noel gowen 0
24 Ebrill 2018

 

Mewn blwyddyn pan fo ffermydd llaeth Cymreig wedi profi un o’r tymhorau gwanwyn anoddaf ar gyfer pori eu buchesi, mae Cyswllt Ffermio yn cynorthwyo cynhyrchwyr llaeth i fod yn reolwyr tir glas mwy effeithiol. 

Bu rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r DU ac Iwerddon ym maes tyfu, mesur, dehongli a defnyddio glaswellt yn rhannu eu gwybodaeth gyda ffermwyr yn ystod gweithdy dros dri diwrnod ar un o Safleoedd Arloesedd Cyswllt Ffermio, Coleg Gellir Aur ger Llandeilo. 

Yn ystod cyfres o sesiynau a seminarau ymarferol, bu’r 15 ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu sut i wella eu priddoedd a’u porfeydd, graddnodi dyfeisiau mesur glaswellt, dehongli twf glaswellt a defnyddio meddalwedd i ddehongli data. 

Roedd siaradwyr yn cynnwys Noel Gowan o gwmni Grasstec, yr ymgynghorydd tir glas Chris Duller, ymgynghorydd LIC Pasture to Profit, Moana Puha, a John Owen, rheolwr fferm Coleg Gellir Aur. 

Dywedodd Mr Owen bod “potensial aruthrol” i ffermwyr llaeth yng Nghymru wneud gwell defnydd o’r glaswellt sy’n bosibl ei gynhyrchu ar eu ffermydd. 

Mae’n credu bod mynychwyr Meistr ar Borfa wedi derbyn mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y gellir rheoli’r glaswellt hwnnw’n fwy effeithlon.

“Rydym yn gallu tyfu llawer o laswellt yng Nghymru, ond yn gyffredinol, nid ydym yn gwneud y defnydd gorau ohono,” meddai. “Gall defnyddio glaswellt fod yn anodd ond mae digon o adnoddau ar gael i’n helpu i reoli hynny.” 

Ymysg ymgeiswyr y cwrs oedd Matthew Davies, sy’n 22 mlwydd oed, ac yn godro 200 o wartheg sy’n lloia yn yr hydref ar fferm Catershook Farm, Templeton. 

Dywed Matthew ei fod wedi ymgeisio ar gyfer y cwrs i ddysgu sut i wella rheolaeth porfa, gyda phwyslais penodol ar gyllidebu glaswellt. “Gorau oll po fwyaf y llaeth y gallwn ei gynhyrchu o laswellt, gan ei fod yn rhatach i ni fel busnes,” meddai. 

“Mae Meistr ar Borfa wedi bod yn werthfawr iawn, yn uniongyrchol, ac yn bwysicaf oll i mi, mae wedi bod yn fanwl iawn.” 

Mae’r fyfyrwraig Marie Powell, o’r Fenni, yn teithio i Seland Newydd i weithio ar fferm laeth am 10 wythnos, a gan fod ei chefndir teuluol yn ymwneud â ffermio bîff a defaid, roedd hi’n awyddus i ddysgu mwy am gynhyrchu llaeth oddi ar y borfa. 

I Marie, un o’r darnau mwyaf gwerthfawr o wybodaeth a ddysgodd oedd sut i reoli padogau mewn tywydd

noel gowen with master grass dairy group 0
penodol. 

“Rydw i wedi dysgu’r theori ac rwy’n edrych ymlaen at roi’r hyn a ddysgais ar waith,” meddai Marie sy’n 22 mlwydd oed. 

Mae Cyswllt Ffermio nawr yn cynnig cyfle tebyg i gynhyrchwyr bîff a defaid gyda gweithdy Meistr ar Borfa yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Glynllifon, ar 21-23 Mai. 

Mae Rhys Davies, Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio ar gyfer Gogledd Cymru, yn annog ffermwyr i ymgeisio. 

“Rydym ni’n chwilio am bobl bositif sy’n awyddus i ddysgu ac sy’n gallu cyfrannu at y sesiynau yma,” meddai. 

“Rwy’n credu bod y mynychwyr ar y gweithdy llaeth wedi elwa’n fawr o’r cyfle a gobeithio y byddant yn mynd â’r negeseuon yn ôl i’w ffermydd eu hunain ac yn gweithredu rhai o’r syniadau a gafodd eu trafod.”

Mae Cyswllt Ffermio wedi'i ariannu gan Llywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o