15 Hydref 2019

 

Bydd cadw at bum egwyddor bwysig yn helpu ffermwyr i gadw eu gwartheg yn iach wrth fynd dan do y gaeaf hwn.

Yn ystod cyfres o ddigwyddiadau dan arweiniad Cyswllt Ffermio ar draws Cymru, rhoddodd yr arbenigwr ar siediau i anifeiliaid, Jamie Robertson, anogaeth i ffermwyr ystyried meini prawf allweddol i asesu a yw siediau gwartheg yn addas i’r diben - glendid, awyr iach, tymheredd, cyflymder yr aer a lefelau lleithder.

“Nid yw’r ffordd y mae adeilad yn edrych yn berthnasol, yr hyn sydd o bwys yw ei fod yn gweithio,” dywedodd.

Awgrymodd Mr Robertson bod llawer o hen adeiladau yn anodd eu glanhau ac mae gan hyn oblygiadau i iechyd y gwartheg.

Os nad yw waliau mewnol wedi cael eu rendro mae glanweithdra yn her – os nad yw’n bosibl rhoi rendr ar hyd y wal i gyd oherwydd cyfyngiadau costau mae’n ddigon rhoi rendr ar yr hanner isaf yn unig.

Rhybuddiodd Mr Robertson yn erbyn arfer y mae wedi ei weld ar lawer o ffermydd - rhoi gwartheg sydd ddim yn dda mewn corlannau lloea. Os oes lle yn y gorlan, rhannwch hi i gadw’r ddau grŵp ar wahân.

Dywedodd Mr Robertson nad yw ffermwyr yn defnyddio digon ar eu milfeddygon pan ddaw’n fater o gael cyngor am lanhau a diheintio.

“Nid yw ffermwyr yn siarad digon â’u milfeddygon am lanhau a diheintio, fe ddylent,” dywedodd.

Rhowch sylw i leithder a thamprwydd mewn adeiladau gan eu bod yn rhoi cyfle i afiechydon ffynnu, gan sbarduno niwmonia a’r sgôth.

Mae’n hanfodol cynnal a chadw landeri a phibellau i reoli tamprwydd mewn adeiladau.

Mae’n bwysig hefyd rheoli tail a gwellt, ac ni fydd lloriau nad ydynt yn draenio yn dda fyth yn gweithio’n iawn, nes cânt eu cywiro. 

Mae mannau effeithiol i aer ddod i mewn a mynd allan yn sicrhau bod digon o awyr iach yn dod i mewn i adeiladau. “Mae gallu llif yr aer i sychu o fewn adeiladau yn hanfodol i atal lleithder rhag crynhoi,” dywedodd Mr Robertson.

Mae cyflymder yr aer hefyd yn ffactor sy’n cadw cydbwysedd. Bydd gormod yn arwain at golli egni yn ormodol a rhy ychydig at ddiffyg awyr iach, gan adael i leithder a firysau grynhoi. 

Argymhellodd Mr Robertson y dylid defnyddio mwy o gladin waliau tyllog i gael gwared ar ddrafftiau ar uchder yr anifeiliaid. “Gallai hyn wella perfformiad yr anifeiliaid gan y gellir rheoli’r egni a gollir, sydd yn arbennig o bwysig i anifeiliaid ifanc.”

Dywedodd Mr Robertson bod cyngor da ar gael yn rhwydd i ffermwyr sydd yn cynllunio adeiladau newydd gan ffynonellau annibynnol yn y diwydiant.

Dywedodd Sarah Hughes, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio (De Orllewin Cymru), mai’r neges trosfwaol o’r gyfres hon o ddigwyddiadau Cyswllt Ffermio yw y gall cywiro gwendidau allweddol mewn adeiladau roi hwb i gynhyrchiant stoc.

“Gall siediau da i wartheg wneud gwahaniaeth dramatig i les a chynhyrchiant,” dywedodd.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y