gilt management
Cynhaliwyd digwyddiadau’n trafod rheolaeth hesbinychod yn ddiweddar mewn cyd-weithrediad gyda Menter Moch Cymru yng Ngogledd a De Cymru gydag Uwch Ddarlithydd Moch Prifysgol Harper Adams, Alan Stewart. Roedd y digwyddiadau wedi’u targedu ar gyfer cynhyrchwyr moch er mwyn darparu gwybodaeth gefnogol wrth fagu hesbinychod cyfnewid ar gyfer y genfaint bridio.

Rhoddodd y cyflwyniad wybodaeth ynglŷn â sut i reoli hesbinychod cyfnewid o enedigaeth hyd at y paredd cyntaf. Gweler y prif bwyntiau, y wybodaeth a’r cyngor a roddwyd yn y cyflwyniad isod.

Argymhellir y dylid magu hesbinychod gyda’r genfaint bresennol lle bo hynny’n bosibl. Dylid dethol hesbinychod o’r rhai hynny sy’n uwchraddol o ran geneteg ac yn strwythurol gadarn. Trwy gydol y cyfnod geni perchyll hyd at ddiddyfnu, mae’n bwysig bod y perchyll yn cael eu diogelu er mwyn osgoi unrhyw niwed posibl trwy wasgu. Gyda hynny mewn golwg, dylai dyluniad corlannau fod yn flaenoriaeth er mwyn osgoi niwed i’r moch bach yn ystod y cyfnodau cynnar.

Trwy gydol y cyfnod diddyfnu a thyfu, mae’n bosibl i’r hesbinychod cyfnewid aros gyda moch eraill o fewn yr un system ac i gael eu rheoli yn yr un modd. Pan fydd yr hesbinychod yn cyrraedd tua 80-90kg neu wrth gyrraedd aeddfedrwydd y dylid eu gwahanu oddi wrth y baeddod a moch eraill yn y system. Fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau pan fo hesbinychod yn cael eu rhannu eu bod yn cael eu cadw gyda grwpiau cyfarwydd neu deuluol a heb eu cymysgu. O’r cyfnod hwn, dim ond wrth ddiddyfnu y bydd hesbinychod a hychod yn cael eu cymysgu. Mae’n bosibl y bydd gofyn i orgyflenwi hesbinychod er mwyn caniatáu mwy o ddewis ac anifeiliaid ychwanegol pe byddai angen.

Y prif ffocws yn ystod y cyfnod hwn yw i’r hesbinychod gychwyn ar eu cylchred oestrws. Er mwyn annog hynny, argymhellir y dylid cyflwyno’r baedd i’r grŵp trwy gyswllt trwyn i drwyn yn unig (sicrhewch fod giât neu rwystr rhyngddynt) am gyfnodau heb fod yn hwy na deng munud y dydd.

Dylai’r cyfnod byr gynnal diddordeb yr hesbinychod yn ogystal â’u cyflwyno i’r progesteron a gynhyrchir gan y baedd. Mae’n hanfodol i beidio â chael cyswllt parhaus rhwng y baedd a’r hesbinychod gan y gallai leihau libido’r baedd ac mae’n bosibl i’r hesbinychod fynd yn rhy gyfarwydd â’r baedd ac felly ni fyddant yn cael eu denu pan fo angen iddynt genhedlu.

Os nad yw’n  bosibl i hesbinychod gael cyswllt wyneb i wyneb â baedd, gellir defnyddio Boarmate sy’n dyblygu arogl baedd. Dylid chwistrellu Boarmate tuag at ffroenau’r hesbinwch/hwch. Gall Boarmate hefyd gynorthwyo i ganfod pan fo hesbinwch/hwch yn gofyn baedd.

Disgwylir y dylai hesbinychod gychwyn ar eu cylchred yn 90-120kg, ond bydd hyn yn cael ei effeithio gan wahaniaethau rhwng bridiau. Unwaith y bydd pob hesbinwch yn cylchu, gellir eu cydamseru gan ddefnyddio Regumate. Mae Regumate yn doddiant i’w lyncu sy’n cael ei roi  i foch er mwyn cydamseru oestrws a lleihau maint y dorllwyth mewn hesbinychod aeddfedu.

Unwaith y bydd Regumate yn cael ei ddefnyddio, ni fydd unrhyw gyswllt gyda’r baedd. Y nod yw i’r hesbinychod gael eu paru ar eu trydedd gylchred oestrws, ond dylid ystyried maint ac oedran yr hesbinychod. Gall maint ac oedran hesbinychod effeithio ar eu perfformiad yn ystod eu hoes yn ogystal â phennu maint ei thorllwyth gyntaf wrth ystyried capasiti’r wterws. Er mor bwysig yw oedran a maint, oedran sydd fwyaf arwyddocaol.

Argymhellir na ddylai hesbinychod fod yn iau na 240 diwrnod pan fyddant yn cael eu ffrwythloni gyda’r bwriad iddynt ddod â pherchyll ar eu penblwydd cyntaf.

Dylid ystyried amseriad paru hesbinychod. Yr adeg orau ar gyfer ffrwythloni yw 12 awr ar ôl ofyliad. Fodd bynnag, gall fod yn anodd canfod pan fo hesbinwch yn gofyn baedd. Dylech ddyfalbarhau gyda hesbinychod er mwyn sicrhau bod yr ocsitosin yn y corff wedi cael digon o amser i ddangos arwyddion o ofyn baedd. Wrth roi pwysau ar gefn yr hesbinwch, os nad ydynt yn sefyll ar y tro cyntaf, argymhellir y dylid dychwelyd a phrofi eto ar ôl 30 munud. Bydd hynny’n rhoi cyfle i’r ocsitosin ryddhau hormonau i’r corff a fydd yn galluogi’r hesbinwch i ddangos arwyddion o ofyn baedd.

Goruchwyliwch bob pariad byw a sicrhau nad yw’r baedd a’r hesbinwch yn cael eu gadael heb oruchwyliaeth am gyfnodau hir. Ni ddylai’r baedd fod yn rhy fawr rhag ofn achosi anaf i’r hesbinwch. Dylai’r baedd hefyd fod yn brofiadol er mwyn gwneud ei waith yn effeithiol. Dylai hyn leihau’r perygl o achosi anafi’r hesbinwch ac i’r baedd.

Roedd holl argymhellion rheolaeth Alan yn cael eu cefnogi gan ffigyrau perfformiad uned foch Prifysgol Harper Adams ei hun sy’n cynnwys 230 hwch o’u geni i’w pesgi at system cwbl ddelltog sy’n geni 32 torllwyth bob 3 wythnos. Yn 2016, llwyddodd Prifysgol Harper Adams i sicrhau cyfradd cenhedlu o 100% ar gyfer hesbinychod gan ddangos bod eu penderfyniadau rheolaeth yn cyd-fynd â’r uned.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites