18 Mai 2022
Dywed tyfwr ffrwythau a llysiau a welodd werthiannau pwmpenni casglu eich hun o £7,500 ar 0.5 erw o dir y gall ffioedd mynediad, arlwyo a gwerthiant ac atyniadau eraill fynd â photensial yr incwm i ffermwyr mor uchel â £30,000 yr erw.
Mae Philip Handley yn rhedeg busnes garddwriaeth yng ngardd furiog Stad Mostyn yn Sir y Fflint, gan dyfu amrywiaeth eang o gynnyrch. Yn 2021, cychwynnodd ar brosiect fferm ffocws Cyswllt Ffermio, yn archwilio’r potensial wrth ddatblygu menter bwmpenni casglu eich hun, gyda chefnogaeth Chris Creed, ymgynghorydd i’r cynghorwyr amaethyddol ADAS.
Gall pwmpenni gael eu drilio yn uniongyrchol, ond dewisodd Mr Handley feithrin y planhigion ifanc i gychwyn, ac yna eu plannu â llaw ar 0.5 erw. Mae’n cyfaddef ei fod wedi golygu llawer o waith. “Trwy blannu â llaw, fe wnaethom y gwaith mor galed ag y gallen ni!”, meddai gan chwerthin. Gallai trosi plannwr, fel plannwr bresych ail law, leihau’r gwaith, mae’n awgrymu.
Ond roedd i blannu â llaw ei fanteision. “Dyna roddodd y canlyniadau gorau,” dywedodd Mr Handley.
“Fe wnaethom ddrilio’n uniongyrchol ar rai ardaloedd i brofi, ac ni chynhyrchwyd planhigion o’r un safon yn yr ardaloedd hynny ag a wnaethon ni gyda’r planhigion a blannwyd â llaw.”
“Ni wnaethom sylwi ein bod wedi colli unrhyw blanhigion yn y modylau hynny, ac fe wnaethom ddefnyddio llai o hadau - wrth ddrilio’n uniongyrchol, mae’n rhaid i chi hau mwy o hadau oherwydd mae tebygolrwydd y byddwch yn colli rhywfaint.”
Plannodd 2,500 o blanhigion mewn 2,000 metr sgwâr.
Bu grŵp o dyfwyr ac agronomegwyr ar WhatsApp, sydd wedi eu casglu at ei gilydd gan y rhwydwaith tyfwyr Tyfu Cymru, yn ddefnyddiol iawn. “Roedd tyfwyr ac agronomegwyr yn y grŵp, oedd bob amser yn barod i gefnogi ei gilydd ,ac yn gallu gwneud hynny ac ymateb i unrhyw gwestiynau,’’ meddai Mr Handley.
Neilltuodd 13 diwrnod ym mis Hydref (hanner tymor yr hydref a’r ddau benwythnos yn arwain at yr wythnos honno) i agor y fenter casglu eich hun i ymwelwyr. Ond, roedd yr atyniad mor boblogaidd fel ei fod wedi gwerthu ei bwmpenni i gyd mewn chwe diwrnod, heb wario dim ar hysbysebu – trwy yn hytrach hyrwyddo ar sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Er mwyn cadw’r niferoedd a’r traffig ar lefel y gellid ymdopi â hi, defnyddiwyd Eventbrite ar gyfer archebu lle ymlaen llaw. Cyfyngodd Mr Handley’r lle i 10 cerbyd bob 30 munud, ond fe wnaeth weld problem fach gyda’r system honno: roedd ymwelwyr yn mwynhau eu hunain gymaint fel nad oedden nhw’n gadael ar ôl eu hanner awr.
Cadwodd y costau cyn ised â phosibl – gan dorri casgenni yn eu hanner i bobl eu defnyddio fel sled i gasglu eu pwmpenni o’r cae, a defnyddio ei chwe berfa ar gyfer y gwaith hefyd.
Y pwmpenni mwy anarferol oedd y rhai yr oedd pawb am eu cael - y rhai croen gwyn a rhai croen gwyrdd. Roedd pump y cant o’r cnwd yn wyn, ond os bydd yn tyfu pwmpenni eto, dywed Mr Handley y byddai’n cynyddu’r gyfran hon i 15%. Mae cynnig amrywiaeth o feintiau yn bwysig, hefyd: “Mae pobl eisiau amrywiaeth o feintiau, mawr a bach,” meddai.
Costiodd y pwmpenni £500 am yr hadau a’r deunyddiau, ond nid yw’r swm hwnnw’n cynnwys y costau llafur. “Rhaid i’r tyfwr naill ai roi’r oriau i mewn ei hun, neu dalu am staff ychwanegol; bydd hynny’n angenrheidiol iawn yn ystod y cyfnod gwerthu,” meddai Mr Handley.
Nid yn unig roedd y pwmpenni wedi creu incwm sylweddol, ond fe wnaeth gynyddu gwerthiant siytni, jam, finegr a suropau y mae Mr Handley a’i wraig Debbie yn eu cynhyrchu yng Ngardd Gegin Mostyn.
Gallai fod wedi creu gwerthiannau pellach hefyd trwy gynnig lluniaeth, ond fe wnaeth drosglwyddo’r cyfle hwnnw i ddwy elusen.
Dywed Mr Handley fod llawer o bethau ‘ychwanegol’ y gall ffermwyr sy’n rhedeg mentrau casglu eich hun eu cynnig fel ffynonellau incwm ychwanegol.
“Nid oedden ni’n codi tâl mynediad, ond bydd rhai yn codi £10, hyd yn oed £20 y car. Faint mae pobl yn ei dalu i fynd i barciau thema? Fyddan nhw ddim yn dadlau am dalu £10 neu £20 ar dâl mynediad.
“Mae gan ffermwyr adnodd anferth yn eu tir – mae pobl eisiau cael dod i’r fferm.”
Dywed Mr Handley ei bod wedi bod yn broses werthfawr iawn gweithio gyda Cyswllt Ffermio ar y prosiect, ac roedd wedi cael budd o gyfraniad yr arbenigwr trwy hynny. Mae’n awr yn cynllunio i gynnig profiad casglu blodau haul eich hun yr haf hwn, a blodau eraill a ffrwythau meddal.
“Byddwn yn ei ledaenu dros yr haf. Roedd yr wythnos honno ym mis Hydref yn ddwys iawn, ond fe wnaeth olygu bod popeth wedi gorffen mewn cyfnod byr.’’
Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Ewrop dros Ddatblygu Gwledig.