Os oes gennych ffocws pendant, yn uchelgeisiol ac yn awyddus i ehangu eich gorwelion, gallai fod yn bryd chwilio am eich pasbort!
Mae Cyswllt Ffermio wedi dechrau chwilio am ffermwyr a choedwigwyr brwdfrydig ac uchelgeisiol sy’n awyddus i gynyddu elfen gystadleuol a hyfywedd ei busnes trwy gymryd rhan yn y rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth, fydd yn cael ei ariannu’n llawn hyd at uchafswm o £4,000. Ac os ydych chi’n un o’r rhai ffodus i gael eu dewis, gallai fod yn bryd chwilio am eich pasbort!“Mae’n gyfle gwych i ddysgu dulliau newydd neu well o weithio yn y sector ffermio neu goedwigaeth yn Ewrop, i ddarganfod mwy am wahanol agweddau tuag at reolaeth busnes ac i ehangu eich gwybodaeth, gallu technegol a’ch arbenigedd rheoli,” meddai Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig ym Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio, gwasanaeth cefnogi ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth.
Mae Cyswllt Ffermio’n awyddus i glywed gan unigolion cymwys, sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, sy’n teimlo y byddant yn elwa o ymweliad â busnes fferm neu goedwigaeth yn yr UE, neu a fyddai â diddordeb croesawu rheolwr fferm neu goedwigaeth cymwys i’w daliad sydd wedi’u hyfforddi’n ddigonol ac yn gweithio yn yr UE ar hyn o bryd.
Nodau’r rhaglen yw galluogi’r ddwy ochr i adnabod cyfleoedd datblygu ar lefel bersonol a busnes, ac i hwyluso trosglwyddiad a gweithrediad gwybodaeth yn arfer dda arloesol a fyddai’n gallu cael ei roi ar waith gartref a rhannu gyda’r diwydiant ehangach yng Nghymru,” meddai Mrs. Williams.
Disgwylir i gyfranogwyr llwyddiannus rannu canfyddiadau eu profiad dysgu trwy sianeli cyfathrebu a rhaglen ddigwyddiadau arferol Cyswllt Ffermio.
Bydd panel beirniaid annibynnol yn gyfrifol am y broses ddethol gystadleuol. Bydd angen i ymgeiswyr fod ar gael ar gyfer cyfweliad a gynhelir ar 7 neu 8 Gorffennaf yn Aberystwyth. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn cael gwahoddiad i fynychu derbyniad swyddogol yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd dydd Llun 18 Gorffennaf. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus wedyn un ai'n mynd ar ymweliad neu'n croesawu ymwelydd am gyfnod hyd at chwe wythnos. Bydd cyfnewidfeydd dwy ffordd yn cael eu hannog, ond nid ydynt yn orfodol.
Bydd cyfnod ymgeisio ar gyfer rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth ar agor rhwng 1 Mehefin a 1 Gorffennaf 2016.
Mae cyfradd ariannu’r rhaglen yn 100% hyd at uchafswm o £4,000 gyda chostau’n cael eu hadhawlio yn ystod yr ymweliad neu'r cyfnod croesawu.
Am fwy o fanylion ynglŷn â manteision y rhaglen hon, y Telerau ac Amodau, meini prawf cymhwysedd ac i lawr lwytho ffurflen gais, ewch i dudalen y Gyfnewidfa Rheolaeth.