Rhybuddir ffermwyr bod risg uchel o weld afiechyd llyngyr yr iau yr hydref a’r gaeaf hwn, yn arbennig yn rhannau gorllewinol y Deyrnas Unedig.

Mae’r tywydd yn cael dylanwad mawr ar y risg o weld llyngyr yr iau, yn arbennig mewn hafau gwlyb a gaeafau mwyn. Yn dilyn blwyddyn pan oedd y risg yn uchel yn 2015/16, a arweiniodd at halogi’r porfeydd y gwanwyn a’r haf hwn, mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth Afiechydon Anifeiliaid Cenedlaethol (NADIS) wedi rhagweld risg fawr o weld llyngyr yr iau yn datblygu'r hydref a’r gaeaf hwn.

Mae Cyswllt Ffermio wedi trefnu cyfres o chwe digwyddiad ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth o lyngyr yr iau, a all gostio £25 i £30 y pen i gynhyrchwyr defaid (EBLEX, 2011). Bydd Dr Philip Skuce, o Sefydliad Ymchwil Moredun, a’r Athro Diana Williams, o Brifysgol Lerpwl, yn trafod y modd y mae hafau cynhesach, gwlypach a gaeafau mwynach, ynghyd â gwrthedd i gyffuriau, symudiadau anifeiliaid ac adfer gwlyptir wedi newid patrwm ac amlder llyngyr yr iau yn y Deyrnas Unedig. Byddant hefyd yn amlinellu’r arwyddion clinigol o lyngyr yr iau y dylid chwilio amdanynt a thanlinellu oblygiadau costau’r afiechyd, a all leihau cynnydd mewn pwysau byw o 10% mewn oedolion a 30% mewn ŵyn a lloeau.

Datgelodd arolwg ymwybyddiaeth llyngyr yr iau yn y Deyrnas Unedig yn 2015 nad yw ffermwyr yn deall cylch bywyd llyngyr yr iau yn llawn, felly nid ydynt yn gwybod beth yw’r driniaeth orau i’w defnyddio ar gyfnodau penodol yn natblygiad y parasit. Bydd y digwyddiadau yn helpu ffermwyr i ddysgu rhagor am reoli’r cyfnodau iawn yn natblygiad y llyngyr ar yr amser iawn gyda’r cynnyrch iawn a chreu strategaethau rheoli sydd wedi eu teilwra i weddu i ffermydd unigol, o ystyried hanes y fferm, ei lleoliad, canlyniadau mewn lladd-dai, samplau diagnostig a ffactorau risg ar y fferm.

Bydd materion yn ymwneud â gwrthedd hefyd yn cael sylw ynghyd â’r cynllun pedwar pwynt i reoli llyngyr, sy’n cynnwys diogelu’r borfa yn y gwanwyn a lleihau’r boblogaeth o falwod y llaid yn yr haf, gan fod malwod yn cario llyngyr yr iau am gyfnod. Yn yr hydref mae’r pwyslais ar osgoi heriau mawr i anifeiliaid sy’n pori trwy sicrhau eu bod yn cael eu cadw o ardaloedd lle mae’r risg yn uchel a rhoi triniaeth strategol i anifeiliaid gyda chynhyrchion addas yn y gaeaf.

 

Mae’r chwe digwyddiad yn cael eu cynnal yn:

  • Dydd Mawrth, 1 Tachwedd 2pm-4pm Marchnad Da byw y Trallwng, Trallwng, SY21 8SR- Dr Philip Skuce
  • Dydd Mawrth, 1 Tachwedd 7.30pm-9.30pm, The Knighton Hotel, Broad Street, Trefyclo LD7 1BL Dr Philip Skuce
  • Dydd Mercher, 2 Tachwedd 2pm-4pm, White Hart, Llandeilo SA19 6SD Dr Philip Skuce
  • Dydd Mercher, 2 Tachwedd 7.30pm-9.30pm Clwb Rygbi, Adpar, Castell Newydd Emlyn SA38 9AZ- Dr Philip Skuce
  • Dydd Llun, 7 Tachwedd 7.30pm-9.30pm Gorwelion, Y Bala LL23 7NW- Yr Athro Diana Williams
  • Dydd Mawrth, 8 Tachwedd 7.30pm-9.30pm Gwesty’r Celt, Caernarfon LL55 1AY Yr Athro Diana Williams

Am ragor o wybodaeth, neu i archebu lle yn unrhyw un o’r digwyddiadau cysylltwch â Carys Thomas ar 01970 631402 carys.thomas@menterabusnes.co.uk

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites