyd â Lantra Cymru yn darparu Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yn annog pawb sy’n gweithio ym maes amaeth a meysydd cysylltiedig i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer mynychu’r digwyddiad unigryw hwn fydd yn llawn gweithgareddau, a’r cyntaf o’i fath yng Nghymru i ganolbwyntio ar gefnogi entrepreneuriaid o gefn gwlad. 

“Mae arloesi ac arallgyfeirio’n prysur ddod yn ddau arwyddair i nifer o ffermwyr a choedwigwyr mwyaf blaengar y DU. 

“Mae datblygiadau technolegol yn cynnwys newidiadau mewn gwyddoniaeth, peirianneg, cipio a dadansoddi data yn datblygu’n gyflymach heddiw nag erioed o’r blaen a dyma eich cyfle i ddysgu sut gallwch chi gynnwys yr holl elfennau gwahanol yma i’ch helpu i sicrhau bod gennych fusnes cynaliadwy, proffidiol sy’n addas ar gyfer heriau a chyfleoedd y dyfodol,” meddai Mrs. Williams.

Cynhelir y digwyddiad yn Neuadd Morgannwg, y Neuadd Fwyd ac adeiladau gerllaw ar faes y Sioe, lle gallwch, os nad ydynt yn digwydd yr un pryd, ddewis o blith 30 o seminarau rhyngweithiol, dan arweiniad unigolion sydd â’r hyder i ymchwilio i syniadau newydd, y weledigaeth i’w trawsnewid yn realiti a’r craffter busnes a’r cymorth i sefydlu mentrau newydd neu arallgyfeirio llwyddiannus. 

“Er y gallwch alw heibio unrhyw adeg o’r dydd, rydym yn argymell yn gryf i bawb ymweld â gwefan Cyswllt Ffermio cyn gynted â phosibl, lle gallwch gofrestru eich bwriad i fynd i’r digwyddiad. Bydd amserlen fanwl ar gael, felly os mai dim ond am gyfnod byr hyd yn oed yr ydych yn bwriadu ymweld, fyddwch chi ddim yn colli’r siaradwyr yr ydych eisiau eu clywed fwyaf.

“Mae hwn yn gyfle unigryw i bawb sy’n rhan o’n diwydiant glywed arloeswyr amaethyddol, dyfeiswyr, gweithgynhyrchwyr, darparwyr gwasanaeth a chynhyrchwyr yfory, o Gymru a thu hwnt yn siarad,” meddai Mrs. Williams.

Ewch i dudalen Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru i gofrestru ar gyfer y digwyddiad a chael gwybodaeth fanwl am yr holl siaradwyr, arweinwyr y seminarau, ymgynghorwyr ac arddangoswyr, ynghyd ag amserlen fanwl fydd yn eich galluogi i gynllunio eich diwrnod ymlaen llaw heb golli unrhyw ran o’r rhaglen. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites